
Bydd y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil yn Ailagor ar 4 Ebrill 2022
Pan gaewyd y drysau i’n Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil i wneud gwaith adnewyddu ar 3 Chwefror 2020, ein bwriad oedd ei hailagor dair wythnos yn ddiweddarach. Doedd gennym ni ddim syniad y byddai’n aros ar gau am flwyddyn a rhagor. Drwy gydol y cyfnodau clo ac wedyn, mae’r Tîm Llyfrgell ac Ymholiadau wedi parhau i weithredu gwasanaeth o bell, gan ateb miloedd o ymholiadau a darparu sganiau a ffotograffau o’n cofnodion at ddefnydd cyrff y llywodraeth, contractwyr ac ymchwilwyr proffesiynol, y cyfryngau, a’r cyhoedd. Ers yr haf diwethaf rydym hefyd wedi caniatáu i ymchwilwyr ymweld â’r Ystafell Ymchwil drwy apwyntiad. Er bod hyn wedi ateb anghenion llawer o’n defnyddwyr, pleser mawr gennym yw cyhoeddi ein bod ni’n ailagor y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil ar Ddydd Llun, 4 Ebrill; bydd ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau o 9:30 i 16:00, ac ar Ddydd Mercher o 10:30 i 16:30, ac ni fydd angen gwneud apwyntiad.
Yn ogystal ag ailafael yn ein gwasanaeth arferol, dyma’r cyfle cyntaf hefyd i’r cyhoedd weld ein Hystafell Ymchwil ar ei newydd wedd – ac rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n edrych yn hyfryd iawn! Mae gennym nenfwd newydd mwy agored a tho gwydr pyramidaidd sy’n gadael golau naturiol i mewn ac yn caniatáu i ni agor y ffenestri i gael awyr iach.

Pan fyddwch yn dod i’r Ystafell Ymchwil, byddwch chi’n gallu gweld casgliadau helaeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, un o dri chasgliad treftadaeth genedlaethol Cymru. Yn ogystal â miloedd lawer o arolygon, adroddiadau, mapiau a lluniadau, mae gennym y casgliad ffotograffig mwyaf yng Nghymru o bron dwy filiwn o ffotograffau gan gynnwys miliwn o awyrluniau. Gellir chwilio ein casgliad ar Coflein, yma, a bydd ein staff yn fwy na pharod i’ch helpu gyda’ch chwiliadau yn ystod eich ymweliad neu drwy ateb ymholiadau cyn i chi ddod. Wrth gwrs, er na fydd yn rhaid i chi gysylltu i drefnu ymweliad o 4 Ebrill, rydyn ni yn argymell i chi drefnu i weld eitemau ychydig o ddyddiau ymlaen llaw, yn enwedig os ydych am weld ein casgliad o awyrluniau neu nifer helaeth o archifau, gan y bydd hyn yn sicrhau bod popeth yn barod i chi ac y byddwch chi’n gallu manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad.

Pan fyddwch yn ymweld â’r Ystafell Ymchwil, cewch gyfle hefyd i ddefnyddio ein llyfrgell gyfeirio arbenigol sy’n gartref i filoedd o lyfrau a chylchgronau’n gysylltiedig ag archaeoleg, pensaernïaeth, hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru a’r byd. Mae gennym rai llyfrau a chylchgronau nad ydynt yn y Llyfrgell Genedlaethol hyd yn oed! Cewch chwilio catalog y llyfrgell yma, ond – a hyn sy’n arbennig – mae’r cyfan o’n llyfrgell, heblaw am ychydig o lyfrau hynafol neu brin a gedwir yn yr archif, ar silffoedd agored yn yr Ystafell Ymchwil, ac mae croesi i chi eu pori wrth eich pwysau!

Yn ogystal â’n harchifau helaeth a llyfrgell arbenigol, mae ailagor yr Ystafell Ymchwil yn golygu y cewch fanteisio’n fwy uniongyrchol hefyd ar adnodd amhrisiadwy arall – ein staff Llyfrgell ac Ymholiadau cymwynasgar! Er ein bod ni wedi gweithio’n ddiflino i roi cymorth i gymaint o ymchwilwyr â phosibl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf drwy gyfrwng ein gwasanaeth o bell, rydym yn edrych ymlaen at eich helpu wyneb yn wyneb eto. Mae ein staff gwybodus yn awyddus i’ch llywio drwy ein casgliadau ac i hwyluso eich ymchwil i amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru, sy’n cynnwys adeiladau yn ogystal â safleoedd arforol ac archaeolegol.

Yn olaf, er ein bod ni’n ailafael yn ein gwasanaeth arferol i raddau helaeth, bydd rhai mesurau yn aros mewn grym. Cyfyngir ar nifer yr ymwelwyr a gofynnir i chi gadw pellter cymdeithasol a gwisgo masg oni bai bod gennych reswm meddygol dros beidio. Byddwn hefyd yn agor y ffenestri pryd bynnag y bo modd i sicrhau cylchrediad aer da. Bydd hyn yn diogelu iechyd a diogelwch ein staff a’n hymwelwyr a hefyd yn sicrhau y gall ymchwilwyr bregus gyrchu ein cofnodion a’n gwasanaethau’n gysurus ac yn hyderus. Cewch ddarllen ein polisïau a gweithdrefnau presennol yma.
Cewch fynd ar daith rithiol drwy ein Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil yma (heb y to newydd gwaetha’r modd!).
Mae mwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i ni yma. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi o 4 Ebrill ac at eich helpu i ddarganfod ac ymchwilio i amgylchedd hanesyddol Cymru.
Dr Adam N. Coward
Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell
03/22/2022