Llun du a gwyn o llyfrgell y Comisiwn yn swyddfa Plascrug / Black and white photograph of the Commission's library in the Plascrug offices

Bydd ein Ffurflen Ymholi/Archebu newydd yn ein helpu i ateb eich cwestiynau’n fwy effeithiol

Rydym wrth ein bodd o gyflwyno ein ffurflen newydd a gwell ar gyfer cysylltu, ymholi ac archebu ar-lein. Bydd y ffurflen ymatebol sy’n hawdd ei defnyddio yn helpu i symleiddio ein Gwasanaeth Ymholiadau er mwyn i chi allu cael yr atebion a’r deunydd y mae arnoch eu hangen.

Mae ein Gwasanaeth Ymholiadau sy’n barod iawn i helpu yn ateb miloedd o ymholiadau bob blwyddyn, gan aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yn hanes eu tŷ neu’u hardal leol, gan fyfyrwyr, a gan elusennau, awdurdodau llywodraethol, grwpiau ymgyrchu, ymchwilwyr proffesiynol a’r cyfryngau. Rydym yn ymchwilio yng nghronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) am safleoedd, yn yr Archif ac yn y Llyfrgell er mwyn cynnig atebion i ystod eang o gwestiynau am safleoedd penodol neu am amgylchedd hanesyddol Cymru yn gyffredinol. Rydym hefyd yn hwyluso mynediad i Archif CHCC ar gyfer y sawl sy’n ymweld â’n Hystafell Chwilio yn bersonol ac ar gyfer y sawl sy’n ymchwilio o bell, drwy ddarparu sganiau neu gopïau o gofnodion a setiau data. Mae’n cynnwys cynnig mynediad i’n casgliadau helaeth o awyrluniau y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil ac ar gyfer achosion cyfreithiol megis anghydfodau ynghylch ffiniau. At hynny, gallwn drwyddedu delweddau at ystod o ddibenion sy’n cynnwys atgynhyrchu delwedd mewn llyfr neu ar y sgrin, mewn arddangosfeydd neu ar fyrddau arwyddion, neu hyd yn oed ar nwyddau! Ac os nad oes gennym ni’r atebion neu’r cofnodion yr ydych yn chwilio amdanynt, byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch cyfeirio at y sawl a all eich helpu.

Yn awr, mae’n haws fyth i chi ofyn eich cwestiynau a gwneud cais am ddeunydd. Nodwch eich manylion personol, ac yna dewiswch a hoffech ofyn cwestiwn neu archebu deunydd. Os ydych am ofyn cwestiwn, bydd blwch testun yn ymddangos lle gallwch ofyn eich cwestiwn – unrhyw beth o ‘Pa mor hen yw fy nhŷ?’ i ‘A oes gennych unrhyw wybodaeth am y maen hir hwn?’. Gallwch ddefnyddio’r opsiwn hwn hefyd i wneud cais am ymweliad â’n Hystafell Ymchwil, naill ai fel unigolyn neu ar gyfer eich ysgol, eich prifysgol neu’ch grŵp cymunedol.

Mae’r opsiwn archebu deunydd yn eich galluogi i wneud cais am sganiau neu gopïau o ddeunydd o’r archif a/neu wneud cais am drwydded i’w ddefnyddio, gofyn am chwiliad o’n casgliad helaeth o awyrluniau hanesyddol, neu archebu set ddata wedi’i theilwra o ddata CHCC. Bydd y ffurflen yn awtomatig yn cynnig y meysydd a’r cwestiynau sy’n berthnasol i’ch archeb, er enghraifft pa fathau o sganiau yr hoffech eu cael, sut yr hoffech ddefnyddio deunydd yr archif, neu ba ardal a pha amrediad dyddiadau yr hoffech i ni eu defnyddio er mwyn chwilio drwy’r awyrluniau. Caiff y taliadau perthnasol eu codi am y gwasanaethau hyn, fel y maent wedi’u nodi yn ein rhestr brisiau a’n ffïoedd trwydded. Cofiwch fod Archif CHCC yn cynnwys eitemau o amryw ffynonellau, felly bydd pob archeb am sganiau neu gopïau o ddeunydd yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau perthnasol o ran hawlfraint. Mae’r archebion hyn hefyd yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau archifol perthnasol, er enghraifft maint eitemau, eu cyfrwng neu’u cyflwr, a allai effeithio ar fformat y copi y gallwn ei gynnig.

Yr hyn sy’n bwysig yw y dylai ein ffurflen newydd roi i’n Tîm Ymholiadau y wybodaeth y mae arnom ei hangen i brosesu eich ymholiad yn sydyn, a lleihau’r holl amser a dreulir yn trafod, sy’n golygu y byddwch yn cael eich atebion, y deunydd neu’r data yn fwy effeithlon. Fodd bynnag, os nad ydych yn teimlo’n gysurus yn defnyddio ein ffurflen ar-lein, mae croeso i chi barhau i’n ffonio, anfon ebost atom neu ysgrifennu atom a byddwn yn fwy na pharod i roi copi papur o’r ffurflen i chi. Yn olaf, rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau a sicrhau eu bod yn hwylus i chi.

Manylion cyswllt:

Cyfeiriad: Ffordd Penglais, Aberystwyth, SY23 3BU

Ffôn: 01970 621200

Ebost: chc.cymru@cbhc.gov.uk

Dolenni cyswllt defnyddiol:

Ffurflen Ymholi/Archebu

Rhestr Brisiau

Ffïoedd Trwydded

Canllawiau i Ymwelwyr â’r Ystafell Chwilio

Tîm y Llyfrgell ac Ymholiadau

12/06/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x