A recent 3D drone image of the hillfort showing North and South enclosures linked by the central Isthmus. Crown Copyright RCAHMW

Cloddiad Bryngaer Pendinas: Dewch i ymuno â ni wrth i ni gloddio’r heneb ddirgel hon!

Ar ddydd Llun 27 o Fawrth, fe gychwynnwyd cloddiad newydd ar Fryngaer Pendinas gan aelodau staff o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ac o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ynghyd â grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig. Mae’r cloddiad yma, a fydd yn rhedeg am bedair wythnos, yn dilyn ymlaen o’r cloddiad llwyddiannus nôl yn 2021 ac yn rhan o’r prosiect dwy flynedd sydd wedi ei hariannu gan NLHF a Cadw.

Bydd y cloddiad hwn yn ffocysu ar Fynedfa’r Gogledd ac ar y teras amddiffynnol i’r Dwyrain, gyda’r ddwy ardal wedi eu dyddio hyd at 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Eu bwriad yw ail-agor rhai o’r ffosydd a gloddiwyd yn y 1930au i weld pa gyfrinachau sydd wedi eu claddu oddi tan y fryngaer. Drwy gloddio’r ardaloedd yma, mae’r tîm yn gobeithio deall mwy am ddefnydd y culdir (ardal sydd yn cysylltu dwy ochr y Fryngaer), tu fewn i’r fynedfa Ogleddol. Ai ardal gyhoeddus reoledig oedd hon? Ardal lle gynhaliwyd ffeiriau a marchnadoedd? Mae’r tîm hefyd yn gobeithio dysgu mwy am y Teras Dwyreiniol amddiffynnol.

Mae model 3D newydd o fryngaer fawr Pendinas, a gynhyrchwyd o arolwg ffotogrametreg â drôn ddechrau mis Mawrth, yn dangos nodweddion ffisegol yr heneb yn fanwl iawn.

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn golygu defnyddio OSL (Optically Stimulated Luminescence) ar y safle er mwyn cynhyrchu dyddiad mwy cywir ar gyfer y fryngaer. Mae OSL yn mesur yr amser ers i’r gronynnau yn y ddaear ddod i gysylltiad â golau neu wres diwethaf, ac felly maent yn cynnig dyddiad cywir.

Bydd y cloddiad hwn yn rhedeg dros wyliau’r Pasg, ac mae’r tîm yn eich croesawi i ddod yn eich blaen i weld eu gwaith! Bydd rheolwr y prosiect Ken Murphy, yn ogystal â Swyddog Cymunedol y prosiect, Beca Davies a’r tîm cloddio yn fwy na hapus i’ch tywys o gwmpas y safle ac i drafod y cloddiad rhwng 10yb a 3yh. Os rydych yn rhan o gymdeithas leol a hoffech drefnu ymweliad mwy ffurfiol, cysylltwch â beca.davies@cbhc.gov.uk am fwy o wybodaeth. Gobeithiwn eich gweld chi yno!

Adluniad o Fryngaer Pendinas yn yr Oes Haearn tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl yn dangos cynllun posib o ardal fewnol y fryngaer.©Toby Driver, CBHC
1. Adluniad o Fryngaer Pendinas yn yr Oes Haearn tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl yn dangos cynllun posib o ardal fewnol y fryngaer.©Toby Driver, CBHC
Delwedd drôn 3D ddiweddar o'r fryngaer sy'n dangos llociau Gogledd a De a gysylltir gan y culdir (isthmus). Hawlfraint y Goron CBHC
2. Delwedd drôn 3D ddiweddar o’r fryngaer sy’n dangos llociau Gogledd a De a gysylltir gan y culdir (isthmus). Hawlfraint y Goron CBHC
Diwrnod cyntaf y cloddiad (27 Mawrth) yn dangos gwirfoddolwyr a staff ar ôl agor y ffôs gyntaf.
3. Diwrnod cyntaf y cloddiad (27 Mawrth) yn dangos gwirfoddolwyr a staff ar ôl agor y ffôs gyntaf. Drwy gydol y pedair wythnos nesaf bydd bron i hanner cant o wirfoddolwyr yn cloddio ar y safle. Caiff darganfyddiadau eu hadrodd yn rheolaidd ar y Dyddiadur Cloddio bydd yn cael ei bostio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Comisiwn Brenhinol.  Hawlfraint y Goron: CBHC

Gan Beca Davies, Swyddog Allgymorth Cymunedol Prosiect Pendinas

03/30/2023

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x