CBHC / RCAHMW > Newyddion > Cofnodi’r Eglwys Norwyaidd, Caerdydd

Cofnodi’r Eglwys Norwyaidd, Caerdydd

Mae’r Eglwys Norwyaidd (NPRN: 9321) yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Bae Caerdydd ac oherwydd ei bwysigrwydd mae wedi cael ei gofnodi’n ddigidol yn ddiweddar gan ei tîm archwilio ar gyfer cenedlaethau y dyfodol. Yn wreiddiol, lleolwyd yr Eglwys Norwyaidd, ym Mhorthladd Gorllewinol, Bae Caerdydd, ac adeiladwyd ef yn 1868 gan Sjømannskirken: Yr Eglwys Norwyaidd Dramor fel eu Sjømannsmisjonen (Cenhadaeth y Morwyr) pwrpasol cyntaf.  Ar y pryd roedd y fflyd fasnachol Norwyaidd ymhlith y mwyaf yn y byd, ac roedd Caerdydd, ynghyd â Lerpwl a Llundain, ymhlith prif borthladdoedd Prydain.  Adeiladwyd yr eglwys felly gan y Gweinidog Carl Herman i wasanaethu gofynion crefyddol a chymdeithasol y morwyr Norwyaidd tra oeddent yn y porthladd ac fe ddaeth yn ganolfan bwysig i weithgareddau’r gymuned Norwyaidd yn y ddinas.

Delwedd o’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd heddiw

Gwnaed yr eglwys allan o ffrâm bren a gludwyd o Norwy, a chafodd ei orchuddio’n wreiddiol mewn haearn rhychog ar gais Awdurdodau Harbwr Caerdydd, fel y byddai’n medru cael ei symud petai angen.  Roedd y cynllun syml yn golygu bod yr adeilad yn hyblyg, a gwnaed  nifer o ychwanegiadau iddo rhwng 1883 ac 1894, gan gynnwys ystafell ddarllen.  Erbyn 1915, roedd yr eglwys fach, syml, Gothig ei harddull yn croesawu tua 73,500 o forwyr y flwyddyn.  Roedd cysylltiadau cryf rhwng porthladdoedd Cymru a Norwy, gyda llawer o forwyr Norwyaidd yn ymgartrefu yng Nghymru, ac yn eu plith roedd tad yr awdur, Roald Dahl.

Ar ôl y rhyfel, wrth i lo Cymru ac felly hefyd y presenoldeb Norwyaidd leihau yng Nghaerdydd, trosglwyddwyd yr eglwys i ofal yr Eglwys Lutheraidd.  Caeodd yn 1974 gan ei adael i ddirywio.  Yn 1987 awgrymodd  Corfforaeth Datblygiad Bae Caerdydd y dylai’r adeilad cael ei ddymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer ffordd newydd ond ysgogodd hyn sefydlu Ymddiriedolaeth Cadw’r Eglwys Norwyaidd.  Y Llywydd cyntaf oedd Roald Dahl.  O ganlyniad ail-leolwyd yr eglwys i’w safle presennol ym Mhorthladd Dwyreiniol, Bae Caerdydd, ble awgrymodd y perchennog tir ei fod yn cael ei ail-orchuddio mewn pren.  Darparwyd y pren ar gyfer ei orchuddio ac ar gyfer darnau newydd i’r ffrâm bren, gan Norwy.  Ail-agorwyd yr eglwys yn swyddogol ar 8 Ebrill, 1992 gan y Dywysoges Märtha Louise o Norwy, ac mae bellach yn gweithredu fel canolfan gelfyddau sydd yn cynnal  digwyddiadau diwylliannol. 

Yn 2022, cychwynnwyd ar gam cyntaf Prosiect Treftadaeth yr Eglwys Norwyaidd, wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, i goladu gwybodaeth am yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd a chenadaethau morwyr eraill ar draws de Cymru yng Nghasnewydd ac Abertawe.  Yn 2023 ymgymerwyd gyda’r ail gam a dechreuwyd ar waith ymchwil a rhaglen estyn allan a oedd yn hyrwyddo hanes a threftadaeth y gymuned Norwyaidd yng Nghymru.

Delwedd o’r awyr o’r Eglwys Norwyaidd a gymerwyd gan Dîm Archwilio CBHC

Fel rhan o’r prosiect yma, cynhaliwyd gwaith archwilio manwl, newydd gan Gofnod Cenedlaethol Henebion Cymru, i sicrhau cadwraeth ddigidol oddi fewn Cofnodion Cenedlaethol henebion Cymru, ac i ddarparu sylfaen ar gyfer adnoddau digidol addysgiadol ac estyn allan yn y dyfodol. Yn sgil gwaith ein tîm arolwg mewn sganio laser fedrwch nawr weld ein delweddau hedfan drwy’r eglwys drwy gyfrwng ein sianel YouTube https://www.youtube.com/watch?v=PmEoo1ytmCE. Ar Sketchfab fedrwch weld model manwl o olwg allanol yr eglwys a grëwyd gan ein gwaith ffotogrametreg UAV: https://sketchfab.com/3d-models/eglwys-norwyaidd-norwegian-church-nprn-9321-51135848fd47446cae60dd36f05a6553  Mae’r tîm hefyd wedi cynnal archwiliad ffotograffig manwl, newydd, a fydd ar gael ar Coflein yn fuan.

Susan Fielding  Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) 

Bethan Hopkins-Williams Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd

18/06/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x