Cofio Milwyr D-Day, 6 Mehefin 1944

Mae 6 Mehefin 2019 yn nodi 75 mlynedd ers lansio Ymgyrch Overlord, yr ymosodiad cyfunol mwyaf erioed gan luoedd arfog y tir, y môr a’r awyr. Dechreuodd Ymgyrch Overlord gyda glaniadau Normandi ar 6 Mehefin 1944 (sef Ymgyrch Neptune neu D-Day). Wedi ymosodiadau gan y llu awyr, cafodd rhyw 160,000 o filwyr eu cludo i’r traethau gan fwy na 5000 o gychod. Erbyn diwedd Ymgyrch Overlord ym mis Awst 1944, roedd mwy na dwy filiwn o filwyr y Cynghreiriaid wedi glanio yn Ffrainc. Rhoddwyd enwau cod sy’n enwog hyd heddiw ar y traethau yng ngogledd-orllewin Normandi a ddewiswyd ar gyfer y glaniadau – byddai’r Americanwyr yn glanio ar draethau Utah ac Omaha, y Prydeinwyr ar draethau Sword a Gold, a’r milwyr o Ganada ar draeth Juno.

Mae ffilm hynod ddiddorol yng nghasgliadau’r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd yn dangos milwyr yn ymarfer glaniad fis yn gynt ar Ynys Hayling yn Swydd Hampshire. Hanner ffordd drwy’r ffilm, mae Tanc Bad Glanio (Landing Craft Tank) 7009 yn dod allan o’r môr ac yn glanio ar y traeth. Yna mae’r drysau’n agor yn araf ac mae milwyr a tharw dur bach yn ymddangos. Dilynwch y cyswllt hwn i weld y ffilm:

https://film.iwmcollections.org.uk/record/2269

Mae llongddrylliad yr LCT 7009 yn gorwedd oddi ar arfordir Sir Benfro (NPRN 519173 https://coflein.gov.uk/en/site/519173/details/lct-7009). Ar 6 Mehefin 1944, roedd yn rhan o’r 15fed Lyngesan y rhoddwyd iddi’r dasg o gludo tanciau Sherman M4 Gyriant Deublyg (Duplex Drive). Cawsant eu llysenwi’n danciau ‘Donald Duck’ gan fod sgrin ‘arnofiant’ wedi’i gosod o amgylch godre’r tanc a chan fod dau bropelor yn gyrru’r injan. Daeth yr LCT 7009 drwy’r rhyfel ond cafodd ei golli wrth gael ei dynnu gan yr HMS JAUNTY, tynfad achub dosbarth Assurance o eiddo’r Llynges Frenhinol, ar 19 Awst 1951.

Mae’r model hwn o Danc Bad Glanio Marc 3 yn dangos y nodweddon a oedd yn allweddol i’w lwyddiant: y corff siâp blwch, y dyfnder bas, a’r ramp blaen a oedd yn gostwng. Ffynhonnell: © IWM (MOD 35) https://www.iwm.org.uk/collections/item/object/30018101

Cwch arall a chwaraeodd ran yng nglaniadau D-Day ac a gollwyd yn nyfroedd Cymru yw llong Liberty o’r enw DAN BEARD (NPRN 240675 https://coflein.gov.uk/en/site/240675/details/dan-beard-aft-section). Mae’r enw poblogaidd am y dosbarth hwn o longau nwyddau’n tarddu o araith a roddwyd gan yr Arlywydd Roosevelt ym mis Medi 1941. Siaradodd am y llongau’n dod â rhyddid i Ewrop ac yn sgil hynny fe gafodd y 2,710 o longau a adeiladwyd gan 18 iard longau yn UDA rhwng 1941 a 1945 eu galw’n ‘Liberty Ships’. Dyma’r nifer mwyaf o longau erioed i gael eu cynhyrchu i’r un cynllun, a oedd yn Brydeinig o ran y cysyniad gwreiddiol ond a newidiwyd fel y gellid masgynhyrchu’r llongau o adrannau a gâi eu weldio wrth ei gilydd. Erbyn diwedd y rhyfel roedd yn bosibl cwblhau un o’r llongau hyn mewn rhyw 42 ddiwrnod.

Llong Liberty yn cael ei llwytho yn Boston, Massachusetts – mae’r llwyfan crwn ar gyfer gwn y starn i’w weld yn amlwg ar y dec. Ffynhonnell: Archifau Cenedlaethol yr UD, Efrog Newydd, dynodydd 7385015, dim cyfyngiad ar ei ddefnyddio.

Cafodd 351 o’r llongau Liberty hyn eu cynhyrchu gan Permanente Metals Richmond, California, adeiladwyr y DAN BEARD, rhwng 1941 a 1945. Cafodd y llong ei hun ei henwi ar ôl Daniel Carter Beard (1850 – 1941), arlunydd, darlunydd a sylfaenydd Sgowtiaid America. Cafodd ei defnyddio gan Wasanaeth Cludo Byddin yr Unol Daleithiau i ddod â 480 o ddynion a 120 o gerbydau milwrol i Normandi. Ychydig o fisoedd wedyn, ar 10 Rhagfyr 1944, cafodd ei suddo gan yr U-1202 (Capten Thomsen) saith milltir oddi ar Ben Strwmbwl. Lladdwyd 29 o ddynion, gan gynnwys aelodau o Lynges yr UD a llongwyr masnach.

Mae tystiolaeth o’r cynllunio a’r ymarfer ar gyfer D-Day, a’r cyrch ei hun, i’w gweld ar safleoedd eraill ar hyd yr arfordir. Er enghraifft, cafodd y pennau pierau a’r rhannau o ffordd ar gyfer y ddau Harbwr Mulberry arnawf ar arfordir Normandi eu hadeiladu ym Morfa Conwy. Hugh Iorys Hughes (1902–77), peiriannydd sifil o Fangor, a oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith adeiladu gan grefftwyr lleol a rhyw 1000 o ddynion eraill y darparwyd llety ar eu cyfer ym Mhlas Mariandir, Neuadd Marle a Thyn-y-Coed, yn ogystal ag yng nghartrefi’r ardal. Cafodd carreg goffa ei gosod ar y safle adeiladu, sydd bellach yn rhan o Glwb Golff Conwy, ym 1978.

Parhawn i gofio’r bobl hynny a chwaraeodd ran yn D-Day, ymgyrch fwyaf tyngedfennol yr Ail Ryfel Byd.

Gweddillion Harbwr Mulberry A yn Arromanches-les-Bains, Ffrainc. Ffynhonnell: CBHC.

06/06/2019

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x