Soar Welsh Independent Chapel, Lampeter. A town chapel rebuilt in 1874; photograph showing the congregation leaving the chapel c.1910.

Capeli Anghydffurfiol Cymru: Pensaernïaeth Genedlaethol

Gellid dadlau mai capeli Anghydffurfiol yw’r adeiladau mwyaf eiconig yng Nghymru, ond maen nhw hefyd ymhlith y mathau o adeiladau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu cau, o fynd â’u pen iddynt neu o gael eu dymchwel. O gapeli gwerinol dirodres diwedd yr 17eg ganrif i gapeli trefol hyderus Cymru ddiwydiannol, fe fydd Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) y Comisiwn Brenhinol, Susan Fielding, yn cloriannu pensaernïaeth y capeli a’i lle yn ein cymdeithas, ac yn trafod sut mae’r Comisiwn Brenhinol yn mynd ati i gofnodi a deall yr adeiladau pwysig hyn. Dangosir lluniau yn ystod y sgwrs er mwyn egluro cynllun capeli anghydffurfiol ac olrhain eu datblygiad o gapeli syml â muriau hir yr 17eg/18fed ganrif i gapeli mawr â ffasâd crand diwedd y 19eg ganrif. Ystyrir hefyd newidiadau pellach yn yr 20fed ganrif. Yn ogystal, trafodir rhai o brif benseiri’r capeli, y defnydd cymdeithasol ac addysgol a wneid ohonynt, a rhai o ganlyniadau penodol ein prosiect cofnodi yn nhermau niferoedd, dosbarthiad, arddulliau, enwau, ac ystadegau o ran nifer y capeli a ddymchwelwyd / addaswyd ac ati. Cynhelir y sgwrs ar-lein Ddydd Iau nesaf, 3 Mehefin, am 5 pm. I gael mwy o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i:

▶ Digwyddiad: Capeli Anghydffurfiol Cymru: Pensaernïaeth Genedlaethol

Soar, Capel yr Annibynwyr Cymraeg, Llambed. Capel trefol a ailadeiladwyd ym 1874; mae’r llun yn dangos y gynulleidfa yn gadael y capel c.1910.
Soar, Capel yr Annibynwyr Cymraeg, Llambed. Capel trefol a ailadeiladwyd ym 1874; mae’r llun yn dangos y gynulleidfa yn gadael y capel c.1910.

▶ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Soar, Capel yr Annibynwyr Cymraeg

Maes-yr-onnen, Sir Faesyfed, c.1697, y capel cynharaf sydd wedi goroesi yng Nghymru. Roedd yn wreiddiol yn feudy tŷ hir a chafodd ei gofnodi ar gyfer llyfr y Comisiwn, Houses and History in the March of Wales Radnorshire 1400-1800, fe’i hadeiladwyd yn sgil Deddf Goddefiad 1689.

▶ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Maes-yr-onnen, Capel yr Annibynwyr

Soar-y-mynydd, ger Tregaron, capel gwledig nodweddiadol a adeiladwyd c.1822 ac sydd, efallai, y capel yng Nghymru sydd wedi cael tynnu ei lun fwyaf.
Soar-y-mynydd, ger Tregaron, capel gwledig nodweddiadol a adeiladwyd c.1822 ac sydd, efallai, y capel yng Nghymru sydd wedi cael tynnu ei lun fwyaf.

▶ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Soar-y-mynydd, Capel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg

Cafodd Capel Als, y capel enwog yn Llanelli, ei adeiladu gyntaf yn rhan olaf y 18fed ganrif, ei ailadeiladu a’i helaethu ym 1852 yn ôl cynllun y pensaer Thomas Thomas, Glandŵr, a’i ailadeiladu eto, yn rhannol, gan y pensaer Owen Morris Roberts, Porthmadog ym 1894.

▶ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Capel Als, Capel yr Annibynwyr

Mae Peniel, Tremadog, yn enghraifft arbennig iawn o gapel yn y dull clasurol. Cafodd ei adeiladu ym 1810 i William Madocks, sylfaenydd Tremadog, a’r prif ddylanwad ar y pensaer oedd Eglwys Sant Paul yn Covent Garden a gynlluniwyd gan Inigo Jones ac a godwyd ym 1633.

▶ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Peniel, Capel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg

05/29/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x