
Codio’r Casgliad: Canolfan Ddarganfod Ddigidol Samsung a Micro-bit y BBC
Mae’n bleser mawr gennym groesawu Juno Rae o Raglen Dysgu Digidol Samsung yn yr Amgueddfa Brydeinig yn ôl i Gorffennol Digidol!
Cafodd Canolfan Ddarganfod Ddigidol Samsung yn yr Amgueddfa Brydeinig ei chreu yn 2009 mewn partneriaeth â Samsung i ddarparu canolfan dechnolegol gyda’r cyfleusterau diweddaraf lle gallai plant a phobl ifanc ddysgu a rhyngweithio â chasgliadau’r Amgueddfa drwy sesiynau ysgol a theuluol.
Rhoddodd Juno sgwrs i ni am y tro cyntaf yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 am ‘A gift for Athena’, app sy’n defnyddio Realiti Estynedig i gefnogi ymweliadau gan fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 2 ag oriel y Parthenon yn yr Amgueddfa Brydeinig. Mae’r ganolfan yn dal i dorri tir newydd, ac mae Juno yn dychwelyd eleni i siarad am y codio sy’n cael ei gyflwyno gan Ganolfan Ddarganfod Ddigidol Samsung i’w sesiynau dysgu digidol gan ddefnyddio micro:bit y BBC.
Cyfrifiadur codadwy sy’n ffitio i’r boced yw’r micro:bit. Gellir ei ddefnyddio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt fel arf addysgol a chreadigol i ysbrydoli pobl ifanc. Yn y sgwrs hon eglurir sut mae’r dyfeisiau’n galluogi plant i archwilio, ymateb i ac ymgysylltu â chasgliadau’r Amgueddfa Brydeinig ac ystyrir canlyniadau rhaglen beilot y Ganolfan.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
02/02/2017