
Cestyll Cymru a Phentrefi Mwyngloddio yn Anime? Ddim mor rhyfedd ag y byddech chi’n meddwl!
Mae anime Siapaneaidd yn genre ffilm boblogaidd iawn yn Siapan ac yn gynyddol ledled y byd. Mae ei wreiddiau yn niwylliant gweledol Japan lle cynhyrchid llyfrau lluniau ers y 12fed ganrif. Mae cyhoeddiadau manga modern yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethpwyd a lluniau artistiaid fel Hokusai ynghyd i adrodd stori. Dechreuwyd i greu ffilmiau anime ym 1917 ac un o gyfarwyddwyr ffilmiau anime mwyaf yr 20fed ganrif yw Hayao Miyazaki (1941-).
Miyazaki a ddechreuodd y cwmni Stiwdio Ghibli ym 1985 a gwnaeth lawer o ffilmiau cofiadwy gan gynnwys ‘Spirited Away’(2001) a enillodd Oscar. Mae’n gyfarwyddwr anarferol gan iddo chwilio am ysbrydoliaeth mewn diwylliannau eraill ac yn aml yn benthyg ar lenyddiaeth y Gorllewin wrth adrodd straeon. Un o’i ffilmiau mwyaf poblogaidd yw ‘Laputa: Castle in the Sky’ (1986). Antur ffantasi ydyw, sy’n adrodd stori Laputa, y ddinas chwedlonol yn yr awyr ac anallu pobl i ddefnyddio gwyddoniaeth yn effeithiol. (Laputa oedd enw’r ddinas a oedd yn hedfan yn ‘Gulliver’s Travels’ gan Jonathan Swift a gyhoeddwyd ym 1726, a ddychanai’r Gymdeithas Frenhinol). Gwnaed dros 69,000 o luniau are gyfer animeiddio’r ffilm, pob un wedi’i lunio â llaw yn seiliedig ar ddyluniadau Miyazaki.
Laputa yr ynys chwedlonol arnofiol Llun gwreiddiol ar gyfer y castell ar Laputa
Os edrychwch yn ofalus iawn, efallai y bydd y castell ar Laputa yn edrych yn gyfarwydd. Daeth Miyazaki i Gymru ym 1984 ac roedd wedi gwirioni cymaint ȃ chestyll canoloesol megis Caerffili, Caernarfon a Chastell Powis fel y defnyddiodd hwy yn ysbrydoliaeth ar gyfer dyluniad y castell yn Laputa.
Castell Caerffili Castell Caernarfon Castell Powis
Heb os, mae’r glowyr yn arwyr yn y ffilm. Maen nhw’n helpu’r ddau brif gymeriad i ddianc o’r dihirod ac mae darluniad Miyazaki o’u pentref yn dangos y tai yn glynu wrth ochr y bryn fel yng nghymoedd mwyngloddio De Cymru.
Dyluniad pentref mwyngloddio yn ‘Laputa: Castle in the Sky’ Llanhilleth ger Glyn Ebwy yn 1976
Dyma oedd teyrnged Miyazaki i’r glowyr o Gymru yr oedd yn ei edmygu’n fawr pan ar ymweliad â Chymru ym 1984 yn ystod Streic y Glowyr yn erbyn cau y pyllau. Dychwelodd Miyazaki i Gymru ym 1985 i ymchwilio i’r ffilm, ac erbyn hynny roedd y streicwyr wedi colli’r frwydr i achub eu diwydiant. Yn ystod cyfweliadau papur newydd, mynegodd Miyazaki ei ofid personol fod y cymunedau clos hyn yng Nghymru yn diflannu (fel yr oeddent yn ardaloedd mwyngloddio Siapan, yn ogystal) ac roedd yn awyddus i ddangos eu cryfderau yn y ffilm.
Darlun o lowyr yn ‘Laputa: Castle in the Sky’ Glowyr yn y Pwll Mawr, Blaenafon
By Dr Ywain Tomos, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell | Enquiries & Library Assistant
29/07/2021