
CHERISH: Etifeddiaeth Treftadaeth Hinsawdd
Doedd crynhoi’r prosiect anferth hwn, a siwrnai chwe blynedd a hanner, yn un blog ddim yn dasg hawdd. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn bartner arweiniol ar gyfer Prosiect CHERISH, sydd wedi’i gyllido gan yr UE, ers mis Ionawr 2017. Mae wedi rheoli a chyflwyno’r prosiect hwn, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos ar dreftadaeth ddiwylliannol ein môr a’n harfordir yn Iwerddon a Chymru.
Fel rheolwr prosiect, mae wedi bod yn fraint gweithio gyda’n tri sefydliad partner, ac mae’r prosiect wedi elwa’n fawr o’u harbenigedd a’u gwybodaeth. Ffurfiwyd y bartneriaeth yn Nulyn cyn 2017, a chyn fy amser i, rhwng y Comisiwn Brenhinol ac Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yng Nghymru, a’r Discovery Programme ac Geological Survey Ireland yn Iwerddon. Nod y prosiect oedd sefydlu tîm integredig ar y cyd rhwng y ddwy wlad o ddaearyddwyr, daearegwyr ac archaeolegwyr, gan rannu arfer gorau a chyflwyno prosiect uchelgeisiol.

Yng Ngham 1, dechreuodd CHERISH ar ei siwrnai gyda naw menter strategol. Yr amcanion oedd ail-greu amgylcheddau’r gorffennol a hanes y tywydd, darganfod, asesu, mapio a monitro treftadaeth ar dir ac o dan y môr, targedu bylchau data a gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth mewn lleoliadau arfordirol anghysbell, a sefydlu data sylfaen manwl gywir yn fetrig a safonau cofnodi newydd.
Yn dilyn cais llwyddiannus, llwyddwyd i sicrhau’r cyllid ychwanegol oedd ei angen i gyflwyno dwy fenter arall, gan ganolbwyntio y tro hwn ar y sectorau twristiaeth ac addysg. Ceir manylion llawn am fentrau’r prosiect ar ein gwefan ni.

Dechreuodd y gwaith o ddifrif yn 2017 ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon. Ers hynny, rydym wedi gweld a chofnodi erydiad, dinoethiad, a newidiadau i dreftadaeth ar hyd ein harfordir deinamig. Yn 2018, tarodd pedair storm fawr Gymru ac Iwerddon. Roedd y rhain yn cynnwys y ‘Bwystfil o’r Dwyrain’ ac, ym mis Mehefin yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno, cawsom dywydd poeth eithriadol a sychder mawr. Yn ystod y flwyddyn honno, gwnaeth CHERISH ddau ddarganfyddiad arwyddocaol. Yn gyntaf, haenau mawn wedi dod i’r golwg, gan gynnwys cyfres o olion traed anifeiliaid yn dyddio o’r Oes Efydd, rhyw 3,000 o flynyddoedd oed, a gafodd eu darganfod ar draeth ger Abersoch. Yn ddiweddarach, yn ystod ail ymweliad monitro â llongddrylliad Sunbeam sydd ar draeth yn Swydd Kerry, Iwerddon, cawsom sioc o weld bod y llongddrylliad 200 o flynyddoedd wedi diflannu, ac roeddem yn drist iawn pan ddaethom o hyd iddo wedyn, wedi’i ddifrodi ac wedi dod i’r golwg, fwy na 2 gilometr i ffwrdd.
Yn ystod y flwyddyn honno, bu dymchwel dramatig mewn dwy heneb bwysig yn ystod stormydd y gaeaf a glawiad cynyddol: caer bentir arfordirol Dunbeg yn Swydd Kerry, a bryngaer arfordirol Dinas Dinlle yng Ngwynedd. Mae dymchwel o’r fath yn golygu bod archaeoleg a gwybodaeth werthfawr am y llefydd arbennig hyn yn diflannu.
Yn syml, does dim posib i ni achub y safleoedd hyn, felly mae’n rhaid i ni dderbyn eu colli, fodd bynnag mae’n hanfodol ein bod yn dysgu cymaint â phosibl amdanynt cyn iddynt gael eu colli am byth i’r tonnau. Mae hefyd yn bwysig bod ein gwaith ni yma’n cael ei gynllunio, yn hytrach na bod yn adweithiol. Ymateb wedi’i gynllunio ydi hanfod CHERISH, a gyda buddsoddiad gan Raglen Iwerddon-Cymru sy’n cael ei chyllido gan Ewrop, rydym wedi cyflawni cryn dipyn ers 2017.

Wrth i Brosiect CHERISH ddod i ben ym mis Mehefin 2023, hoffwn dynnu sylw at dair esiampl o’r hyn mae’r buddsoddiad hwn wedi ein galluogi ni i’w gyflawni.
Mae mwy na 50 o henebion wedi cael eu harolygu i fanwl gywirdeb centimetrau ar ymyl yr arfordir, yn y parth rhynglanwol ac ar wely’r môr. Mae hyn nid yn unig wedi darparu data sylfaenol cywir ar gyfer monitro erydiad yn y dyfodol ond hefyd mae wedi cynyddu ein dealltwriaeth o henebion mewn perygl sydd, yn ei dro, yn helpu i’w rheoli, ond hefyd yn darparu data a modelau 3D newydd i ymgysylltu â phob cenhedlaeth.
Rydym wedi cael cofnodion gwaddodol manwl o sawl safle o amgylch arfordiroedd Cymru ac Iwerddon. Mae dadansoddiad o 120 metr o graidd gwaddod wedi rhoi gwybodaeth newydd am hanes newid yn yr hinsawdd, gweithgarwch stormydd, a newid yn lefel y môr dros filoedd o flynyddoedd. Mae ein tystiolaeth yn dangos siâp deinamig ein harfordir sy’n newid yn gyson. Mae wedi newid erioed, ac mae angen i ni gydnabod hyn wrth i ni addasu i’r heriau sylweddol sy’n ein hwynebu yn awr
Rydym wedi ymgysylltu wyneb yn wyneb â mwy na 14,000 o bobl. Mae hyn yn cynnwys 3 digwyddiad cloddio cymunedol yng Nghymru ac Iwerddon a ddenodd fwy na 120 o wirfoddolwyr, sesiynau glanhau traethau, teithiau tywys, ysgolion undydd a digwyddiadau hyfforddi, a phob un yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth mewn cymunedau arfordirol. Ond mae hefyd wedi ein galluogi ni i siarad â’r cymunedau hynny a dysgu oddi wrthynt. Mae nifer wedi dod yn llygaid i ni ar lawr gwlad, gan adrodd yn ôl i ni am unrhyw newidiadau maent yn eu gweld.
Un o lwyddiannau mwyaf CHERISH yw’r cydweithio rhwng pedwar partner y prosiect, a’n dwy wlad. Rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd, gan rannu a chyfuno ein sgiliau a’n harbenigedd i weithredu fel un tîm arolygu. Rydyn ni wedi dysgu cymaint oddi wrth ein gilydd ac yn gobeithio adeiladu ar y perthnasoedd hyn yn y dyfodol.
Rydyn ni’n gwybod bod newid hinsawdd yn digwydd, a bod ymdeimlad cynyddol o frys i’r drafodaeth am y ffordd orau ymlaen. Gobeithio y gall gwaith CHERISH helpu gyda hyn. Mae’r prosiect yn gadael gwaddol o ddata, cofnodion ac adnoddau, gan gynnwys y Ddogfen Arfer Gorau, adnodd sy’n rhannu ein harfer o ymchwilio i dreftadaeth a newid hinsawdd mewn amgylcheddau arfordirol a morol. Mae’n edrych ar ein ‘pecyn adnoddau’, a’r dechnoleg a’r dulliau a ddefnyddiwyd gennym. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gennym am newid i’r dirwedd a’r hinsawdd yn y tymor hir, colledion diweddar, a darganfyddiadau archaeolegol newydd, yn darparu’r sail ar gyfer rheoli safleoedd lleol, penderfyniadau polisi ehangach, a thrafodaethau â chymunedau sy’n wynebu colled a newid.

Drwy gydol y prosiect rydym wedi cynhyrchu adnoddau amrywiol, ac yn ystod y misoedd nesaf bydd staff o’r sefydliadau partner yn parhau i uwchlwytho gwybodaeth, ond am y tro dyma ddetholiad sydd ar gael yn hwylus i chi:
• Mae cylchlythyrau sy’n manylu ar y gwaith sydd wedi’i wneud ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon ar gael am ddim ar ein gwefan ni.
• Rydym wedi cynhyrchu rhai modelau SketchFab 3D anhygoel, felly gallwch chi ymweld â rhai o’n safleoedd astudio yn rhithwir.
• Mae sianel YouTube y prosiect yn cynnwys amrywiaeth o fideos o gynadleddau a darlithoedd, a dyddiaduron deifio o’r deifio archaeolegol cyntaf yn nyfroedd Cymru ers dros 15 mlynedd.
• Bydd adnoddau addysgol ar-lein ar gael yn fuan ar Hwb ar gyfer canolfannau addysg Cymraeg, a byddant hefyd ar gael ar ein gwefan ni.
• Mae animeiddiad sydd wedi’i greu yn dilyn yr ymchwil yn Ninas Dinlle rhwng 2017 a 2023 i’w weld yma.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio ar y prosiect, yn y gorffennol a’r presennol, a’r gefnogaeth a gawsom gan y pedwar sefydliad partner i gyflwyno CHERISH. Wrth i’r bennod hon ddod i ben nawr, rydw i’n edrych yn ôl gyda balchder aruthrol ar brosiect llwyddiannus, a gyda’r gobaith y bydd ei waddol yn parhau i helpu cenedlaethau’r dyfodol i fonitro ac addasu i effaith newid hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol.
Clare Lancaster
Rheolwr Prosiect CHERISH
30/06/2023