
Cofrestrwch Eich Lle yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017 Nawr…
Mae’r rhaglen o siaradwyr ar gyfer Gorffennol Digidol bron yn gyflawn!
Ewch i dudalen siaradwyr y Gynhadledd i weld yr amrywiaeth wych o siaradwyr. Mae eu harbenigedd yn amrywio o fethodoleg arolygu digidol uwchdechnolegol i’r offer ymgysylltu diweddaraf, ac yn ymestyn i gymhlethdodau data agored a rheoli data.
Gallwch gofrestru ar gyfer y ddau ddiwrnod am £89 yn unig, ac mae hyn yn cynnwys cinio a lluniaeth. Gan fod nifer cyfyngedig o leoedd, bwciwch yn awr i sicrhau eich lle.
Mae’r stondinau’n gwerthu’n gyflym, felly os hoffech arddangos eich prosiect, gwasanaethau neu gynhyrchion i’n hamrywiaeth eang o gynadleddwyr, ewch i’n tudalen arddangosfeydd i gael manylion y cyfleusterau ac i archebu’ch stondin chi.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
01/04/2017