CBHC / RCAHMW > Newyddion > Bryngaer Pendinas wedi’i thrawsnewid ar ôl clirio eithin!
Drone photograph of Pendinas South Fort from the north-east showing the areas cleared of bracken and gorse in March 2024. Crown Copyright: RCAHMW

Bryngaer Pendinas wedi’i thrawsnewid ar ôl clirio eithin!

Y fryngaer hynafol yn dod i’r golwg unwaith eto er mwyn i’r cyhoedd gael ei mwynhau

Ers i Brosiect Archaeoleg Gymunedol Pendinas (sydd wedi’i arwain gan y Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw) gael ei lansio ddeuddeg mis yn ôl ym mis Mawrth 2023, mae wedi gwneud llawer i gyflawni’r hyn y gofynnodd y gymuned leol amdano, sef cael gwybod mwy am ei bryngaer a’i gweld yn cael ei chynnal a’i chadw yn well! Cafwyd dau gyfnod o waith cloddio gyda chymorth gwirfoddolwyr, teithiau tywys niferus, gweithdai mapio a chrefft, rhaglen o sgyrsiau, a gŵyl archaeoleg lwyddiannus iawn fis Medi diwethaf. Mae’r fenter ddiweddaraf hon wedi gweld y fryngaer hanesyddol yn cael ei thrawsnewid yn rhyfeddol.

Tan ychydig wythnosau’n ôl roedd llawer o’r safle godidog hwn, sydd hefyd yn Warchodfa Natur Leol boblogaidd, yn gudd dan orchudd dyrys a niweidiol o redyn ac eithin a oedd yn bygwth archaeoleg ac ecoleg werthfawr y safle.

Drwy fanteisio ar help grŵp gwirfoddol o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth (Grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth) a thrwy weithio gyda chontractwyr lleol a Chyngor Sir Ceredigion gan ddilyn cyngor yr arbenigwr lleol ar gadwraeth, Chloe Griffiths, llwyddwyd i glirio’r eithin a oedd yn ymledu. Yn ogystal â datgelu ffosydd a chloddiau’r fryngaer yn eu holl ogoniant, mae’r gwaith clirio yn gwella cyflwr y glaswelltir asidaidd arfordirol ar gopa’r bryn, sy’n gynefin prin.

Mae hyd a lled y trawsnewidiad i’w weld yn y lluniau a dynnwyd cyn ac ar ôl y gwaith clirio. Byddai’r sawl a adeiladodd y fryngaer yn yr Oes Haearn yn gallu adnabod ei phroffil yn awr. Meddai Beca Davies, swyddog allgymorth cymunedol y prosiect:

‘Mae modd gweld mor eithriadol yw’r fryngaer hon gyda’i haenau gwych o amddiffynfeydd yng nghanol Gwarchodfa Natur Leol Pendinas a Than-y-bwlch. Gan fod y safle wedi’i glirio erbyn hyn, mae’r Comisiwn wedi dechrau ar arolwg archaeolegol newydd o’r fryngaer, a fydd yn mapio’r holl gloddiau ar y fryngaer i greu cynllun newydd a fydd yn helpu i wella ein dealltwriaeth o’r heneb!’

Meddai’r arbenigwr ar gadwraeth, Chloe Griffiths:

‘Diolch i waith y prosiect, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, mae Pendinas yn cael ei reoli’n well yn awr nag ers blynyddoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae clychau’r gog yn dod i’r golwg yn barod, ac mae Pendinas bellach yn lle gwell o lawer ar gyfer ein planhigion a’n bywyd gwyllt brodorol.’

Mae’r gwaith clirio llystyfiant yn ganlyniad ymdrech fawr ar y cyd rhwng partneriaid y prosiect a’r Gwasanaeth Tân, y Cyngor Sir, Cadw, y tirfeddiannwr lleol a llawer o bobl eraill.

Meddai’r Cynghorydd Keith Henson, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ceredigion:

‘Mae’n wych gweld cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor gadarnhaol i glirio llystyfiant ar Bendinas. Mae’r gwaith clirio wedi’i wneud mewn modd effeithlon a reolwyd, gan ddefnyddio’r robot torri llystyfiant a brynwyd drwy’r prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur drwy law Llywodraeth Cymru. Diolch i staff Cyngor Ceredigion am drefnu ac am sicrhau bod y gwaith clirio wedi’i wneud mewn modd mor ddiogel.’

Pendinas yw’r fryngaer fwyaf ar hyd arfordir Bae Ceredigion, ac mae’n fwy cymhleth nag unrhyw fryngaer arfordirol arall o ogledd Sir Benfro i Ben Llŷn. Er i’r Athro Daryll Forde o Aberystwyth wneud peth gwaith cloddio yn ystod y 1930au, mae rhyw ddirgelwch yn perthyn o hyd i’r fryngaer drawiadol hon ac i gymaint o rai eraill ar draws bryniau Cymru. Ai er mwyn dangos grym y gymuned leol yn yr Oes Haearn y cafodd y fryngaer ei hadeiladu, neu a oedd iddi ddiben ymarferol fel lle i gadw gwartheg a grawn yn ddiogel? Beth yr oedd y bobl a oedd yn byw yma’n ei wneud ar y safle ar y bryn? Bydd y ddau dymor diwethaf o waith ymchwilio archaeolegol, a’r gwaith y mae’r prosiect wedi’i wneud i ymgysylltu â’r gymuned, yn sicr yn helpu i ateb rhai o’r cwestiynau hyn.

Mae disgwyl i’r prosiect ddod i ben ym mis Awst 2024 ond mae llawer mwy o bethau wedi’u cynllunio cyn hynny, gan gynnwys llyfryn dwyieithog am y fryngaer a fydd ar gael am ddim i ysgolion lleol a’r gymuned, gweithdai a theithiau tywys. At hynny, mae gŵyl arall wedi’i chynllunio ar gyfer Gŵyl Archaeoleg 2024 ym mis Gorffennaf.

Os hoffech gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Beca Davies beca.davies@cbhc.gov.uk.

1.	Llun a dynnwyd gan ddrôn o amddiffynfa ddeheuol Pendinas, o gyfeiriad y gogledd-ddwyrain, sy’n dangos yr ardaloedd lle cafodd rhedyn ac eithin eu clirio ym mis Mawrth 2024. Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

2. Llun tebyg a dynnwyd yn ystod gaeaf 2017, sy’n dangos y graddau yr oedd eithin a rhedyn yn gorchuddio’r tir ac yn bygwth ecoleg ac archaeoleg y fryngaer, sydd yng nghanol Gwarchodfa Natur Leol Pendinas a Than-y-bwlch. Hawlfraint y Goron PROSIECT CHERISH 2017. Cynhyrchwyd ag arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020.

3.	Myfyrwyr sy’n aelodau o Grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth gyda Beca Davies (ar y chwith yn y rhes flaen) ger Cofgolofn Wellington ar ddydd Sul gwlyb fis diwethaf. Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

4.	Contractwyr ddechrau mis Mawrth yn malu’r llystyfiant a gliriwyd ar Bendinas yn ddarnau mân i’w daenu ar wyneb pridd.
4. Contractwyr ddechrau mis Mawrth yn malu’r llystyfiant a gliriwyd ar Bendinas yn ddarnau mân i’w daenu ar wyneb pridd.
5.	Y robot newydd i dorri llystyfiant yn gweithio’n galed ar Bendinas! Cafodd y robot ei brynu drwy’r prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur drwy law Llywodraeth Cymru.
5. Y robot newydd i dorri llystyfiant yn gweithio’n galed ar Bendinas! Cafodd y robot ei brynu drwy’r prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur drwy law Llywodraeth Cymru.

21/03/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x