
Bythynnod: Cartrefi o Waith Cartref

Anheddiad mwynwyr yn Hen Barc, Cwmystwyth, Sir Aberteifi. DS2009_104_006 NPRN 409281
Ni roddwyd erioed fwy o brawf ar ddyfeisgarwch cynhenid tlodion cefn gwlad nag wrth adeiladu’r tai y bu’n rhaid iddynt, yn aml, eu codi iddynt eu hunain – cartrefi o waith cartref go-iawn.
Bythynnod yw’r enw ar yr anheddau bychain hyn nad oes ganddynt, yn aml, fwy o dir na gardd neu, ar y gorau, dyddyn nad oedd yn ddigon i roi bywoliaeth, a bythynwyr yw’r enw ar y rhai a drigai ynddynt.
Gweld delweddau pellach o Bythynnod: Cartrefi o waith cartref
08/29/2012