CBHC / RCAHMW > Newyddion > Cewch gofrestru yn awr ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2017

Cewch gofrestru yn awr ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2017

Gorffennol Digidol Digital Past 2017

Mae cofrestru ar agor!

Cewch gofrestru yn awr ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2017, a chan fod nifer cyfyngedig o leoedd fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.

Prynu Tocynnau

Gellir bwcio tocynnau i gynadleddwyr am bris o £89, sy’n cynnwys cinio a lluniaeth. Byddwch wedyn yn gallu mynychu’r amrywiaeth eang o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai ac arddangosiadau sydd ar gael yn ystod y ddau ddiwrnod, a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a fydd yn hybu cyfnewid syniadau ac yn hwyluso rhyngweithio. Hefyd fe fydd cyfle i gymryd rhan yn y ‘Sesiwn Anghynhadledd’ yn ystod y prynhawn cyntaf. Nod y sesiwn hon yw galluogi cynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol i roi cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion o fewn neu y tu allan i themâu penodol digwyddiad eleni.

Hefyd mae stondinau arddangos o ddau faint ar gael i’w bwcio. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion mewn man canolog.

Hefyd, gallwch roi archeb ar gyfer cinio’r gynhadledd a gynhelir ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Casnewydd, gyda’r nos ar 15 Chwefror. Bydd pryd tri chwrs blasus yn cael ei weini am 7 o’r gloch.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yng Nghasnewydd!

07/11/2016

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x