
Casgliad Crawford
Mae gan un o’n casgliadau bach ond pwysig o awyrluniau y geiriau “CRAWFORD A.P.” ar gefn y printiau.
Osbert Guy Stanhope Crawford (1896 – 1957) oedd un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio awyrluniau i ymchwilio i nodweddion archaeolegol yn y dirwedd a’u dehongli.
Bu’n astudio daearyddiaeth yng Ngholeg Keble yn Rhydychen, ond mireiniodd ei grefft wrth wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei anafu yn ystod y brwydro a’i anfon yn ôl i Brydain – ddwywaith – ond dychwelodd i wasanaethu gyda’r Corfflu Hedfan Brenhinol. Roedd ei ddyletswyddau cartograffig yn cynnwys defnyddio awyrluniau o’r ffrynt i gynhyrchu cofnodion cyfoes o systemau ffosydd.
Oherwydd ei ddawn a’i brofiad cafodd ei benodi’n Swyddog Archaeoleg cyntaf yr Arolwg Ordnans, lle bu’n gweithio o 1920 hyd ei ymddeoliad ym 1946. Cafodd yr Athro Peter Grimes (a ddaeth yn un o Gomisiynwyr CBHC yn ddiweddarach, ac yna’n Gadeirydd) ei benodi’n gynorthwyydd iddo ym 1938.
Mae 53 o brintiau ffotograffig yn y casgliad, sy’n dod o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y Llu Awyr Brenhinol a Phrifysgol Caergrawnt. Mae’r awyrlun cynharaf yn dangos ardal islaw copa’r Wyddfa a dynnwyd ar 11 Mehefin 1923.
Gan Medwyn Parry
03/17/2016