Castell y Gelli: Hanes Cythryblus

Un o nifer mawr o gestyll ar hyd y Gororau yw Castell y Gelli, ond yr hyn sy’n ei wneud yn arbennig yw bod rhywun wedi bod yn byw ynddo’n ddi-dor ers 800 o flynyddoedd. Mae ganddo orthwr preswyl o circa 1200 a phorth o’r drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar ddeg gyda mynedfa fwaog bigfain a rhigol ar gyfer porthcwlis. Roedd y Castell yn ganolbwynt i arglwyddiaeth werthfawr y Gelli Seisnig (Hay Anglicana) a’i thref farchnad gaerog lewyrchus. Bu hanes y Castell yn un cythryblus ac fe’i cipiwyd sawl gwaith yn y drydedd ganrif ar ddeg ac ym 1322. Llosgodd Llywelyn ab Iorwerth y dref i lawr ym 1231 ac mae’n bosibl iddo wneud difrod i’r Castell. Ym 1232 a 1237 rhoddodd Harri III hawliau i fwrdeisiaid y Gelli i dreth arbennig i dalu am fur i’r dref. Derbyniodd y Castell gyflenwadau ym 1403 i wrthsefyll cyrchoedd Owain Glyn Dŵr. Collodd ei swyddogaethau amddiffynnol yn raddol a daeth yn adeilad preswyl yn unig pan godwyd Tŷ’r Castell yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Golygfa ongl-lydan o’r dref yn dangos Castell y Gelli a Thŷ’r Castell.

Golygfa ongl-lydan o’r dref yn dangos Castell y Gelli a Thŷ’r Castell.

Tŵr preswyl tri llawr, heb do bellach, yw’r gorthwr. Mae ganddo islawr a gâi ei ddefnyddio’n garchar y dref hyd 1812. Yn wreiddiol, roedd gan y ffenestr Normanaidd â phen crwn ar ail lawr y Gorthwr ddau agoriad a mwliwn rhyngddynt. Mae Twffa wedi cael ei defnyddio fel nodwedd addurnol i wella golwg y pen-ffenestr hanner crwn.

Mae’r drysau coed hynod o gynnar wedi goroesi. Maent hwy’n perthyn i ddau gyfnod ac mae’r gwaith saer yn wahanol. Y farn oedd bod y drws gogleddol (gyda drws bach) yn perthyn i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond ar ôl ei ddyddio drwy astudio blwyddgylchau, darganfuwyd iddo gael ei adnewyddu yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae’n debyg bod y drws deheuol, gyda chleddu croes, yn wreiddiol ond methwyd â’i ddyddio.

05/22/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x