
Caeluniau Cynnar Eryri
Ail-greu a diogelu tirweddau cynhanesyddol a Rhufeinig gogledd-orllewin Cymru
Astudiaeth newydd sy’n cael ei gwneud gan Emily La Trobe-Bateman PhD.
Mae caeluniau cynhanesyddol a Rhufeinig gogledd-orllewin Cymru yn cynnwys ffiniau caeau, llociau cysylltiedig ac aneddiadau. Bydd y prosiect yn edrych ar sut a pham y maen nhw wedi newid gydag amser.
Cwestiynau ymchwil
- Sut a pham y cafodd uwchdiroedd Eryri eu cau’n gyntaf?
- Beth mae’r dystiolaeth ar gyfer ffiniau caeau, llociau ac aneddiadau yn ei ddweud wrthym am newid cymdeithasol ac economaidd?
- Beth yw dylanwad caeluniau cynnar ar adeiledd tirweddau diweddarach?
03/17/2017