
Ci, Dyddiadur a Dirgelwch sy’n mynd yn ôl 70 mlynedd
DATGANIAD NEWYDDION
Fis Rhagfyr diwethaf, rhannodd y Prosiect Llongau-U stori ryfeddol daeargi bach o’r enw Lotte a ddaeth i fyw ymhlith criw llong danfor Almaenig, yr U 91, yng ngwanwyn 1918. Roedd yr U 91, dan reolaeth Alfred von Glasenapp, yn patrolio Môr Iwerddon pan achubodd y criw Lotte o’r ETHEL. Yn y stori (gweler mwy o fanylion isod) fe wnaethom apêl am fwy o wybodaeth am dynged Lotte. Hefyd fe gysylltodd y tîm â chyfryngau’r Almaen yn y gobaith o ddarganfod mwy o’i hanes.
Ym mis Mehefin eleni, derbyniasom e-bost gan un o ddisgynyddion uniongyrchol Glasenapp ac mae’r hyn a ddywedodd ef wrthym yn hynod ddiddorol. Dyma ei e-bost yn llawn:
Dim ond ddoe y deuthum o hyd i’r cofnod am Lotte a’r U 91 ar eich gwefan, ac i ddechrau doeddwn i ddim yn gallu credu fy llygaid. Roeddwn i wedi clywed stori ‘Lotte’ lawer gwaith gartref a phrofiad arbennig iawn oedd ei gweld hi’n cael ei chodi o chwedlau teuluol i fyd hanes dogfennol. Doedd neb yn gwybod o ba long y daeth Lotte na sut yn union y cafodd y llong ei suddo, ond pleser gen i yn awr yw rhoi ychydig o wybodaeth am beth a ddigwyddodd i Lotte wedyn.
Alfred von Glasenapp, achubwr Lotte a chapten yr U 91, oedd fy nhad-cu ar ochr fy mam, ond wnes i ddim cyfarfod ag ef erioed. Yn ôl fy mam, cadwodd Lotte ar ei gwch hyd ddiwedd y rhyfel, ac ar ôl cael ei ryddhau o’r llynges, aeth â hi i fyw gydag ef yn Johannisburg (Pisz heddiw) yn Nwyrain Prwsia. Ond rywbryd wedyn, bu’n rhaid iddo ei gadael hi gyda pherthnasau. Yn y modd hwn y daeth Lotte yn gi teulu nhw, a gallai fy niweddar dad, a anwyd ym 1918, gofio chwarae gyda hi pan oedd yn ifanc iawn. Fe gafodd hi gŵn bach hefyd, ond bu farw yn y 1920au, o’r gynddaredd mae’n debyg. Ganwyd fy mam ym 1924, a dim ond storïau a glywsai hi amdani.
Wrth edrych drwy albymau’r teulu, daeth fy mam o hyd i ffotograff ohoni hi ei hun a chi bach o’r enw ‘Lotti’ – yn ôl yr ysgrifen o dan y llun. Mae’r ci hwn yn debyg o ran maint a lliw i Lotte. Dydy fy mam ddim yn cofio’r sefyllfa gan mai dwy oed yn unig oedd hi pan dynnwyd y llun, ond mae’n ddigon posibl bod Lotte’n dal yn fyw ym 1926.
Sut bynnag, y wybodaeth a oedd yn fwy diddorol byth i mi yn eich erthygl oedd y sôn am ddyddiaduron preifat Glasenapp, yr oeddwn i’n meddwl eu bod wedi’u colli am byth. Yn ôl fy mam, pan gafodd fy nhad-cu a’m mam-gu eu gyrru o Silesia ym 1946, fe guddiodd fy mam-gu y dyddiaduron hyn mewn tas wair (o bob man), yn y gobaith y byddent yn gallu dod yn ôl yn fuan i’w nôl. Ond ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Mae’n ymddangos bod y dyddiaduron rhyfel yn bwysig iawn i’m tad-cu, gan iddo fynd mor bell â chael teipydd proffesiynol i wneud copi ohonynt a chynnwys ffotograffau ynddynt yr oedd wedi’u tynnu ar fwrdd ei long danfor. Ar hyd y blynyddoedd, byddai fy mam yn mynegi ei gofid bod y dogfennau hyn wedi mynd i ddifancoll.
Mae bron yn amhosibl credu bod y dyddiaduron wedi goroesi, ac eto rydw i’n eich gweld chi’n dyfynnu ohonynt mewn du a gwyn. Fe fyddwn i’n ddiolchgar iawn iawn pe gallech roi unrhyw wybodaeth i mi am leoliad presennol y dogfennau ac a oes modd cael copi ohonynt, ni waeth beth fydd y gost. Llawenydd mawr i’m mam, sy’n 95 oed, fyddai gweld y dystiolaeth hon o fywyd ei thad yn ailymddangos, yn wyrthiol, ar ôl mwy na saith degawd.
Dywed Dr Rita Singer, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ‘Mae stori Lotte a’r dyddiaduron coll yn un anhygoel, ac mae’n enghraifft o’r cysylltiad real iawn sydd gan lawer ohonom â digwyddiadau sy’n mynd yn ôl yn bell iawn.’
Yn ogystal â chael holl hanes Lotte erbyn hyn, rydym wedi rhannu gwybodaeth am leoliad presennol y dyddiaduron â’r ŵyr Glasenapp a rhai o’r lluniau a dynnwyd ar fwrdd yr U 91 yn ystod y gwanwyn pan ddaeth Lotte i fyw ar y llong.
Hoffem ddiolch eto i ddisgynyddion Glasenapp am rannu gweddill stori Lotte gyda ni ac am roi caniatâd i gyhoeddi ei e-bost ar ein blog. Ar ôl credu am ddeng mlynedd a thrigain bod dyddiaduron preifat eu tad-cu a’u tad wedi’u colli am byth, gobeithiwn eu bod yn cael pleser o gau rhai o’r bylchau yn hanes eu teulu.
Y CEFNDIR I’R STORI
Roedd yr U 91, dan reolaeth Alfred von Glasenapp, yn patrolio Môr Iwerddon. Yn ystod wythnos gyntaf y patrôl, fe dreuliodd yr U 91 y rhan fwyaf o’r amser yn cuddio rhag confois neu byth yn mynd yn ddigon agos at longau masnach i allu cychwyn ymosodiad.
Ond erbyn yr ail wythnos ar y môr fe ddechreuodd pethau newid ac ar 26 Ebrill fe ddaeth yr U 91 ar draws yr ETHEL, sgwner bren fach, a oedd yn cludo llwyth o lo Cymreig o Gaerdydd i New Ross. Yn eu brys i adael eu llong ddiarfog, anghofiodd y criw am gi’r llong, a gafodd ei achub gan y tanforwyr Almaenig a’i gymryd ar fwrdd yr U 91 cyn suddo’r ETHEL. Mabwysiadodd Alfred von Glasenapp y daeargi a’i enwi’n ‘Lotte’. Er boddhad pawb, ymgynefinodd yn gyflym iawn â bywyd ar fwrdd y llong danfor.

Mewn un llun, gellir ei gweld rhwng dau garcharor rhyfel yr oedd yr U 91 wedi’u cipio yn ystod yr ymgyrch benodol hon. Yn ei ddyddiadur preifat, mae Glasenapp hefyd yn crybwyll bod Lotte’n ei mwynhau ei hun yn gorweddian yn yr haul rhwng y tanforwyr a oedd yn torheulo ar y dec yn ystod adegau llonydd ar y môr. Mewn llun arall, a dynnwyd yn un o ganolfannau llongau tanfor yr Almaenwyr yn haf 1918, fe’i gwelir yng nghwmni criw cyfan yr U 91.


Cysylltiad:
Ffôn: 01970 621200
Gwefan: https://prosiectllongauu.cymru/
E-bost: LlongauU@cbhc.gov.uk / UBoat@rcahmw.gov.uk
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat/
06/09/2019