
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Archif treftadaeth adeiledig Cymru
Mae mwy na chanrif o arolygu, cofnodi a chasglu wedi arwain at greu archif unigryw sy’n adrodd hanes y newidiadau mawr yn nhirwedd hanesyddol Cymru. Mae’n cynnwys deunydd ar bob agwedd ar hanes archaeolegol, pensaernïol, eglwysig, diwydiannol, amddiffynnol ac arforol y wlad.
Cewch ynddo gofnodion ar:
- Tai
- Adeiladau fferm
- Eglwysi
- Capeli
- Ysgolion
- Cylchoedd Cerrig
- Bryngaerau
- Llociau
- Safleoedd Rhufeinig
- Cestyll
- Myntiau
- Camlesi
- Rheilffyrdd
- Gweithfeydd haearn
- Pyllau glo
- Melinau
- Goleudai
- Ffatrïoedd
- Gerddi
- Llongddrylliadau
- Plastai
- Carneddau
… a llawer, llawer mwy
Casgliadau
- Ffotograffau hanesyddol a modern
- Lluniadau
- Mapiau hanesyddol
- Awyrluniau hanesyddol a modern
- Arolygon archaeolegol ac archifau cloddio
- Adroddiadau a chynlluniau pensaernïol
- Arolygon digidol
- Adluniadau
- Data cwmwl pwyntiau o sganio laser daearol
- GIS – Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
- Ail-greu digidol – modelau 3D ac animeiddiadau
- Llyfrgell arbenigol
Defnyddiwch COFLEIN, ein cronfa ddata ar-lein, i chwilio am safleoedd sydd o ddiddordeb i chi, bwrw golwg dros gasgliadau sydd wedi’u catalogio, a gweld delweddau o bob rhan o Gymru.
Defnydd
- Hanes lleol a theuluol
- Hanes tai
- Gwneud modelau
- Addysg bellach ac uwch
- Ysbrydoliaeth artistig
- Lluniau ar gyfer eich sgyrsiau, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd
- Twristiaeth
- Cyfryngau / y wasg
- Asesiadau desg
- Darganfod ffiniau
- Astudiaethau ardal ar gyfer ffermydd gwynt, llwybr pibellau ac ati
- Materion cynllunio
- Ymchwilio i safleoedd archaeolegol
- Byrddau gwybodaeth
Dewch i’n llyfrgell ac ystafell chwilio i weld llyfrau, cylchgronau a deunydd archifol gwreiddiol o CHCC. Rydym ar agor: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 09:30 – 16:00, Dydd Mercher 10:30 – 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
Gwasanaethau
- Gwasanaeth ymholiadau am ddim i’r cyhoedd
- Gwasanaeth chwilio blaenoriaethol
- Llyfrgell ac ystafell chwilio gyda mynediad i’r rhyngrwyd a wi-fi am ddim
- Llyfrgell ddelweddau
- Ymweliadau gan grwpiau
- Adnoddau addysgol
- Digido
- Setiau data a mapio digidol

Ystafell chwilio Henebion Cenedlaethol Cymru.
DS2007_479_002
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth
Ceredigion, SY23 1NJ
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
08/12/2015