
Canllawiau Pensaernïol Pevsner: ‘The Buildings of Wales’
Efallai bod hwn yn ymddangos yn ddewis braidd yn anfentrus ar gyfer dathlu Wythnos Llyfrgelloedd (o ystyried y lliaws o gyfrolau rhyfeddol ac ecsotig y gellid eu dewis ar gyfer achlysur o’r fath) ond yn y gwaith mae’r llyfrau hyn yn adnodd amhrisiadwy y manteisir arno bron bob dydd.

Roedd y cyfrolau cyntaf, a luniwyd gan Syr Nikolaus Pevsner yn y 1940au, yn ymdrin ag adeiladau yn Lloegr yn unig, a chawsant eu cyhoeddi rhwng 1951 a 1974. Estynnwyd y gyfres yn y man i gynnwys Cymru, Yr Alban ac Iwerddon, a chyhoeddwyd y gyfrol gyntaf ar Gymru, sef Powys (Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog) ym 1979. Rhwng y dyddiad hwn a 2009 fe ymddangosodd cyfrolau ar Sir Gâr a Cheredigion, Clwyd (Sir Ddinbych a Sir y Fflint), Morgannwg, Gwent / Sir Fynwy, Gwynedd a Sir Benfro; a chyhoeddwyd y gyfrol wreiddiol ar Bowys mewn fformat mwy o faint yn 2013.
Mae ‘The Buildings of Wales’ yn cydategu’r cofnodion yng nghronfa ddata safleoedd y Comisiwn Brenhinol, Coflein. Er eu bod yn canolbwyntio i raddau helaeth ar adeiladau ‘pwysig’, cysyniad a ystyrir yn awr yn eithaf henffasiwn efallai, mae’r cyfrolau yn darparu darlun o bentref, tref neu ardal, a chyd-destun ehangach iddynt. Yn gyffredinol, ceir yn y cyfrolau gyflwyniad i’r sir; trafodaeth ar gefndiroedd hanesyddol yn ôl cyfnod; penodau ar henebion, mathau o adeiladau, pensaernïaeth frodorol, ac ati; rhestr o safleoedd / adeiladau; lluniau lliw ar y tudalennau canol; a mynegeion pobl a lleoedd.
Lynne Moore
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


10/06/2020