Codi Hwyliau gyda’r Comisiwn Brenhinol

Dr Julian Whitewright Uwch Ymchwilydd (Arforol)

Ar 14 Mehefin 2021 fe ymunais â CBHC i weithio ar yr agweddau arforol a morwrol ar dreftadaeth Cymru. Yn ystod fy wythnosau cyntaf rydw i wedi bod yn dysgu am waith y Comisiwn fel rhan o’m cyfnod sefydlu. Yn ogystal â threftadaeth arforol Cymru, mae hyn wedi cynnwys pob agwedd ar y gwaith a wneir gan fy nghydweithwyr newydd, megis arolygu olion adeiladau a meysydd brwydr, archifo a digido deunydd, a sicrhau bod treftadaeth Cymru o fewn cyrraedd pawb.

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, rydw i wedi cael fy syfrdanu gan ehangder y gwaith y mae’r Comisiwn yn ei wneud bob dydd a manylder y cofnodion amrywiol sydd yn ei gasgliadau. Ond yn fwy na hynny, mae wedi fy atgoffa i bod gennym dreftadaeth arbennig iawn yma yng Nghymru, a hefyd gofnod gwych o’r gorffennol y gallwn fanteisio arno ar unrhyw adeg – pan fyddwn yn mynd allan ar daith ac ar ffurf archifau.

Mae byw yn Nhyddewi yn golygu nad ydych chi byth yn bell o’r môr, nac o bentrefi glan môr bach fel Porth Glais a’i harbwr hanesyddol.

Treuliais fy mebyd yn sir Benfro, wedi fy amgylchynu gan glogwyni, traethau, ynysoedd a chestyll gorllewin Cymru. Gadewais i fynd i’r brifysgol a bûm yn astudio archaeoleg ym Mhrifysgol Southampton. Un o gryfderau mawr Southampton yw archaeoleg arforol, pwnc yr ymddiddorais ynddo fwyfwy wrth wneud fy ngradd BA … a ddaeth yn MA mewn archaeoleg arforol … a drodd (yn y man) yn PhD.

Ar ôl hyn, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael dwy swydd fel archaeolegydd arforol, y naill yn Adran Archaeoleg Prifysgol Southampton, a’r llall gyda’r Maritime Archaeology Trust yn Southampton. Yn y swyddi rhan-amser hyn fe ddysgais am y maes o safbwynt masnachol ac academaidd. Bu gennyf ddiddordeb erioed yn archaeoleg llongau a chychod, yn deillio o’m brwdfrydedd personol dros hwylio a rhwyfo. Yn ogystal, roeddwn yn gweithio gyda chydweithwyr a oedd yn arbenigo, er enghraifft, mewn pynciau fel tirweddau boddedig, deddfwriaeth treftadaeth, a geoarchaeoleg – i enwi ond rhai.

Tyfodd Julian i fyny ym mhentref Little Haven, sir Benfro, dafliad carreg o’r traeth, lle mae’n mwynhau mynd o hyd.

Mae fy ngwaith fel archaeolegydd wedi mynd â fi ymhell o Gymru ar adegau. Rydw i wedi gweithio ar brosiectau yn India, Eritrea a’r Aifft, ac ar nifer o safleoedd yn y Solent o amgylch Southampton – mewn llaid rhyng-lanw dwfn. Fe wnaeth dechreuad y pandemig yn 2020 i fy ngwraig a minnau, fel llawer un arall, stopio a meddwl. Arweiniodd hyn yn ei dro at ddychwelyd at sgwrs roeddem wedi’i chael yn aml o’r blaen am symud yn ôl i Gymru gyda’r plant. Mae atynfa’r Môr yn ein dal ni i gyd yn y diwedd.

Felly, yn hwyr yn 2020, llogwyd lori fawr, paciwyd ein holl eiddo ynddi, a theithiasom i’r gorllewin a sir Benfro. Ffisiotherapydd yn y GIG yw fy ngwraig a gafodd brofiad uniongyrchol o don gyntaf Covid drwy feisor PPE wrth weithio yn uned gofal dwys Ysbyty Southampton, ac sydd bellach yn gweithio yn ein hysbyty lleol. Yn y sefyllfa sydd ohoni, gall ofalu am dreftadaeth archaeolegol arforol Cymru ymddangos braidd yn ddibwys.

Ond os yw’r pandemig wedi dysgu rhywbeth i ni, y ffaith y dylem werthfawrogi popeth, gan gynnwys archaeoleg arforol, yw hynny. Mae gan dreftadaeth arforol Cymru, yn ei holl ffurfiau, werth ynddi’i hun fel cofnod o’n gorffennol. Ond, yn bwysicach byth efallai, mae’r storïau sy’n deillio ohoni, ac y gallwn eu hadrodd fel archaeolegwyr, yn gallu rhoi mwynhad a phleser i bobl, ennyn diddordeb a hybu addysg, a gallant ein helpu i ddeall yn well y wlad rydym yn byw ynddi. Felly, gyda hyn mewn golwg, rydw i’n falch iawn o gael y cyfle hwn i weithio ag archaeoleg y lle rydw i’n hanu ohono, er lles pawb sy’n byw, gweithio a chwarae yno ac sy’n ymweld ag ef.

Dr Julian Whitewright Uwch Ymchwilydd (Arforol).

07/08/2021

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x