
Casgliadau Agored, Cysylltiadau Newydd: Meithrin Ymgysylltu ag Archifau Digidol Hygyrch
Mae mwy na 52,000 o ddarnau o Archif Tate o Gelfyddyd Brydeinig ar gael ar ffurf ddigidol bellach o ganlyniad i’r prosiect Archifau a Mynediad. Hefyd cynhyrchwyd amrywiaeth o adnoddau digidol rhyngweithiol i feithrin darganfod a defnyddio’r casgliadau ar-lein.
Bydd Hannah Barton yn disgrifio’r dulliau a ddefnyddiwyd gan Tate i gynnig sawl ffordd o gyrchu’r casgliadau a bydd yn edrych ar rai cwestiynau sydd wedi codi: pa heriau y mae sefydliadau o wahanol feintiau yn eu hwynebu wrth gynnig mynediad digidol i’w casgliadau? Faint a pha fath o gyfranogiad y gellir ei gynnal? Beth yw rôl cydweithredu rhyng-sefydliadol? A sut y gallwn ni rannu’r hyn a ddysgwn â’r sector diwylliannol? Fel rhan o’r prosiect Archifau a Mynediad fe fydd chwe lle dysgu ac oriel gyhoeddus newydd yn cael eu creu yn Tate Prydain, a fydd yn cynnwys Stiwdio Dysgu Digidol, a’r Archif Agored, yr oriel gyntaf yn Tate ar gyfer arddangos eitemau llyfrgell ac archif yn ogystal â fersiynau digidol rhyngweithiol o lyfrau braslunio arlunwyr.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
02/13/2017