Castell Nadolig from the air in low winter light, December 2019

Castell Nadolig: bryngaer â chyfrinachau lu

Ar arfordir Ceredigion, yn edrych dros Fae Ceredigion, y mae bryngaer o’r Oes Haearn a chanddi enw anarferol; mae’n ymddangos mai hon yw’r unig fryngaer yng Nghymru sy’n dwyn yr enw ‘Nadolig’.

Yn 2004 fe ddarganfu Iwan Wmffre, ysgolhaig enwau lleoedd, y cyfeiriad hysbys cyntaf at yr enw yn y ffurf  ‘Kastell Yn Dolig’, a  hynny mewn llawysgrif o 1571/2. Erbyn 1594, yng Nghofnodion Ystâd Gogerddan ar gyfer Penbryn, enw’r safle yw ‘Castell Nadolig’, yr enw sy’n parhau i gael ei ddefnyddio bedair canrif yn ddiweddarach. Dim ond un lleoliad arall sydd â’r un enw hyd y gwyddom, sef fferm anghysbell ger Llandysul, Ceredigion.

Castell Nadolig o’r awyr yng ngoleuni isel y gaeaf, Rhagfyr 2019
Castell Nadolig o’r awyr yng ngoleuni isel y gaeaf, Rhagfyr 2019.

Mae Castell Nadolig yn enwog am y darganfyddiadau a wnaed yno ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ym 1829 fe ddarganfu ffermwr a oedd yn clirio pentwr o gerrig bâr eithriadol o brin o lwyau o’r Oes Haearn a oedd yn gysylltiedig â chladdfa y tu mewn i’r gaer.  Ar un o’r llwyau y mae croes endoredig, y credai hynafiaethwyr cynnar ei bod yn arwydd Cristnogol o’r cyfnod Rhufeinig. Cafodd y llwyau eu hanfon i Amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen lle maen nhw’n cael eu harddangos o hyd fel ‘Llwyau Penbryn’, ar ôl y plwyf lle cawsant eu darganfod. Wrth ysgrifennu am y darganfyddiad ym 1862, myfyriodd y Parchedig Edward Barnwell, hynafiaethydd enwog a phrifathro Ysgol Rhuthun bryd hynny, ar arwyddocâd yr enw lle ‘Nadolig’:

No explanation … has been given of its curious appellation. If we have the original name in an uncorrupted form, it is remarkable that implements bearing apparently the Christian’s badge should have been found in what is thought to have been the praetorium, and most important part of the work.’

Gwyddom erbyn heddiw nad yw’r pâr o lwyau o Gastell Nadolig yn perthyn i’r cyfnod Rhufeinig ond, yn hytrach, eu bod nhw’n arteffactau cynhanesyddol cyn-Gristnogol. Dadansoddwyd y brithwaith aur ar un o’r llwyau gan Andrew Fitzpatrick yn 2007 a darganfu na allai fod yn ddiweddarach na dechrau’r ganrif 1af CC. Mae’n bosibl i’r llwyau gael eu gwneud yn lleol, ond maen nhw hefyd yn perthyn i draddodiad o gynhyrchu parau o lwyau o ddyluniad cyffelyb a oedd yn gyffredin yn Iwerddon, Prydain a gogledd Ffrainc: llwy groes-endoredig wedi’i pharu â llwy blaen ag un trydylliad. Ymddengys fod yr holl lwyau’n ynysol, yn tarddu o Brydain ac Iwerddon, ac maen nhw wedi cael eu cysylltu ag arferion darogan derwyddon Prydain. Dros 190 o flynyddoedd ar ôl y darganfyddiadau yng Nghastell Nadolig, dim ond 27 llwy unigol o’r un dyluniad, weithiau mewn parau, sydd wedi’u darganfod ym Mhrydain, Iwerddon a Ffrainc.

Heddiw mae Castell Nadolig ar dir amaeth preifat. Ni chafodd y fryngaer ei chloddio erioed, ond mae ymchwil ar safleoedd tebyg yng Ngheredigion a Sir Benfro yn awgrymu y gallasai pobl fod yn byw yno am ganrifoedd lawer. Gwnaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gloddiadau yn 2006 ar safle Ffynnonwen gerllaw, ychydig o gilometrau i’r gorllewin o Aber-porth, a darganfuwyd mai’r adeiladwaith cyntaf yma rhwng yr 8fed a’r 4edd ganrif CC oedd lloc palisâd ac i adeiladwaith mwy sylweddol o ragfuriau a thai crwn gael ei godi rhwng y 4edd a’r 2il ganrif CC. Roedd pobl yn dal i ddefnyddio’r safle wedi dyfodiad y Rhufeiniaid. Mae’n bosibl i Gastell Nadolig ddatblygu mewn modd cyffelyb.

Gyda chaniatâd caredig y tirfeddianwyr, dechreuodd y Comisiwn Brenhinol raglen newydd o waith maes ymchwiliol, gan gynnwys yr arolwg geoffisegol cyntaf o’r safle yn 2019/20. Dangosodd y gwaith newydd hwn gan SUMO Survey fod adeiladwaith y porth dwyreiniol yn hynod o gymhleth, a bod cyfres o grugiau neu domenni claddu, wedi’u gwastatáu gan aredig, y tu mewn i’r fynedfa ddwyreiniol ac y tu allan iddi. Y rhain sy’n cynnig y dystiolaeth gadarn gyntaf o gladdfeydd niferus yn y fryngaer ac o’i chwmpas. Mae’n bosibl mai un o’r crugiau hyn oedd y man lle darganfuwyd y llwyau enwog. Mae crug sgwâr newydd ei ddarganfod hefyd yn awgrymu bod parch at y safle yn parhau drwy gydol y cyfnod canoloesol cynnar.

Rhaid dod i’r casgliad bod Castell Nadolig yn lle arbennig iawn yn ystod y canrifoedd cyn y goresgyniad Rhufeinig, a’i fod o bosibl yn ganolfan ar gyfer seremonïau crefyddol a chladdu. Efallai bod ei safle arfordirol, fel llyn cysegredig Llyn Cerrig Bach yng ngorllewin Môn, wedi hwyluso ymweliadau gan deithwyr o arfordiroedd Iwerddon, Cernyw, Llydaw a Sbaen, gan barhau’r traddodiad o fordeithiau gan longau o Wlad Groeg a fu’n hwylio ar hyd glannau Cymru a Phrydain ers tua 300 CC yn chwilio am gyfleoedd masnach a chysylltiadau newydd. Yng nghyd-destun ei swyddogaeth seremonïol bosibl, efallai bod y cyfeiriad unigryw at ŵyl dymhorol y Nadolig yn arwyddocaol, ond nid oes gennym unrhyw dystiolaeth i gadarnhau hynny.

Dr Toby Driver, Uwch-ymchwilydd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Darganfyddwch fwy:

Disgrifiad a ffotograffau ar-lein o Gastell Nadolig.

Papur y Parch. Barnwell am lwyau o’r Oes Haearn, 1862.

I gael mwy o wybodaeth am yr arolwg newydd o’r gaer yr ymgymerwyd ag ef yn 2020 gan y Comisiwn Brenhinol.

Gweler Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol y Comisiwn Brenhinol ar gyfer Castell Nadolig

LLUNIAU

Castell Nadolig o’r awyr yng ngoleuni isel y gaeaf, Rhagfyr 2019
Castell Nadolig o’r awyr yng ngoleuni isel y gaeaf, Rhagfyr 2019.
Canlyniadau’r arolwg geoffisegol o Gastell Nadolig
Canlyniadau’r arolwg geoffisegol o Gastell Nadolig.
Y ‘Llwyau Penbryn’ enwog a ddarganfuwyd yng Nghastell Nadolig, sy’n cael eu harddangos bellach yn Amgueddfa’r Ashmolean, Rhydychen
Y ‘Llwyau Penbryn’ enwog a ddarganfuwyd yng Nghastell Nadolig, sy’n cael eu harddangos bellach yn Amgueddfa’r Ashmolean, Rhydychen

Hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn a dymunwn Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus a diogel i chi i gyd.

12/16/2020

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x