Cael y Gorau o Brydain oddi Fry

PEILOTA’R RHYNGRWYD

‘Cael y gorau o Brydain oddi Fry

 

Dydd Gwener 7, Rhagfyr, 2012
Canolfan Addysg Gymunedol Penparcau,
Aberystwyth, SY23 1SH

Oes gennych chi ddiddordeb mewn awyrluniau? Hoffech chi ddysgu mwy am hanes? Eisiau arweiniad ar ddefnyddio’r rhyngrwyd?

Mae Canolfan Addysg Gymunedol Penparcau yn cynnal dwy sesiwn DDI-DÂL i ddangos i bobl sut i fanteisio’n llawn ar gasgliad ar-lein gwych o awyrluniau o Gymru, yr Alban a Lloegr a dynnwyd rhwng 1919 a 1953.

Bydd y sesiynau’n cynnwys:
• Cyflwyniad byr am y prosiect a’r gweithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt;
• Cyfle i archwilio’r casgliad ac ychwanegu eich atgofion a’ch sylwadau eich hun;
• Te a bisgedi am ddim ar ôl y sesiwn i bawb sy’n cymryd rhan.

Cewch ddigon o gyfle i ofyn cwestiynau, dysgu sgiliau newydd, a darganfod sut mae Prydain wedi newid yn ystod yr ugeinfed ganrif. Bydd dwy sesiwn: Bore 10-12:30pm / Prynhawn 2-4:30pm

Mae nifer cyfyngedig o leoedd; i drefnu’ch lle cysylltwch â: Swyddog Gweithgareddau Prydain Oddi Fry
Natasha.scullion@cbhc.gov.uk

11/29/2012

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x