
Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn y Llongau-U ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
Yn ystod y penwythnos 22 – 24 Mehefin, bydd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn cynnal ysgol faes arforol yng Nghlwb Hwylio a Chwaraeon Dŵr Traeth Coch, Traeth Bychan, Môn.
Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a sefydlwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Digwyddiad AM DDIM yw’r ysgol faes, mae ar agor i bawb ac mae’n addas i bob oedran. Felly dewch i ymuno â ni a chymryd rhan yn y gweithgareddau a fydd yn cynnwys:
- Sgyrsiau ar Nos Wener 22 a Nos Sadwrn 23 o 19:00
(mae tocynnau ar gael ar-lein yn: http://www.redwharfbaysc.co.uk/events.html ) - Arddangosfeydd, Arddangosiadau a Gweithgareddau yn ystod Dydd Sadwrn a Dydd Sul
(am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.nauticalarchaeologysociety.org/WalesUBoatWar )
Yn ystod y penwythnos (os bydd y tywydd yn caniatáu), bydd deifwyr yn plymio i’r môr i archwilio llongddrylliad y Cartagena, treill-long ager a adeiladwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i dreillio am ffrwydron nofio ar hyd arfordir Cymru. Mae bellach yn gorwedd 37m o dan yr wyneb, tua 6 milltir o Draeth Bychan.

Deifwyr yn lansio eu cwch cyn deifio i lawr i longddrylliad y Cartagena – © Malvern Archaeological Diving Unit.
Fel rhan o’r prosiect mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn defnyddio ei llong arolygu, Prince Madog, i gofnodi safleoedd llongddrylliadau ar hyd arfordir Cymru, gan gynnwys y Cartagena, a bydd y canlyniadau’n cael eu dangos yn ystod yr ysgol faes.
I gael mwy o wybodaeth am yr ysgol faes, cysylltwch â’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol:
Ffôn: 02392 818 419
E-bost: nas@nauticalarchaeologysociety.org
Nodiadau i olygyddion
Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.
- Bydd rhaglen o arolygon geoffisegol morol yr ymgymerir â hi gan y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn ystod y gwanwyn a’r haf 2018 yn cofnodi data aml-baladr cydraniad uchel ar gyfer y 17 longddrylliad a ddewiswyd ar gyfer y Prosiect. Bydd gwaith arolygu ychwanegol gan y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn cynnwys gwneud ffilmiau fideo o 5 o’r llongddrylliadau hyn a chyfunir yr holl wybodaeth i greu modelau digidol rhyngweithiol 3D i’w defnyddio ar wefan y Prosiect ac mewn arddangosfa deithiol.
- Bydd arddangosfa deithiol y Prosiect yn ymweld â deunaw amgueddfa môr yng Nghymru o fis Gorffennaf 2018 ymlaen, cyn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019.
- Mae’r holl amgueddfeydd sy’n darparu cartref i’r arddangosfa deithiol wedi bod yn trefnu rhaglen o weithgareddau cymunedol, lle bydd gwirfoddolwyr o bob oed a chefndir yn ymgysylltu â’r dreftadaeth hon i ddarganfod, datgelu ac adrodd hanesion y bobl a fu’n gwasanaethu ar y 17 long a’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y colledion a’r rhyfel ychydig oddi ar arfordir Cymru.
- Partneriaeth rhwng tri sefydliad, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol, yw’r Prosiect hwn. Y Comisiwn Brenhinol yw’r partner arweiniol, yn ganolbwynt ar gyfer y rhwydwaith o amgueddfeydd ac archifdai ar hyd arfordir Cymru sy’n cynnal yr arddangosfa deithiol, ynghyd ag elusennau sy’n cynrychioli pobl ifanc, personél y lluoedd arfog, a gofal cymdeithasol.
- Gellir dilyn y datblygiadau yma:
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat
- Gellir cael mwy o wybodaeth am nodau’r Prosiect a sut mae’n cael ei ariannu yma: https://rcahmw.gov.uk/world-war-one-u-boat-partnership-project-gets-green-light-from-heritage-lottery-fund-for-wales-year-of-the-sea-2018
- Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â: uboat@rcahmw.gov.uk
06/13/2018