Bydd staff y Comisiwn yn rhoi dwy sgwrs ar-lein am ddim

Diwrnod Archaeoleg Sir Benfro

Mae Diwrnod Archaeoleg Sir Benfro yn cael ei gynnal ar-lein eleni. Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen lawn o siaradwyr adnabyddus a fydd yn trafod amryfal themâu archaeolegol a hanesyddol a bydd dwy sesiwn: yn y bore rhwng 10am a chanol dydd ac yn y prynhawn rhwng 2pm a 4pm.

Bydd tîm CHERISH (Dr Toby Driver, Louise Barker a Daniel Hunt) yn rhoi sgwrs gyntaf y prynhawn ar Stacks, cliffs & cauldrons: Recent fieldwork at the remarkable coastal promontory forts of the Castlemartin Training Area, Pembrokeshire.

Yn ystod mis Awst 2020 fe dreuliodd tîm y Prosiect CHERISH wythnos yn arolygu a chofnodi caerau pentir arfordirol nodedig y cyfnod cynhanesyddol diweddarach yn Ardal Hyfforddi Castellmartin yn Ne Sir Benfro. Mae’r caerau mawr hyn yn erydu, felly fe wnaeth y tîm gofnodion 3D cywir-i’r-centimetr ohonynt er mwyn gallu cadw golwg ar eu cyflwr.

Maen nhw’n cynnwys safleoedd mwy cyfarwydd fel Flimston Bay i rai llai adnabyddus fel Buckspool/The Castle a Crocksydam, y gaer ysblennydd ar Bentir Linney yn yr ardal danio lle mae mynediad wedi’i gyfyngu, a hyd yn oed gaer bentir newydd ei chofnodi. Yn ystod y sgwrs fe ddangosir ffilmiau drôn bendigedig a fydd yn mynd â chi i rannau cudd y safleoedd arfordirol dramatig hyn.

Prosiect 6-blynedd i astudio newid hinsawdd a threftadaeth arfordirol yw CHERISH. Mae’n cael ei ariannu gan yr UE fel rhan o raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020.

I gael mwy o fanylion, ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/event/archaeology-day-2020/

Mae’r digwyddiad am ddim, ond fe’ch anogir i wneud cyfraniad i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

***

Aerial Archaeology and the Gwent Levels

Darlith Gyda’r Nos ar Wastadeddau Byw ac Archaeoleg o’r Awyr: Aerial Archaeology and the Gwent Levels gan Dr Toby Driver. Rhoddir sylw yn y ddarlith i archaeoleg syfrdanol Gwastadeddau Gwent rhwng Cas-gwent yn y dwyrain a Chaerdydd yn y gorllewin.

Gan esgyn i’r awyr mewn awyren ysgafn, gwelwn olion cnydau sy’n dangos lleoliad hengorau, tomenni claddu, bryngaerau, a filâu Rhufeinig, sy’n parhau i gael eu darganfod yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod sychder haf ac yng ngolau isel y gaeaf.

Bydd hediadau’r Comisiwn Brenhinol yn ystod y flwyddyn hefyd yn cofnodi henebion hanesyddol a henebion wedi’u gwarchod, tirweddau diwydiannol, trefweddau, ac archaeoleg blaendraeth Aber Afon Hafren sy’n dod i’r golwg yn ystod llanwau eithriadol o isel.

Eglurir hefyd sut mae dronau a laser-sganio o’r awyr wedi chwyldroi cofnodi archaeolegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Toby ar gael ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y cyflwyniad.

I gael mwy o fanylion: https://www.livinglevels.org.uk/events/2020/11/12/aerial-archaeology-and-the-gwent-levels

Bydd y ddarlith ddi-dâl hon yn cael ei chyflwyno ar Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi gadw’ch lle.

11/05/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x