
Bywyd ar Ynysoedd pell Cymru: Archaeoleg Gwales
Mae ynys greigiog anghyfannedd Gwales yn gorwedd 15 cilometr i’r gorllewin o benrhyn Marloes yn ne Sir Benfro. Ynys anghysbell ac agored ydyw, wedi’i hamgylchynu gan fôr aflonydd a garw. Ac eto, ar y graig fach hon, sy’n gwta 400m ar draws, gwelwn olion tai crwn, llwyfannau adeiladau a llociau amaethyddol yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at y cyfnod diweddar.
Mae mynd i ynys Gwales yn anodd gan mai dyma’r drydedd nythfa fwyaf o huganod Môr Iwerydd yn y DU. Yn wir, mae’n gartref i saith y cant o holl huganod y byd. Dyma warchodfa gyntaf yr RSPB yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1948, ac ni chaniateir i’r cyhoedd lanio yma. Serch hynny, roedd staff y Comisiwn Brenhinol yn ddigon ffodus i allu ymuno ag ymweliad hydrefol blynyddol yr RSPB â’r ynys ar 14 Hydref 2016, pan aeth tri thîm bach o arbenigwyr i ryddhau cywion o sbwriel plastig a oedd wedi hel ar y creigiau.
Roedd ymweliad diwethaf archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol â Gwales yng nghwmni staff yr RSPB yn 2012. Bryd hynny gwnaed yr arolwg a chofnod cyntaf o’i harchaeoleg gymhleth ers dechrau’r 1970au, a buont yn astudio nodweddion newydd a oedd i’w gweld ar awyrluniau diweddar. Yn ystod arolygon a chloddiadau gan Douglas Hague a’r Arolwg Ordnans yn y 1960au a’r 1970au, fe gofnodwyd adeiladau petryalog a chellog yn rhan orllewinol yr ynys, yn agos at un o’r tarddiadau dŵr prin. Ers hynny, mae nifer yr huganod sy’n nythu yma wedi cynyddu ac maen nhw wedi gorchuddio bron hanner yr ynys â’u nythod llaid, gan guddio’r safleoedd cynharach hyn.
Sut bynnag, mae safleoedd archaeolegol yn rhannau canolog a dwyreiniol Gwales bellach yn dod i’r golwg. Wedi i’r tyllau nythu mewn hen nythfa palod ddymchwel, ac i newid hinsawdd beri erydiad gan y gwynt a chan law ac ewyn môr trwm, mae’r uwchbridd wedi cael ei sgwrio i ffwrdd mewn mannau gan ddatgelu nifer o safleoedd archaeolegol megis cytiau cerrig, terfynau caeau, a phyllau storio dŵr cynnar o bosibl.
Yn ystod ymweliad 2016 fe wnaeth archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol ddarganfyddiadau newydd, gan gynnwys tŷ crwn o gerrig sydd efallai’n gynhanesyddol, a chlwstwr o furiau o amgylch llwyfan adeilad, sydd o bosibl yn perthyn i’r Oesoedd Canol. Ni ddarganfuwyd unrhyw arteffactau, heblaw am gôn blaen roced yn dyddio’n ôl i’r amser pan gâi Gwales ei defnyddio ar gyfer ymarfer bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r amrywiaeth eang hon o adeiladweithiau ar ynys mor fach ac anghysbell yn tystio i ganrifoedd o anheddu. Fel y cyfryw, mae Gwales yn lle arbennig iawn o ran ei harchaeoleg ac efallai y bydd arolygon ac ymchwil pellach yn ein galluogi i ddeall a dyddio ei hanes cymhleth yn well.
Hoffai’r Comisiwn Brenhinol ddiolch i’r RSPB am roi cyfle i ni ymweld â’r ynys, ac i Tim a Beth o Venture Jet am daith gyffrous, a gwlyb iawn, yn ôl o’r ynys bellennig hon.
Toby Driver a Louise Barker, CBHC

Mae muriau darniog wedi goroesi o anheddiad cynnar a gloddiwyd ym 1972. Mae nythod huganod yn eu hamgylchynu erbyn heddiw.

Wyneb bregus y tir ar ynys Gwales: wrth iddo erydu mae safleoedd archaeolegol newydd yn dod i’r golwg.

Louise a Toby yn gwneud arolwg ar yr ynys, a’r môr garw y tu ôl iddynt. Llun drwy gwrteisi Greg Morgan, RSPB Ynys Dewi.

Côn blaen wedi’i rydu o fom neu roced a laniodd ar yr ynys pan oedd Gwales yn cael ei defnyddio fel targed bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
10/25/2016