Coflein: Canllaw i ddelweddau a hawlfraint

Coflein

Coflein yw’r catalog archifol a’r gronfa ddata ar-lein am safleoedd sy’n perthyn i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef archif y Comisiwn Brenhinol. Mae’n cynnwys gwybodaeth am dros 120,000 o safleoedd hanesyddol yng Nghymru, a manylion am gofnodion archifol sy’n ymwneud â nhw. Yn ogystal â’r holl wybodaeth honno, mae hefyd yn cynnwys tua 125,000 o ddelweddau digidol o’r archif y gall pawb eu gweld fel y mynnant ar-lein. Mae tîm y Llyfrgell a’r Gwasanaeth Ymholiadau yn fwy na pharod i gynnig cymorth a chyngor ynghylch mynediad, hawlfraint, caniatâd, trefniadau trwyddedu ac ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud â’r archif a delweddau, ond dyma’r atebion i rai cwestiynau cyffredin:

Pwy sy’n berchen ar yr hawlfraint ar y delweddau sydd ar Coflein?

Mae’r hawlfraint ar y delweddau sydd ar Coflein yn eiddo i amryw unigolion neu sefydliadau. Caiff y delweddau eu gwarchod gan gyfraith hawlfraint, sy’n golygu na ellir eu defnyddio’n fasnachol heb ganiatâd.Cafodd llawer o’r delweddau eu creu gan ymchwilwyr ac aelodau eraill o staff sy’n gweithio i’r Comisiwn Brenhinol ei hun, ac maent felly’n destun ‘Hawlfraint y Goron’. Mae’r Goron wedi rhoi awdurdod i’r Comisiwn Brenhinol weinyddu’r hawlfraint ar y delweddau hyn, h.y. wedi rhoi awdurdod iddo roi caniatâd i eraill eu defnyddio, am ffi weithiau.   

Fodd bynnag, mae’r hawlfraint ar lawer o’r delweddau sydd ar Coflein yn eiddo i drydydd partïon, e.e. unigolyn neu sefydliad sydd wedi rhoi ffotograffau i’r Comisiwn ond sydd wedi cadw’r hawliau i’r delweddau. Mewn achosion o’r fath, rhaid gofyn i’r perchennog am ganiatâd. Gallwn helpu gyda hynny’n aml.

Pam y mae’n bwysig cael caniatâd a chydnabod crewyr?

  • Er mwyn cydnabod gwaith caled a chreadigrwydd pobl eraill.
  • Dyna’r gyfraith – mae dwyn eiddo deallusol yn drosedd.
  • Mae’n galluogi’r sawl sy’n gwylio neu’n darllen eich gwaith i chwilio am y ffynonellau gwreiddiol.
  • Mewn lleoliad proffesiynol neu academaidd, mae’n dangos hyd a lled eich gwaith a’ch ymchwil.

Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio’r delweddau sydd ar Coflein?

Gallwch ddefnyddio’r delweddau sydd ar Coflein fel y mynnwch at y dibenion canlynol:

  • Addysg: e.e. traethodau, cyflwyniadau mewn ystafell ddosbarth.
  • Ymchwil bersonol: e.e. hanes teulu, hanes lleol, ymchwil academaidd.
  • Defnydd personol: e.e. i’w hongian ar y wal mewn cartref preifat.
  • Ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau nad ydynt yn rhai masnachol e.e. tudalennau am hanes ar Facebook, gwefannau am hanes lleol.

Caiff yr holl wahanol fathau o ddefnydd a nodir uchod eu hystyried yn gyffredinol yn ddefnydd ‘anfasnachol’. Cânt eu caniatáu dan delerau’r Drwydded llywodraeth anfasnachol os ydynt yn destun Hawlfraint y Goron, a than ein Telerau ac amodau ni os ydynt yn ddeunydd arall. Er nad oes angen i chi ofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r rhan fwyaf o ddelweddau yn y ffyrdd hyn, mae’n bwysig eich bod yn dilyn y broses gywir i gaffael copïau, oherwydd bydd rhai o’r delweddau yn destun hawlfraint trydydd parti a bydd angen caniatâd i’w defnyddio. Rydym hefyd yn codi ffi am ddarparu delweddau cydraniad uchel neu ddelweddau heb ddyfrnod.

Pryd y mae angen i fi gael caniatâd i ddefnyddio’r delweddau?

Nid yw’r ‘Drwydded llywodraeth anfasnachol’ yn ymdrin â defnydd masnachol o’r delweddau neu ddefnydd o’r delweddau gan gyrff masnachol. Felly, rhaid gofyn am ganiatâd gan y Comisiwn Brenhinol neu ddeiliaid eraill hawlfraint, drwy brynu trwydded benodol. Yn gyffredinol, mae defnydd masnachol yn cynnwys defnyddio’r delweddau yn y ffyrdd canlynol:

  • Mewn cyhoeddiadau – cyhoeddiadau elusennau, cyhoeddiadau academaidd, cylchgronau, cyhoeddiadau masnachol neu adroddiadau swyddogol.
  • Mewn taflenni a llyfrynnau.
  • Ar y cyfryngau – mewn rhaglenni teledu, ar DVDs, at ddibenion ffrydio.
  • I’w hailwerthu – ar gylchau allweddi, fel printiau, fel cardiau post, ar fygiau, ac ati.
  • I’w harddangos yn fasnachol – mewn arddangosfeydd, bwytai neu dafarnau neu ar banelau arddangos.
  • Mewn cyflwyniadau masnachol – gan fusnesau, mewn anerchiadau y mae tâl mynediad yn berthnasol iddynt.
  • Ar wefannau masnachol – gan fusnesau.

Mae’r rhestr uchod yn cynnwys yr enghreifftiau mwyaf cyffredin o ddefnydd masnachol, ond nid yw’n rhestr gyflawn. Fel rheol, byddwn yn codi ffi am ddarparu trwyddedau sy’n rhoi caniatâd i ddefnyddio delweddau at ddiben masnachol penodol. Mae’r prisiau yn amrywio, yn dibynnu ar y defnydd a wneir o’r delweddau, ac mae rhestr lawn o Ffïoedd Trwyddedau i’w chael yma.

Sut mae dod o hyd i ddelweddau ar Coflein?

Mae cael gafael ar gopïau o’n delweddau digidol yn haws nag erioed yn awr. Gellir dod o hyd i ddelweddau mewn dwy ffordd wahanol. Yn gyntaf, drwy chwilio ar Coflein am safle hanesyddol penodol yng Nghymru, e.e. Castell Caernarfon. Ar ôl cyrraedd y cofnod penodol ar gyfer y safle dan sylw, gallwch ddewis ‘Delweddau’ er mwyn gweld yr holl ddelweddau digidol sy’n gysylltiedig â’r safle.

Fel arall, os ydych yn chwilio am ddelwedd benodol, gallwch chwilio gan ddefnyddio rhif archif, cyfeirnod, enw casgliad yn yr archif neu feini prawf eraill. 

Awyrlun lliw ar osgo gan CBHC o Gastell Caernarfon, a dynnwyd gan C.R. Musson, 1/5/1994.  Rhif archif: 6153284

Sut mae cael copïau o’r delweddau sydd ar Coflein?

Pan fyddwch wedi dod o hyd i ddelwedd ac wedi’i dewis, cliciwch ar ‘Further Information’ a fydd yn agor ein llyfrgell ddelweddau mewn tab newydd. 

I gaffael copi o’r ddelwedd, mae’r opsiynau prynu i’w gweld ar y chwith o dan y ddelwedd. Mae fersiynau cydraniad isel â dyfrnod at ddefnydd personol ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, neu gallwch brynu fersiynau cydraniad uwch am hyd at £10. 

Ar ôl dewis yr opsiynau cywir ar gyfer defnydd (gweler isod) a chydraniad y ddelwedd, bydd angen i chi greu cyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad ebost a chyfrinair. Yna, gallwch symud ymlaen i’r cam talu a thalu am y ddelwedd (os oes ffi’n berthnasol). Bydd y ddelwedd wedyn yn cael ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. 

Sut mae cael caniatâd i atgynhyrchu’r delweddau?

I gael delwedd at ddefnydd nad yw’n ddefnydd personol, e.e. ar gyfer cyhoeddiadau, gwefannau, rhaglenni teledu, taflenni ac ati, ewch i’r llyfrgell ddelweddau (gweler uchod). Pan fyddwch yno, dewiswch yr opsiwn priodol o’r gwymplen sydd wrth ymyl y gair ‘Defnyddio’ a darparwch y wybodaeth ofynnol ynglŷn â sut y byddwch yn defnyddio’r ddelwedd. Pan fyddwch wedi dewis yr opsiynau cywir, pwyswch ‘Ychwanegu’. Ar ôl creu cyfrif a gorffen talu, byddwch yn cael trwydded gyda’r ddelwedd y byddwch yn ei lawrlwytho.

Yn olaf, mae yna lawer o ffactorau i’w hystyried pan fyddwch yn defnyddio deunydd deallusol sy’n eiddo i bobl eraill, a gall ymddangos yn faes eithaf cymhleth. Fodd bynnag, waeth beth fo’r sefyllfa, cofiwch ddilyn y ddwy ‘reol euraid’ hyn:

Cofiwch gydnabod perchennog y deunydd – beth bynnag fo’r defnydd y byddwch yn ei wneud o ddelweddau neu ddeunydd arall, boed yn ddefnydd masnachol neu anfasnachol, dylech sicrhau bob amser eich bod yn defnyddio’r geiriad priodol i gydnabod yn gywir bod y deunydd yn eiddo deallusol i rywun arall. 

Os nad ydych yn siŵr – gofynnwch! Fel rheol, bydd llyfrgellwyr ac archifwyr yn gallu helpu gyda hawlfraint. Yn achos unrhyw ddeunydd sydd ar Coflein, mae tîm Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau’r Comisiwn Brenhinol yn fwy na pharod bob amser i helpu drwy gynnig eglurhad a chyngor ynghylch caniatâd, hawlfraint, trefniadau trwyddedu, costau a materion eraill.

I gysylltu â thîm y Llyfrgell a’r Gwasanaeth Ymholiadau, anfonwch ebost i nmr.wales@rcahmw.gov.uk, ffoniwch 01970 621200 neu llenwch ffurflen ymholi.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am rai o’r casgliadau digidol y gellir eu gweld ar Coflein: https://cbhc.gov.uk/lluniadau-wediu-digido-a-ffotograffau-anhygoel-enghreifftiau-gwych-on-casgliadau-ar-lein/

Gan Rhodri E Lewis, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell

04/23/2023

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x