CBHC / RCAHMW > Newyddion > Cofnodi Synagog Olaf Cymoedd De Cymru

Cofnodi Synagog Olaf Cymoedd De Cymru

Ffasâd y Synagog. Hawlfraint y Goron CBHC 2021

Mae’r synagog hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru bellach wedi’i chofnodi i’r dyfodol o ganlyniad i waith a gomisiynwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) mewn partneriaeth â’r Sefydliad Treftadaeth Iddewig.

Roedd y gwaith a wnaed ar Synagog Merthyr Tudful yn Ne Cymru, sy’n adeilad Rhestredig Gradd II, yn gam cyntaf mewn prosiect tymor-hir wedi’i arwain gan y Sefydliad Treftadaeth Iddewig i adfer y safle a chreu Canolfan Treftadaeth Iddewig i Gymru. Ar ôl i’r sefydliad gynnal arolwg yn 2017, dynodwyd yr adeilad unigryw hwn yn un o’r 16 synagog sydd fwyaf mewn perygl yn Ewrop.

Data sgan laser o’r tu mewn gan Wessex Archaeology. Hawlfraint y Goron CBHC 2021

Comisiynwyd Wessex Archaeology i ymgymryd â sgan laser cynhwysfawr o’r tu allan a’r tu mewn. Mae’r dechnoleg hon yn defnyddio laserau i wneud mesuriadau 3D, yn gywir i’r milimetr, o bob rhan o arwyneb adeilad a’i amgylchoedd.

Defnyddiwyd y data hwn i gynhyrchu cynlluniau a golygon o’r adeilad, ac fe’i rhoddir yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru CBHC fel cofnod parhaol o’r synagog. Gellir defnyddio’r data hefyd yn sylfaen ar gyfer modelu 3D ac mae cynlluniau ar y gweill i ail-greu’r synagog yn rhithiol i ddangos sut yr oedd yn edrych cyn cau ym 1983.

Mae’r adeilad ar y tu allan yn Gothig o ran ei arddull ac, fel y cyfryw, mae’n wahanol i synagogau eraill a godwyd yn y DU sy’n Ddwyreiniol neu’n Fysantaidd eu harddull gan mwyaf. Un nodwedd unigryw yw’r ddraig Gymreig sy’n eistedd yn falch ar dalcen y fynedfa. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio’n Ganolfan Gristnogol ac yna’n gampfa am gyfnod cyn mynd yn wag am rai blynyddoedd. Fe’i prynwyd gan y Sefydliad Treftadaeth Iddewig yn 2019.

Dywedodd Michael Mail, Prif Weithredwr y Sefydliad Treftadaeth Iddewig:

“Pleser mawr yw gweithio gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Wessex Archaeology i ddefnyddio’r technolegau diweddaraf i gofnodi synagog arbennig Merthyr Tudful a darparu adnodd a fydd o gymorth yn y man i gyflwyno hanes yr adeilad.”

Meddai Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd Adeiladau Hanesyddol, CBHC:

“Synagog Merthyr Tudful, a agorodd ym 1877, yw un o’r adeiladau ffydd pwysicaf yng Nghymru o ran ei hanes a’i phensaernïaeth. Mae mewn perygl ers blynyddoedd lawer, felly rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda’r Sefydliad Treftadaeth Iddewig a Wessex Archaeology ar yr arolwg yma sy’n gam cyffrous ar y daith i roi bywyd newydd i’r adeilad ac adrodd stori treftadaeth gyfoethog cymunedau Iddewig Cymru.”

Dywedodd Chris Brayne, Prif Weithredwr Wessex Archaeology:

“Roedd yn bleser o’r mwyaf gennym allu defnyddio ein technoleg i wella dealltwriaeth o’r agwedd unigryw hon ar hanes Iddewig a Chymreig. Oherwydd manwl gywirdeb y dechneg laser-sganio, gallwn ddiogelu’r adeilad yn ddigidol yn ei gyflwr presennol fel cofnod i’r cenedlaethau a ddaw a manteisio ar y cyfle i ail-greu sut y byddai wedi edrych yn ei oes aur. Mae’n cynnig posibiliadau cyffrous iawn ar gyfer ennyn diddordeb pobl yn y lle rhyfeddol hwn.”

Nod Y Sefydliad Treftadaeth Iddewig yw gweithio’n rhyngwladol i ddiogelu treftadaeth Iddewig.

Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) rôl genedlaethol arweiniol o ran meithrin a hybu dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru.

Sefydliad blaenllaw ym maes treftadaeth ac archaeoleg, ac elusen addysgol, yw Wessex Archaeology. Bydd yn gweithio mewn partneriaeth â’i gleientiaid i ddatblygu atebion cynaliadwy ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn effeithiol, gan sicrhau canlyniadau cynllunio llwyddiannus, ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid, a chynyddu gwerth asedau hanesyddol cenedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Michael Mail sym: 07968 529609 e: michalemail@foundationfoirjewishheritage.com

Susan Fielding ff: 01970 621219 e: susan.fielding@rcahmw.gov.uk

07/05/2021

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x