
Cefnogi Gorffennol Digidol 2017…
Bob blwyddyn, mae’r Comisiwn Brenhinol yn ddiolchgar iawn i’r sefydliadau hynny sy’n cefnogi’r gynhadledd Gorffennol Digidol drwy ei noddi. Fel corff nad yw’n gwneud elw, mae eu cefnogaeth i ni yn hanfodol er mwyn gwneud y gynhadledd mor fforddiadwy a hygyrch ag y bo modd.
Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n Noddwr Aur eleni, Luminous. Fel cwmni arloesol ym maes arolygu a delweddu digidol, mae Luminous wedi adeiladu enw iddo’i hun dros chwarter canrif am ei ddatrysiadau parod i’w defnyddio ar draws meysydd arolygu, pensaernïaeth a Realiti Rhithwir ar gyfer twristiaeth treftadaeth. Bydd eu Rheolwr Gyfarwyddwr, Ben Bennett, yn arddangos dau brosiect diweddar, The Martello Towers ac RRS Discovery, yn y gynhadledd.
Dechreuodd ein Noddwr Arian lleol, Cyfeillion Llong Casnewydd, fel ymgyrch i achub llong o’r 15fed ganrif a ddarganfuwyd yng Nghasnewydd yn 2002. Mae Canolfan y Llong Ganoloesol yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sy’n staffio’r ganolfan, yn ysgrifennu blogiau, yn rhoi sgyrsiau, yn rhedeg arddangosfa deithiol ac yn helpu gyda’r gwaith archaeolegol a chadwraeth ar y llong. Bydd cyfle i ymweld â Labordai Llong Ganoloesol Casnewydd yn ystod y gynhadledd.
Ein Noddwr Arian arall yw Orangeleaf Systems, Ymgynghorwyr Treftadaeth Ddigidol sy’n arbenigo mewn datblygu rhyngwynebau mynediad cyhoeddus ar-lein i gasgliadau’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, Archifdai, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd.
Mae prosiectau yng Nghymru yn cynnwys dau sy’n llwyr ddwyieithog: Archifau Sir Ddinbych/Denbighshire Archives, a Meysydd Brwydro/ Battlefields i CBHC. Mae gan y ddau ryngwynebau mapio gwe llawn i haenau map hanesyddol wedi’u digido a haenau map modern. Bydd James Grimster, cyfarwyddwr Orangeleaf, yn cyd-lansio’r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yn ystod y gynhadledd.
Yn olaf, ein Noddwr Efydd yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri sy’n parhau i gefnogi amrywiaeth eang iawn o brosiectau treftadaeth ar draws y DU gan gynnwys sawl un sy’n cael sylw yn y gynhadledd.
Diolch yn fawr iawn i’n holl noddwyr!
02/14/2017