Bywydau’r Rhyfel Byd Cyntaf: Creu Cofeb Ddigidol

Mae’n bleser mawr gan Gorffennol Digidol 2017 groesawu Charlotte Czyzyk, Rheolwr Prosiect ar gyfer prosiect Lives of the First World War Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth (IWM), yn un o’n prif siaradwyr.

Wedi’i sefydlu ym 1917 ‘nid fel cofeb i ogoniant milwrol ond i gofnodi llafur ac aberth pawb a fu’n gwasanaethu mewn iwnifform neu’n gweithio ar y ffrynt cartref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, mae’r IWM yn credu bod pob un o’r 7.5 miliwn o ddynion a menywod o bob rhan o Brydain a’r Gymanwlad a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Mawr ‘yn haeddu cael ei gofio’.

Fel rhan o’r digwyddiadau canmlwyddiant i goffáu’r rhyfel, mae’r IWM wedi sefydlu llwyfan ar-lein newydd i greu Stori Bywyd ar gyfer pob dyn a menyw a gyfrannodd at yr ymdrech ryfel. Gall pobl uwchlwytho ffotograffau, hanesion a chofnodion i storïau bywyd unigol, yn ogystal â chreu cymunedau a all atgynhyrchu’r cymunedau a ffurfiwyd rhwng pobl, boed o fewn bataliynau, ffatrïoedd, trefi, corffluoedd meddygol neu ar fwrdd llongau. Ers mis Mai 2014 mae mwy na 7.5 miliwn o storïau wedi’u hychwanegu, a mwy na 3,500 o gymunedau wedi’u creu.

Bydd Charlotte yn esbonio sut mae’r llwyfan ar-lein yn gweithio, yn sôn am rai o’r storïau diddorol sydd wedi dod i’r amlwg, ac yn rhoi cyngor ar gyfleoedd ar gyfer ymchwil pellach.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

 

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr    

01/11/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x