
Chwilio am Berthnasau Arwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf a fu’n Ymchwilio i Ddyfeisiau ar gyfer Canfod Llongau Tanfor
Mae tîm Prosiect Llongau-U 1914-18 y Comisiwn Brenhinol yn chwilio am berthnasau’r diweddar Benjamin Davies (1863-1957) yn y gobaith y gallant roi mwy o wybodaeth i ni am ei waith i’r Morlys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Benjamin Davies (1863-1957)
Mae’r tîm wedi darganfod dau lyfr nodiadau diddorol iawn sy’n manylu ar arbrofion a wnaed gan Benjamin Davies i nodweddion gwahanol fathau o ddyfeisiau gwrando tanddwr cynnar a ddefnyddid i ganfod llongau tanfor y gelyn. Mae’r llyfrau nodiadau, sydd i’w cael mewn casgliad o bapurau a roddwyd yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddechrau’r 1980au, yn disgrifio cyfrifiadau, syniadau dylunio, ac arbrofion ymarferol. Er enghraifft, ym mis Gorffennaf 1918, aeth Davies ar fwrdd yr HMS SURLY oddi ar Weymouth i roi prawf ar sensitifrwydd ei hydroffon newydd drwy gael llong danfor Brydeinig i symud o amgylch y ddistrywlong.

Ganwyd Benjamin Davies yn Llangynllo, Sir Aberteifi, ym 1863. Ef oedd yr hynaf o dri o blant. Ymunodd â’r Eastern Telegraph Company ym 1908, gan ddod yn bennaeth yr adran ymchwil cyn ymddeol ym 1922. Bu ei ferch, Gwenhwyfar Davies, yn dysgu yn yr Ysgol Gelf a Chrefft, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1929 a 1959, a hi a sicrhaodd fod llyfrau nodiadau gwyddonol ei thad yn cael eu rhoi yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

Os ydych chi’n aelod o deulu Benjamin neu Gwenhwyfar Davies, byddem yn ddiolchgar pe gallech ddod i gysylltiad.
E-bost: LlongauU@cbhc.gov.uk / UBoat@rcahmw.gov.uk
Ffôn: 01970 621200
Gwefan: https://uboatproject.wales/ / https://prosiectllongauu.cymru/
Mae’r Prosiect Llongau-U bellach yn cynnig cyfle digyffelyb i weld rhai o longddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ein gwefan.
Ar blymiad rhithwir, gallwch archwilio modelau rhyngweithiol 3D o’r llongddrylliadau. Wrth i chi nofio o gwmpas y llongau a’u harchwilio o bob ochr, bydd mannau poeth yn eich arwain at nodweddion sydd o ddiddordeb arbennig. Bydd ffenestri neidio-i-fyny yn dangos ffotograffau hanesyddol, cynlluniau neu luniadau o’r llongau, a nodiadau eglurhaol.
https://prosiectllongauu.cymru/plymiad-rhithwir_test/
07/17/2019