Casgliad ffotograffig Vernon David Emmanuel ar Gasgliad y Werin Cymru


Oni bai am bobl fel fy nhad oedd wedi rhagweld eu pwysigrwydd, ni fyddai’r eitemau yma wedi cael eu diogelu er mwyn i bobl eraill gael eu mwynhau am byth


Roedd fy nhad, Vernon David Emmanuel, yn hanesydd brwd a oedd yn gwneud ei orau i ddiogelu a chadw ein treftadaeth hanesyddol. Wnes i ddim sylweddoli yn union cymaint oedd yn ei gasgliad tan ar ôl ei farwolaeth, a dyma pryd y gwawriodd arna i beth oedd pwysigrwydd yr hyn ro’n i’n ei weld o’m blaen.

Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae ei gasgliad ffotograffau a’i waith wedi cael eu rhoi yn fy ngofal i fel eu bod yn cael eu diogelu i’r oesoedd a ddêl; maent bellach yn rhan o archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru lle mae tua 4,000 o’i ffotograffau, yn amrywio o adeiladau hanesyddol i rai diwydiannol, yn cael eu cadw.


Oni bai am bobl fel fy nhad oedd wedi rhagweld eu pwysigrwydd, ni fyddai’r eitemau yma wedi cael eu diogelu er mwyn i bobl eraill gael eu mwynhau am byth. Pan oedd yn ei dridegau cynnar, dechreuodd sylwi bod nifer o gapeli Cymru yn cael eu dymchwel neu eu trawsnewid yn aneddleoedd, a phenderfynodd bod angen eu rhoi ar gof a chadw.


Llafur cariad dros 60 mlynedd yn dogfennu a thynnu lluniau

Arweiniodd hyn at lafur cariad dros 60 mlynedd yn dogfennu a thynnu lluniau o adeiladau hanesyddol a gwneud copïau o hen ffotograffau y credai ef eu bod yn werth eu diogelu.

Un arall o’i ddiddordebau oedd casglu hen lyfrau oedd yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif; daethom yn ymwybodol o’r rhain wedi inni ei golli, gan ddysgu bod nifer ohonynt yn llyfrau prin a oedd o bwys hanesyddol. Cafodd y mwyafrif ohonynt eu cyflwyno i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a hefyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Ffotograffau trawiadol o Frynbuga o ddechrau’r 20fed ganrif

Wrth edrych drwy ran o’i gasgliad dois i o hyd i luniau nad oeddwn i wedi’u dogfennu. Yn eu plith yr oedd cyfres o ffotograffau du a gwyn trawiadol iawn o safon uchel o Frynbuga a’r cylch a gafodd eu tynnu ar ddechrau’r 20fed ganrif.


Penderfynais liwio un ohonynt a chefais fy chwythu i ffwrdd

Mae yna rai ffotograffau yn y casgliad sydd, rwy’n credu, yn dangos dathliadau sy’n gysylltiedig â Choroni Edward VII a’i wraig, y Dywysoges Alexandra, yn Frenin a Brenhines yn Abaty Westminster, Llundain ar y 9fed o Awst 1902. Oherwydd eu bod o safon mor uchel, penderfynais ychwanegu lliw at un ohonynt, a chefais fy syfrdanu gan yr hyn ro’n i’n ei weld wrth iddyn nhw ddod yn fyw o flaen fy llygaid.  Fe wnaeth hyn fy ysgogi i ychwanegu lliw at bob un ohonynt ac ro’n i’n rhyfeddu at beth ro’n i’n ei weld. Mae eglurder eu gwisg yn un peth sy’n taro rhywun – mor nodweddiadol o’r cyfnod – ac mi fyddant yn drysorfa i gynllunwyr dillad a myfyrwyr sy’n astudio gwisgoedd hanesyddol. [Gweler yma am gasgliad o ffotograffau anffurfiol gafodd eu tynnu ar droad y ganrif, o bosib o aelodau teulu Addams Williams, perchnogion ystad Castell Llangybi, Brynbuga ar y pryd. Maent yn cynnwys delweddau gwreiddiol a rhai gyda lliw wedi ei ychwanegu atynt]

“Mae’n dangos gwisg y cyfnod mewn manylder, a byddant yn drysorfa i gynllunwyr gwisgoedd a myfyrwyr sy’n astudio gwisgoedd hanesyddol.”

Yn eu plith, dois i o hyd i un llun arbennig o ddigwyddiad trasig yn Llangybi, ger Brynbuga.  Ym 1878 cafwyd morwr Sbaenaidd o’r enw Josef Garcia yn euog o lofruddio teulu yn y pentref – William ac Elizabeth Watkins a’u tri phlentyn ieuengaf (Charlotte, 8 oed, Alice, 5 oed a Frederick, 4 oed) – ac mae’r ffotograff yn dangos y bwthyn lle roeddent yn byw gyda dau gwnstabl ger y drws, a dau ddyn a menyw yn sefyll y tu allan i’r giât. Ni allaf ddod o hyd i unrhyw gofnod ffotograffig arall o’r bwthyn hwn, dim ond llun gan artist.


Graham Tudor Emmanuel 2020


Gall Casgliad Vernon D. Emmanuel o ffotograffau a dynnwyd ac a gasglwyd gan dad Graham ac a roddwyd ar adnau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gael eu harchwilio yma. Bydd y ffotograffau digidol o’r casgliad hwn yn cael eu huwchlwytho i Gasgliad y Werin Cymru cyn bo hir. 

Archif genedlaethol achrededig â chronfa ddata ar-lein, Coflein, yw Archif y Comisiwn Brenhinol. Mae wedi’i lleoli yn Aberystwyth. Mae ein casgliad unigryw yn cynnwys lluniadau, ffotograffau, mapiau a chofnodion yn ymwneud â safleoedd hanesyddol Cymru. Mae gennym dros filiwn o awyrluniau o Gymru a dynnwyd yn ystod y 100 mlynedd ddiwethaf. Mae bron 20,000 o’n heitemau wedi eu cyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

11/17/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x