
Cofio Aberfan: Tynged Greulon
Mae yna gofgolofn ryfel mewn cwm yn Ne Cymru y mae arni bron 150 o enwau pobl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r colledion hyn yn eithriadol o uchel ar gyfer cymuned lofaol fach.
Yna, 21 mlynedd yn ddiweddarach, mewn rhyfel byd-eang arall, collodd 50 yn rhagor o aelodau’r lluoedd arfog eu bywydau.
Trwy gyd-ddigwyddiad enbyd, ar ôl bwlch arall o 21 mlynedd, collwyd 144 yn rhagor o fywydau mewn trychineb erchyll – gan beri trallod a dioddefaint i genhedlaeth arall. Y pentref hwnnw yw Aberfan.
Am 9:15 y bore ar Ddydd Gwener yr 21ain o Hydref 1966, cafodd rhan fawr o domen lo glofa Rhif 7 ei hansefydlogi ar ôl cyfnod o law trwm cyson. Wrth ddisgyn fe lyncodd y tirlithriad fferm fach, ugain o dai, ac ysgol y pentref. Mae awyrlun fertigol y Llu Awyr Brenhinol, a dynnwyd yn fuan ar ôl y trychineb, yn dangos yn glir faint y tirlithriad a’i daith ddinistriol.

Awyrlun fertigol y Llu Awyr Brenhinol o archif y Comisiwn Brenhinol, 1966
10/17/2016