
Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
Bydd Deanna Groom, Swyddog Arforol CBHC, a Mike Roberts, Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor, yn amlinellu nodau prosiect dwy flynedd i arolygu llongddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar hyd arfordir Cymru a chysylltu â chymunedau arfordirol i ddarganfod eu hanesion am y llongau a’r dynion a menywod a fu’n gwasanaethu arnynt.
Pwrpas y prosiect yw cynnig cipolwg manwl am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd ar weddillion llongau’r llynges fasnachol a’r llynges frenhinol sydd ar wely’r môr ar hyd arfordir Cymru drwy ymgymryd â rhaglen o archwilio, darganfod ac ymchwilio tanddwr sy’n gysylltiedig â rhaglen fawr o ymgysylltu â’r cyhoedd. Drwy ddarparu ‘mynediad i bawb’ i’r ‘amgueddfeydd tanfor’ hyn tua chan mlynedd ar ôl y colledion mwyaf ar hyd arfordir Cymru yn 1917-18, bydd y prosiect yn sicrhau bod storïau’r rheiny a fu’n gwasanaethu ac a gollodd eu bywydau’n cael eu cofio.
Y ddadl yw bod y rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru yn agwedd ar dreftadaeth ddiwylliannol Cymru sydd wedi’i hanghofio neu’n anhysbys i raddau helaeth. Dro ar ôl tro mae nifer y colledion wedi peri syndod a myfyrio ar gyd-destun ehangach y Rhyfel Mawr ar y môr. Mae angen i bobl weld er mwyn credu a deall. Dyma’r hyn y bydd y prosiect yn ei wneud.
Mae’r dotiau coch yn dangos llongau ac awyrennau a gollwyd oddi ar arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dotiau yn dangos colledion llongau ac awyrennau un ystod Rhyfel y Byd Cyntaf
Darllen pellach:
Byddwn yn postio mwy o flogiau fel rhan o’r prosiect: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18. Darllenwch bostiadau blaenorol yma:
- 100 mlynedd yn ôl i’r mis hwn – ymosodiadau gan longau tanfor yn nyfroedd Cymru
- Manylion y prosiect
- Ymosodiadau gan yr U-35
- Ymosodiadau gan yr U38
- Suddo’r VAN STIRUM ar Ddiwrnod Nadolig, 1916
- Wynebau rhai o longwyr Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf
- Llongwyr masnachol o Orllewin Affrica a gollodd eu bywydau yn nyfroedd Cymru
Galwad am gyfraniadau: os oes gennych unrhyw wybodaeth, dogfennau neu ffotograffau’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y prosiect hwn, neu os hoffech gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
02/13/2017