
‘Churches Unlocked: Discovering Wallpaintings in Welsh Churches’, sgwrs gan Richard Suggett a Christopher Catling
Ymunwch â Richard Suggett a Christopher Catling ar nos Lun, 5 Mehefin, am 7pm am noson ddiddorol yn canolbwyntio ar ein treftadaeth eglwysig.
Roedd Richard yn Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) yn y Comisiwn Brenhinol ac roedd ei lyfr, ‘Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800’, yn ganlyniad o flynyddoedd o ymchwil i’r pwnc. Bydd y llyfr hwn yn sail i’w sgwrs.
Christopher Catling yw Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, cadeirydd DAC Llandaf ac mae’n ysgrifennu’n helaeth ar faterion treftadaeth. Bydd ei sgwrs yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod ein hadeiladau eglwysig yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
- Dydd Llun, 5 Mehefin 2023
- 19:00 – 21:00
- Y Santes Fair, yr Eglwys Newydd, Gogledd Caerdydd, Heol Penlline, Caerdydd CF14 2AD, DU
Mae’r sgwrs hon yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae tocynnau’n gyfyngedig felly i osgoi cael eich siomi, rydym yn eich annog i archebu eich tocyn ymlaen llaw.
Am wybodaeth lawn ac i archebu eich tocynnau ewch i wefan Eglwysi Agored.
05/24/2023