
Carmen Mills, Arlunydd Preswyl yn y Comisiwn Brenhinol
Mae David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus, yn holi Carmen Mills am ei hangerdd dros gelf ac archaeoleg yn y ddegfed gynhadledd Gorffennol Digidol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ym mis Chwefror 2018.
DT: Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich cefndir?
CM: Doeddwn i ddim wedi bwriadu gwneud celf, ond pan oeddwn i yn fy mhedwardegau hwyr fe es i’n sâl gydag ME, ac roeddwn i’n methu gwneud dim i bob pwrpas am ddeng mlynedd. Pan oeddwn i’n well ac yn gallu mynd allan eto, cefais fod darllen yn ymdrech, a bod ysgrifennu’n ymdrech. Allwn i ddim ysgrifennu, ond fe allwn i arlunio. Felly awgrymodd fy mab y dylwn fynd i’r coleg a gwneud cwrs mewn Celf a Dylunio, a chefais fy rhoi’n awtomatig ar gwrs gradd. Doeddwn i ddim wedi meddwl gwneud gradd, ond cyn i mi sylweddoli bron roeddwn i’n dilyn gradd mewn Celfyddyd Gain ac wrth fy modd! Yna fe ddois i Aberystwyth yn 2013 i wneud fy MA, ac rydw i wedi aros ymlaen i astudio am PhD. Fe ges i fy ysbrydoli mewn gwirionedd yn ystod ail flwyddyn fy ngradd BA pan es i ar daith dywys i Fylingdales Moor, ychydig i’r gogledd o Scarborough, lle roeddwn i’n arfer byw. Roedd tân mawr wedi bod yno yn yr haf ac roedd llawer o’r grug a’r eithin wedi’i losgi’n ulw a llu o gerrig gyda cherfiadau Neolithig arnynt wedi dod i’r golwg am y tro cyntaf. Roedd cyffro mawr yn yr ardal, ac fe es i ar daith gerdded dywys yng nghwmni archaeolegydd i chwilio amdanyn nhw. Fe ges i fy nghyfareddu’n llwyr gan y profiad o fod yno, o weld y graig, teimlo’r graig, a gallwn roi fy llaw lle bu llaw rhywun arall 6,000 o flynyddoedd ynghynt. Fe wnaeth argraff fawr arna i, a byth ers hynny mae archaeoleg a manylion archaeolegol wedi bod yn fan cychwyn ar gyfer fy ngwaith.
DT: Ydych chi’n meddwl efallai fod eich ymateb fel arlunydd yn wahanol i ymateb archaeolegydd?
CM: Rydw i’n credu bod hynny’n wir. Mewn rhai ffyrdd mae gan archaeoleg a chelf lawer yn gyffredin yn yr ystyr eu bod yn faterol iawn, yn ymarferol iawn, a bod gennych ddiddordeb mewn sut mae pethau’n teimlo ac ym mhriodweddau pethau. Ond mae yna wahaniaeth yn yr ystyr bod gan yr arlunydd y rhyddid i gymryd hyn oll a’i weld o’i safbwynt ei hun. Serch hynny, mae yna lawer iawn o gydblethu’n bosibl rhwng y ddwy ddisgyblaeth.
DT: Pan ddaethoch i weithio yn y Comisiwn, pa bethau am y Comisiwn a wnaeth danio’ch dychymyg yn arbennig?
CM: Y tro cyntaf i mi ddod i’r Comisiwn oedd pan roddodd Penny [Penny Icke, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth] wahoddiad i mi gymryd rhan mewn digwyddiad Archwiliwch Eich Archifau a dyna pryd y sylweddoles i faint yn union o ddeunydd oedd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cofnodion, mapiau a data hollol anhygoel – rydych chi’n gwybod yn well na fi am yr amrywiaeth o ddata – ond doedd gen i ddim syniad fod yma gasgliad mor gyfoethog. O weld mor werthfawr oedd yr adnodd, fe wnaeth i mi feddwl am bwysigrwydd cadw’r dreftadaeth sydd gennym. Ac un o’r pethau rydw i’n ei wir edmygu am y Comisiwn yw bod ei archif yn esblygu’n barhaus, yn tyfu o ddydd o ddydd. Felly mae pethau’n mynd i mewn iddo sy’n newyddion heddiw, os hoffwch chi, ond a fydd ryw ddydd o ddiddordeb archaeolegol, diolch i weledigaeth y Comisiwn yn casglu’r deunydd nawr. Rydw i’n credu bod hynny’n rhan fywiog iawn o waith y Comisiwn ac rydw i’n awyddus i’w gefnogi.
DT: Mae gennym amrywiaeth o wahanol bethau yn yr archif. Gallech alw rhai o’r rhain yn gelf, ac yna mae gennym y rhan fwyaf o’r casgliad, sy’n gymysgedd o ffotograffau, cofnodion testun a lluniadau. Oes gennych chi fwy o ddiddordeb mewn un yn fwy na’r lleill?
CM: Nid y pethau gweledol ydy fy unig ddiddordeb. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn ffeithiau. Rydw i’n hoffi ymgolli mewn ffeithiau. Rydw i’n dychmygu bod gen i bot mawr yn fy mhen. Rhaid bod gennych ymennydd cartŵn i weld hyn. Mae gen i bot mawr yn fy mhen ac fe fydda i’n rhoi popeth sydd o ddiddordeb i mi yn y pot yna. Mae hynny’n cynnwys delweddau, testun, sgyrsiau gyda phobl, ffilmiau, clipiau fideo, pethau rydw i’n eu dysgu ar YouTube. Mae popeth yn mynd i mewn, ac yna rydw i’n darganfod bod pethau’n dod allan. Yna fe fydda i’n gwneud darn o waith, ac mae’r holl bethau hyn wedi synthesu mewn rhyw ffordd, ond heb y mewnbwn yna does yna ddim gwaith. Does gen i ddim syniad sut mae’n gweithio, ond gorau po fwyaf o fewnbwn sydd – dyna’r cyfan rydw i’n ei wybod. A bu gen i ddiddordeb erioed mewn darllen am bethau, a dysgu am bethau; felly er nad ydw i’n ceisio bod yn archaeolegydd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn darllen am archaeoleg, yn enwedig am y bobl gynnar, am gynhanes.
DT: Felly, mae yna ddiddordeb personol sy’n cael mynegiant yn eich celf?
CM: Gan mai dyna beth ydy celf yn y pen draw. Mae’n gwestiwn o durio i lawr i’r hyn rydych chi fel unigolyn, a phenderfynu wedyn sut gall hyn gael ei fynegi ar ffurf weledol gan fod y pethau sy’n mynd â’ch bryd chi fel unigolyn yn cyfrif. A’ch persbectif chi ar fywyd, sut rydych chi’n edrych ar fywyd, drwy eich diddordebau chi, mae hynny’n bwysig, ac fel arlunydd mae’n golygu bod gennych duedd ac awch i greu pethau gweledol sy’n cyfleu hynny.
DT: Fyddwch chi’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng penodol?
CM: Rydw i wedi rhoi cynnig ar bob math o bethau, ac rydw i’n dod i’r casgliad bod fy nghrefft yn cael ei gyrru gan dynnu lluniau yn fwy na dim byd arall. Felly mi fydda i’n peintio, ond hoffwn weld llawer o’r paentiadau hynny fel lluniau, yn hytrach na phaentiadau go iawn. Fe fydda i’n gwneud llawer o collages, ac yn gweithio gyda cholagraffau. Rydw i’n gweld yr holl bethau hyn fel ffordd o ddatblygu fy arfer tynnu lluniau. I mi, tynnu lluniau yw’r agwedd bwysicaf ar fy nghrefft.
DT: Beth rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n ei gynhyrchu fel arlunydd preswyl? Eich syniadau datblygol – oes gennych chi ryw syniad eto i ba gyfeiriad y byddwch chi’n mynd?
CM: Wel, rydw i wrthi’n casglu deunydd sylfaenol. Rydw i wedi dechrau cyfres o luniadau cynnar ar gyfer y prosiect Llongau-U, wedi’i hysgogi gan un o’u delweddau, a oedd, rydw i’n meddwl, yn ddelwedd sonar o wely’r môr lle rydych chi’n cael awgrym yn unig. Allwch chi ddim gweld y gwrthrych, ond mae yna awgrym ei fod e yno. Ac, wrth gwrs, peth archaeolegol iawn ydy hyn, onid ydy? Y teimlad bod yna rywbeth yno, a bod yn rhaid i chi gael gwybod, rhaid i chi fynd i lawr drwy’r haenau i ddarganfod beth ydy e. Felly rydw i wedi dechrau cyfres o luniadau syml yn ymwneud â hyn. Ac mewn prosiect arall, y prosiect CHERISH, mae delweddau LiDAR yn cael eu cynhyrchu sy’n brydferth ynddyn nhw eu hunain. Dydw i ddim wedi dechrau eto, ond mae gen i syniad ar gyfer cyfres o luniau wedi’u seilio ar y rhain i raddau helaeth, a datblygu’r syniad yma a gweld ble bydd yn mynd. Ar ôl penderfynu ar fan cychwyn, fe fydda i’n gallu siarad am hynny.
DT: Mae gennych ddiddordeb yn y prosiectau presennol. Ai’r rhain fydd prif ganolbwynt eich gwaith, neu a fyddwch chi’n edrych ar y casgliadau ehangach?
CM: Rydw i wedi cychwyn gyda’r ddau brosiect yna, yn rhannol gan i mi gael fy nghyffroi gan y profiad o’u gweld nhw’n datblygu o’r dechrau bron, a gan fod cyffro’r ddau dîm sy’n gweithio arnyn nhw mor heintus. Mae hynny ynddo’i hun yn ysbrydoledig iawn. Rydw i’n credu y bydd gwaith y Comisiwn yn ei gyfanrwydd bob amser yn gefnlen i hyn oll. Ac mae’n bosibl y bydda i’n aros gyda’r Comisiwn am hyd at flwyddyn ac, ar ôl hynny, hyd yn oed os nad oes gen i gysylltiad ffurfiol ag e, fe fydda i’n parhau i greu darnau o waith yn ymwneud ag e, gan fy mod i’n ei ystyried yn ffynhonnell mor gyfoethog, yn ffynhonnell gyfoethog o syniadau.
DT: Wrth i chi ddatblygu’r gwaith yma, oes gennych chi ryw syniad beth fydd y canlyniadau terfynol a sut y byddan nhw’n cael eu cyflwyno i bobl?
CM: Dim syniad o gwbl. Fyddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl am hynny ar hyn o bryd. Fe fyddwn i’n gadael i bethau fynd i mewn, ac ymdreiddio, ac yna pan fydda i’n dechrau gwneud y gwaith o ddifrif fe fydd gen i syniad gwell.
DT: Wrth i ni fynd drwy’r broses yna, rydyn ni’n ystyried beth fydd y ffordd orau o ddefnyddio’r gelf y byddwch chi’n ei chreu, sut i’w defnyddio yn ein gwaith ymgysylltu, sut i’w defnyddio i roi cyfle i bobl ymhél â’n casgliadau mewn ffyrdd hollol wahanol, a bydd yn ddiddorol iawn gweld yr ymateb creadigol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Dyna beth rydyn ni’n edrych ymlaen ato fwyaf.
DT: Sut gwnaethoch chi ddechrau arni?
CM: Fe es i ar daith dywys drwy’r archif, a gweld mai llawer iawn o silffoedd yw e i bob pwrpas, ac fe wnaeth argraff fawr arna i. Doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd, ac fe dreuliais i’r rhan helaethaf o’r dydd yn gwneud llawer o luniau bach, ond fe ddatblygodd y rhain wedyn. Fe fues i’n gweithio arnyn nhw ac rydw i wedi dod â rhai lluniau A3 gyda mi i’w rhoi ar yr hysbysfwrdd. Lluniau gorffenedig sy’n benodol archaeolegol, ond sy’n deillio’n gyfan gwbl o’r profiad yna.
DT: Rydw i’n meddwl y gallwch gysylltu hynny’n syth ag archif – sianeli gwybodaeth, a’r drefn.
CM: Ac i wneud y lluniau fe ddefnyddies i ffilm ddrafftio ‘permatrace’ i ddechrau ac yna, gyda’m set o offer archaeolegol, fe es i dros y llun ar y ffilm ddrafftio i gynhyrchu argraff ar y papur odano, ac yna fe ddefnyddies graffit i ddod â’r argraff allan; felly mae’r broses mewn gwirionedd yn golygu dod â rhywbeth i’r wyneb, gwneud rhywbeth yn weladwy nad oedd yn weladwy o’r blaen.
DT: Felly, mae’r broses archaeolegol, yn ogystal â rhoi syniadau i chi ynghylch beth i’w wneud, yn darparu’r technegau ar gyfer ei wneud hefyd.
CM: Ydy, rydw i’n defnyddio’r technegau hynny, ac yn gweld beth sy’n digwydd, a beth y gellir ei wneud gyda nhw, a dyma un achos lle mae wedi gweithio rwy’n meddwl. Rydych chi’n cael y syniad o rywbeth wedi’i guddio. Gallwch chi weld rhan ohono, ac rydych chi eisiau gwybod mwy, rydych chi eisiau gwthio beth sy’n cuddio pethau i ffwrdd a gweld y gweddill. Felly rydw i wedi datblygu cyfres o luniau fel rhan o’r gyfres ‘Archifau’. Mae hyn oll wedi’i ysbrydoli gan y Comisiwn Brenhinol – mae’n lle ysbrydoledig iawn i fod ynddo.
DT: Mae arlunwyr eraill wedi chwilio am ysbrydoliaeth mewn archaeoleg. Ydych chi’n ymwybodol o hynny? Fyddwch chi’n defnyddio eu gwaith i gael ysbrydoliaeth?
CM: Na fyddaf. Ar ôl i mi weld y darnau o gelf ar gerrig fe sylweddoles fod cloddiad ar y gweill y tu allan i Scarborough, yn Star Carr, a doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd mor enwog oedd y safle. Fe es i yno, ac fe ddes i i gysylltiad â’r tîm – erbyn hyn maen nhw’n cael eu galw’n Dîm Ôl-Rewlifol Adran Archaeoleg Prifysgol Efrog. Felly roeddwn i mewn cysylltiad cyson â’r bobl yn Efrog, yn yr adran yna, ac rydw i’n teimlo nad ydw i’n dilyn arlunwyr sydd wedi defnyddio archaeoleg yn eu gwaith. Yn hytrach, rydw i’n dilyn archaeolegwyr, ac yn gweld sut galla i ymateb i’w gwaith. O gofio nad ydw i’n arlunydd haniaethol, dydw i ddim yn ceisio cynrychioli, dydw i ddim yn ceisio cynhyrchu’r manylion mae’r archaeolegwyr eisoes wedi’u cynhyrchu. Rydw i’n ceisio gweithio gyda’r syniad yma o ddychymyg archaeolegol – yn ceisio ysgogi’r syniad yma mewn pobl pan fyddan nhw’n dod ac yn gweld pethau. Yn peri ymateb ynddyn nhw, sy’n rhan o’u dychymyg archaeolegol eu hunain. Ac rydw i’n meddwl bod hynny’n bwysig, oherwydd po fwyaf o ddiddordeb sydd gan bobl, mwyaf o awydd fydd ganddynt i ddiogelu treftadaeth, i beidio â gadael i bobl ei dinistrio, ei chwalu, ond i’w gwarchod. Ac ynghyd â hyn, yn fy marn i, y daw’r syniad ei bod hi’n haws empatheiddio gyda phobl sy’n wahanol i chi, sydd o ddiwylliant gwahanol, o gefndir gwahanol, os ydych chi’n teimlo bod y gorffennol yn dal pethau sy’n eithriadol o werthfawr i ni yn awr. Felly, er enghraifft, fe glywn ni am drallod y ffoaduriaid yn Ewrop, a bod y rhyfel yn Syria wedi para am saith mlynedd, ac rydyn ni i gyd yn blino ar weld yr adroddiadau, a chlywed y newyddion. Mae angen i rywbeth ddigwydd fel na fyddwn yn colli ein teimlad o empathi gyda’r rheiny sy’n ffoaduriaid, a’r rheiny sy’n dianc o un sefyllfa erchyll dim ond i ddod yn rhan o sefyllfa erchyll arall, fel y fasnach mewn pobl. Yn fy marn i, un ffordd o annog pobl i gofleidio gwerth bywyd dynol yw edrych yn ôl ar wareiddiadau’r gorffennol, a gwneud cysylltiadau drwy hynny.
02/05/2018