
Castell Coch Yn Dathlu 125 O Flynyddoedd Mewn Lluniau
Mae 2016 yn nodi pen blwydd Castell Coch yn 125 oed ac i ddathlu’r achlysur, mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) wedi rhyddhau archif o ddelweddau o’r safle wrth iddo ailagor ei ddrysau (Chwefror 2016) ar ôl bod ynghau dros y gaeaf.
Wedi’i ryddhau ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mae’r casgliad o luniau’n ymestyn ar draws cyfnod o ddegawdau, o ailadeiladu’r safle yn 1891 hyd heddiw.
Wedi’i gymryd yn rhannol o archif y Comisiwn Brenhinol (Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru) mae’r casgliad hwn sydd wedi’i ddethol yn unswydd yn cynnwys rhai o’r lluniau hynaf a mwyaf diddorol a dynnwyd erioed o Gastell Coch – o’r lluniau du a gwyn o’r tu mewn a dynnwyd yn y 1940au, i lun Fictorianaidd amrwd o’r castell a dynnwyd pan oedd yn cael ei adeiladu, a hyd yn oed ambell lun hanesyddol a dynnwyd o’r safle o’r awyr.
Hefyd, mae lluniau eiconig o orffennol mwy diweddar y Castell – gan gynnwys llun o’i addasiad ‘Frozen’ diweddaraf ym mis Rhagfyr 2015 – wedi’u cynnwys, i gynnig persbectif modern o’r heneb enwog hon sydd wedi ymddangos mewn cymaint o ffotograffau.
Gyda’i gilydd, mae’r ffotograffau’n dangos sut mae’r dirwedd o amgylch y castell a’r datblygiadau mewn technoleg ffotograffiaeth wedi newid yn ystod y 125 o flynyddoedd.
Bu Castell Coch gyda’i hanes hir a chyfoethog, a adeiladwyd ar weddillion caer ganoloesol a elwid ar un adeg yn ‘castrum rubeum’ neu ‘y castell coch’ – yn adfail am ganrifoedd cyn ei aileni o dan ofal Trydydd Ardalydd Bute a’i bensaer, William Burges.
Ers ei gwblhau yn 1891, mae Castell Coch wedi cael ei drawsnewid o fod yn dŷ haf rhwysgfawr i fod yn heneb ramantus, sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: “Mae’r casgliad o luniau sy’n dathlu pen blwydd Castell Coch yn 125 oed yn datgelu cyfres o ddelweddau anghyfarwydd, hanesyddol ac unigryw o Gastell Coch drwy’r degawdau mewn ymdrech i ddathlu safle sydd wedi ennyn cymaint o edmygedd am ei bensaernïaeth Gothig ryfeddol a’i apêl hanesyddol.
“Mae’r casgliad yn cynnig hanes o’r castell mewn ffotograffau, gan ddod â hanes y safle ar draws y degawdau’n fyw i ymwelwyr ar-lein a darpar ymwelwyr. Mae hon yn ffordd wych o ddathlu carreg filltir pen blwydd y safle’n 125 oed ac rwyf mor falch bod Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Brenhinol wedi gallu cyflwyno’r casgliad hwn i’r cyhoedd i’w fwynhau.”
02/03/2016