
Castell Nadolig a Llwyau Penbryn: Ymchwiliad newydd
Anerchiad ar-lein rhad ac am ddim gan Dr Toby Driver a’r Athro Andrew Fitzpatrick: ‘Castell Nadolig a Llwyau Penbryn: Ymchwiliad newydd’.
9 Chwefror 2023, 5pm–6pm.
Ymunwch â Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd Arolygu o’r Awyr y Comisiwn, a’r Athro Andrew Fitzpatrick (Prifysgol Caerlŷr) ddydd Iau 9 Chwefror pan fyddant yn rhannu ymchwil a darganfyddiadau diweddar sy’n ymwneud â bryngaer Castell Nadolig ger Aberteifi, mewn darlith gan y Gymdeithas Hynafiaethwyr, ‘Castell Nadolig a Llwyau Penbryn: Ymchwiliad newydd’.
Mae llwyau Penbryn ymhlith yr enghreifftiau mwyaf addurnedig o grŵp prin o arteffactau o’r Oes Haearn, y gwyddys amdanynt o Brydain, Iwerddon a gogledd Ffrainc. Daethant i’r golwg yn 1829 ym mryngaer Castell Nadolig yng ngorllewin Cymru, o fedd y tarfwyd arno, yn ôl pob tebyg, ac maent i’w gweld yn Amgueddfa Ashmolean yn Rhydychen. Yn awr, mae ymchwiliad newydd i’r man lle daethpwyd o hyd iddynt wedi datgelu llawer iawn o archaeoleg gudd.

I gael rhagor o fanylion a chadw eich lle, ewch i:
https://www.sal.org.uk/event/castell-nadolig-and-the-penbryn-spoons-a-new-investigation/
Gallwch fynychu’r digwyddiad cyffrous hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yn Burlington House, Piccadilly ac ar-lein. Mae’n agored i bawb – aelodau a phobl nad ydynt yn aelodau. Peidiwch â’i golli!
Mae’n rhaid cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch ebost i communications@sal.org.uk.
01/31/2023