St Nicolas, Grosmont: DS2011_339_006

Cofnodi amrywiaeth gyfoethog Treftadaeth Ffydd Cymru

Cafodd y Comisiwn Brenhinol ei sefydlu ym 1908 i ymchwilio i adeiladau o bwys hanesyddol, pensaernïol a diwylliannol yng Nghymru a’u cofnodi, ac efallai na fu unrhyw faes a ddatblygwyd gennym ers hynny yn bwysicach na’n gwaith ar adeiladau ffydd.

Rhoddodd y rhestri neu ‘inventories’ a gynhyrchwyd fesul sir o 1914 ymlaen sylw arbennig i dreftadaeth grefyddol gyfoethog Cymru yn yr Oesoedd Canol. Ymhlith y safleoedd a gofnodwyd y mae’r Eglwysi Cadeiriol mawr fel Tyddewi a Llanelwy, mynachlogydd gwledig pwysig fel Glyn y Groes, Abaty Tyndyrn ac Ystrad Fflur, a brodordai megis hwnnw yn Ninbych, unig dŷ’r Carmeliaid yng Nghymru. Ceir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) lu o luniadau, ffotograffau a deunydd dogfennol sy’n sail i’r hyn a wyddom am y safleoedd hyn. Ceir yn ein harchif hefyd enghreifftiau o safleoedd llawer llai, sydd yr un mor bwysig a diddorol, megis Eglwys y Grysmwnt, Sir Fynwy. Yma, mae technolegau’r unfed ganrif ar hugain, megis dendrocronoleg, wedi rhoi i ni ddyddiad o 1214-1244 ar gyfer y to, sy’n golygu mai’r to hwn, o blith y rheiny sydd wedi’u dyddio’n bendant, yw’r cynharaf yng Nghymru, ac mae sganio laser wedi cynyddu ein dealltwriaeth o’r eglwys hon yn fwy byth.

Glyn y Groes: DI2017_2353

Glyn y Groes: DI2017_2353

 

Sant Niclas, Y Grysmwnt: DS2011_339_006

Sant Niclas, Y Grysmwnt: DS2011_339_006

 

Un maes y buwyd yn canolbwyntio arno’n arbennig yw cofnodi ac astudio’r murluniau a fyddai ar un adeg wedi addurno’r rhan fwyaf o eglwysi cadeiriol a chapeli canoloesol. Mae’r paentiadau lliwgar y byddai addolwyr wedi rhyfeddu atynt wedi’u hadfer yn llwyr yn eglwys Llandeilo Tal-y-bont, sydd bellach yn Amgueddfa Werin Cymru. Câi’r muriau mewnol eu defnyddio fel cynfasau enfawr ar gyfer adrodd yn weledol storïau o’r Beibl.

Sant Teilo: C98007/1

Sant Teilo: C98007/1

 

Yn ystod yr ugeinfed ganrif daethpwyd i gydnabod fwyfwy fod angen cofnodi treftadaeth grefyddol fwy diweddar Cymru, yn enwedig ei gorffennol Anghydffurfiol. Yr eglwys Brotestannaidd gyntaf a gomisiynwyd yng Nghymru oedd Eglwys Dewi Sant, Dinbych, y talwyd amdani gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, Barwn Dinbych 1564-1588, a chefnogwr pybyr y ffydd Brotestannaidd. Hon oedd yr eglwys ôl-Ddiwygiad fwyaf i gael ei hadeiladu yn y Deyrnas Unedig hyd nes i eglwys Sant Pawl yn Llundain gael ei chwblhau, ac roedd ganddi nifer o nodweddion pensaernïol pwysig a gâi eu hefelychu wrth gynllunio eglwysi Protestannaidd eraill.

Y mannau addoli mwyaf cyffredin yng Nghymru yw capeli Anghydffurfiol, sef yr adeiladau hynny a godwyd gan gynulleidfaoedd Ymneilltuol o 1689 ymlaen ar ôl pasio’r Ddeddf Goddefgarwch. Capeli yw un o’r mathau o adeilad sy’n fwyaf nodweddiadol o Gymru, i’w cael ym mhob tirwedd drefol a gwledig. Maent hwy hefyd yn un o’r mathau o adeilad sy’n fwyaf tebygol o gau wrth i gynulleidfaoedd grebachu. Bu gan y Comisiwn Brenhinol ran flaenllaw yn y gwaith o gofnodi a dadansoddi’r adeiladau hyn, ac egluro eu pwysigrwydd diwylliannol, cymdeithasol a phensaernïol o ran llunio Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a Chymru fodern. Mae cronfa ddata wedi’i chreu sy’n cynnwys mwy na 6440 o safleoedd, a chasglwyd miloedd o ffotograffau, cynlluniau, lluniadau ac eitemau archifol hanesyddol. O’r herwydd mae gennym ddealltwriaeth arbennig o dda o’r adeiladau eu hunain – sut y caent eu cynllunio a’u dylunio – ac o’u penseiri a’u cynulleidfaoedd. Mae ein gwaith wedi gwrthbrofi’r ddamcaniaeth bod ‘pob capel yn edrych yr un fath’ ac wedi tynnu sylw at yr amrywiaeth ryfeddol sydd i’w chael, o’r adeiladau cynnar syml fel Maes-yr-onnen a Chapel Newydd, Nanhoron i linellau llyfn Y Drindod ac Ebeneser a adeiladwyd yn y cyfnod modern cynnar mewn bric a gwydr, o glasuriaeth osgeiddig Peniel a Crane Street o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wynebau hynod addurnol capeli’r trefi diwydiannol llewyrchus a godwyd yn rhan olaf y ganrif honno, er enghraifft, y Tabernaclau yn Llanelli a Threforys.

Capel Newydd: DS2007_227_002

Capel Newydd: DS2007_227_002

 

Y Drindod, Sgeti: DS2017_002_019

Y Drindod, Sgeti: DS2017_002_019

 

Crane Street, Capel y Bedyddwyr: 980300/01

Crane Street, Capel y Bedyddwyr: 980300/01

 

Tabernacl, Capel yr Annibynwyr: C2004/220/2

Tabernacl, Capel yr Annibynwyr: C2004/220/2

 

Wrth i lawer o’r adeiladau hyn gau yn sgil gostyngiad yn nifer yr aelodau, mae rhai’n cael bywyd newydd gyda chrefyddau eraill. Mae cynulleidfaoedd Sîc, Bwdaidd, Moslemaidd, Catholig, Coptig ac Uniongred Dwyreiniol wedi addasu’r adeiladau hyn at eu defnydd eu hunain ar hyd a lled Cymru, ac wedi codi nifer bach o addoldai pwrpasol hefyd. Mae’r mosg pwrpasol cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru, sef Mosg Peel Street yng Nghaerdydd ym 1947, wedi’i ddymchwel yn anffodus, ond dengys ffotograffau hanesyddol fod ganddo bensaernïaeth Islamaidd draddodiadol megis crymdo a minaretau sydd wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus mewn cynlluniau modern, fel y mae ffotograff y Comisiwn o Ganolfan Islamaidd De Cymru, Caerdydd yn ei ddangos.

Canolfan Islamaidd De Cymru: COI/TR65272

Canolfan Islamaidd De Cymru: COI/TR65272

 

Synagog Merthyr Tudful: DS2007_190_002

Synagog Merthyr Tudful: DS2007_190_002

 

Yn yr un modd, mae Iddewiaeth wedi cyfrannu at dirwedd grefyddol fodern Cymru. Cafodd synagog Merthyr Tudful gynt, y tynnwyd lluniau ohoni’n ddiweddar gan y Comisiwn Brenhinol, ei hadeiladu gan gynulleidfa lewyrchus ym 1872 i gymryd lle adeilad cynharach o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r hanesydd pensaernïol Sharman Kadish wedi’i disgrifio’n ‘ffoli gothig’ ac mae’n honni mai hon yw un o’r synagogau pwysicaf yn y Deyrnas Unedig o ran ei phensaernïaeth. Efallai mai ei nodwedd fwyaf arbennig ac unigryw yw’r ddraig Gymreig sy’n eistedd yn falch ar ei thalcen!

Mae addoldai’n parhau’n ganolbwynt i waith y Comisiwn Brenhinol, sydd ar hyn o bryd yn cynnal neu’n cynllunio prosiectau ar gapeli Anghydffurfiol, eglwysi Catholig ac adeiladau ffydd yr ugeinfed ganrif. Byddwn yn parhau i roi sylw arbennig i’r adeiladau ffydd hynny sydd mewn perygl o gael eu dymchwel neu eu datblygu, y rheiny sydd wedi’u tan-gynrychioli yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a hefyd y rheiny lle y mae angen i ni gynyddu ein gwybodaeth a gwneud mwy o waith dehongli, fel y gallwn lwyr werthfawrogi a deall yr adeiladau hyn a’r cymunedau a fu’n eu defnyddio, ac i gynorthwyo gwaith cadwraeth a rheoli yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn goroesi yn y tymor hir.

Twitter: #Interfaithweek2017

 

16/11/2017

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x