The elegantly simple Welsh National War Memorial, Cardiff, (1924–8 by Sir Ninian Comper) is a focal point for the commemoration of all the Welsh men and women who have lost their lives in the service of their country. The circular Classical colonnade evocatively opens to the sky and encloses a three-side podium with three bronze statues representing the different military services.

Coffáu: Cofebau Rhyfel yng Nghymru

Mae cofebau rhyfel yn ein hatgoffa’n gyson am wasanaeth ac aberth y rhai a fu’n amddiffyn ein rhyddid mewn rhyfeloedd a gwrthdaro yn y gorffennol ac yn gwarchod y ffordd o fyw y mae pob un ohonom yn gallu ei mwynhau heddiw. Er bod rhyfeloedd eraill a’r sawl a gollodd eu bywyd ynddynt wedi’u coffáu cyn yr 1920au, arweiniodd y golled enfawr a oedd yn gymaint o sioc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf at godi degau o filoedd o gofebau rhyfel yn y don fwyaf o weithgarwch coffáu a welodd y DU erioed. Roedd y coffáu cyhoeddus hwn yn ymateb pwerus i faint y golled a ddioddefwyd, ac yn ffocws i alar pobl a’u hymdeimlad o golled ac yn ffocws i’w balchder hefyd. Cafodd 35,000 o ddynion a menywod o Gymru eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn cynnwys pobl o bron bob cymuned. (Dim ond tri ‘phentref diolchgar’ sydd yng Nghymru, yr ydym yn gwybod eu bod wedi gweld pob un o’u milwyr yn dychwelyd adref yn ddiogel: Herbrandston yn Sir Benfro, Llanfihangel-y-Creuddyn yng Ngheredigion a Thregolwyn ym Mro Morgannwg.)  Mae cofebau rhyfel wedi bod yn ganolbwynt teimladwy i ddigwyddiadau coffáu mewn trefi a phentrefi ledled Cymru am bron ganrif.

Mae 2,590 o gofebau rhyfel yng Nghymru. Maent yn amrywio o gofebau a cherfluniau cywrain sy’n sefyll ar eu pen eu hunain i blaciau syml mewn capeli, eglwysi, ysgolion, swyddfeydd post a banciau. Gyda’i gilydd, dyma’r corff mwyaf o bell ffordd o gofebau cyhoeddus yng Nghymru, a cheir enghreifftiau ohonynt ym mhob cymuned. At hynny, mae yna neuaddau coffa mewn pentrefi a maestrefi ledled Cymru, gyda’r geiriau ‘Neuadd Goffa’ yn amlwg ar eu tu blaen.

Mae arwyddocâd crefyddol yn ogystal ag arwyddocâd dinesig yn perthyn i’r gofeb ryfel hon sydd ar ben carreg frig amlwg ym mynwent Eglwys Sant Tysilio ar ynys yn Afon Menai.
Mae arwyddocâd crefyddol yn ogystal ag arwyddocâd dinesig yn perthyn i’r gofeb ryfel hon sydd ar ben carreg frig amlwg ym mynwent Eglwys Sant Tysilio ar ynys yn Afon Menai.

Mae llawer o gofebau’n cynnwys iaith gyfoethog symboliaeth. Ym Mhontmorlais, Merthyr Tudful, caiff ffawd ei chynrychioli gan fenyw sydd â glöwr ar y naill ochr iddi a mam yn cario ei phlentyn yr ochr arall. Mae pob un ohonynt fel pe baent yn derbyn eu tynged; mae hynny’n amlwg o’r ffordd y maent yn edrych i lawr ar yr arysgrifen islaw sy’n rhestru enwau’r sawl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd cymunedau ysgolion yn coffáu’r rhai a fu farw hefyd. Cafodd enwau cyn-ddisgyblion a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf eu cofnodi ar y gofeb hon y tu allan i’r hen ysgol ramadeg (a drodd wedyn yn goleg) yn Llangefni ar Ynys Môn. Ar dop y gofeb, mae yna gerflun o filwr mewn gwisg ffurfiol gyda’i ddwylo yn gorffwys ar wn sydd o chwith.

Dechreuodd y broses goffáu yn syth ar ôl y Rhyfel a chafodd llawer o bwyllgorau – a arweiniodd at densiynau o ran dosbarth, ardal ac iaith – eu sefydlu yn yr 1920au i ddarparu cofebau rhyfel ar gyfer eu cymunedau, er y ceir enghreifftiau hefyd yn dilyn rhyfeloedd diweddarach a chynharach, yn enwedig Rhyfel De Affrica (1899–1902).

Cafodd y gofeb hon yng nghanol Sgwâr Neuadd y Dref, Caerfyrddin ei dylunio gan E V Collier (1905–6) i goffáu Rhyfel De Affrica a oedd newydd fod.
Cafodd y gofeb hon yng nghanol Sgwâr Neuadd y Dref, Caerfyrddin ei dylunio gan E V Collier (1905–6) i goffáu Rhyfel De Affrica a oedd newydd fod.

Mae ffigyrau yng nghofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd, Wrecsam yn darlunio milwyr o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei chreu gan y cerflunydd, Syr W. Goscombe John, a chafodd ei chodi yn 1924. Mae’r gofeb hon yn pwysleisio parhad y gatrawd sydd dros 300 mlwydd oed. Caiff hynny ei bwysleisio ymhellach gan y gofeb fodern isod o gyfnod llawer yn ddiweddarach (sydd i’r gorllewin o gofeb ryfel y Ffiwsilwyr Cymreig) sy’n coffáu milwyr a fu farw yn ystod Rhyfel Ynysoedd Falkland yn 1982.

Ni welwyd llawer o gofebau newydd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ond cafodd enwau’r milwyr a fu farw eu hychwanegu at y rhestrau a oedd wedi’u harysgrifennu’n barod ar gofebau’r ‘Rhyfel Mawr’. Mae cofebau heddiw yn dal i’n hatgoffa yn barhaol am y sawl a gollodd eu bywyd mewn unrhyw wrthdaro.

Cafodd y gatiau addurnol anarferol hyn sy’n arwain i’r Gerddi Eidalaidd ym Mharc Pont-y-pŵl eu dadorchuddio ar 27 Rhagfyr 1924 i goffáu’r dynion o Abersychan a Phont-y-pŵl a gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd enwau’r sawl a gollodd eu bywyd mewn gwrthdaro wedyn eu hychwanegu’n ddiweddarach. Mae’r dyluniad yn dathlu sgiliau pobl leol wrth drin haearn, a ddefnyddiwyd i greu’r gatiau.

Mae Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, Caerdydd (1924–8 gan Syr Ninian Comper), sy’n osgeiddig o syml, yn ffocws ar gyfer coffáu holl ddynion a menywod Cymru sydd wedi colli eu bywyd wrth wasanaethu eu gwlad. Mae’r colonâd Clasurol ar ffurf cylch yn agor yn atgofus tua’r awyr, a’r tu mewn iddo ceir podiwm ac iddo dair ochr yn ogystal â thri cherflun efydd sy’n cynrychioli’r gwahanol wasanaethau milwrol.

Cofeb olaf i’r Rhyfel Byd Cyntaf, a gwblhawyd ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, oedd y Deml Heddwch ac Iechyd, Parc Cathays, Caerdydd, gan Syr Percy Thomas, 1937–8.  Cafodd y sefydliad ei sefydlu gan yr Arglwydd Davies o Landinam i hyrwyddo heddwch ac iechyd, ac ynddo ceir crypt coffa sydd islaw’r neuadd ar y llawr gwaelod.

Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau

Gwybodaeth bellach:

Mae’r Gofrestr Cofebau Rhyfel a gedwir gan yr Imperial War Museum yn gofrestr genedlaethol gynhwysfawr o dros 90,000 o gofebau rhyfel yn y DU: https://www.iwm.org.uk/memorials.

Cofebion Rhyfel yng Nghymru gan Cadw. Ffeil PDF i’w lawrlwytho am ddim.

Angela Gaffney, Aftermath: Remembering the Great War in Wales (University of Wales Press, 1998).   

11/10/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x