CBHC / RCAHMW > Newyddion > Comisiwn Brenhinol Archif Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Ionawr 2024
Copi digidol o drawslun dyfrlliw sy’n ail-greu tŷ crwn Din Llugwy ar Ynys Môn, a grëwyd gan Brian Byron ar gyfer Menter Môn. ©Menter Môn 2005. Cyf DD2024_002_04. Mae’r llun yn darlunio bywyd yn y tŷ crwn yn ystod yr Oes Haearn.

Comisiwn Brenhinol Archif Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Ionawr 2024

Croeso i’r rhifyn misol diweddaraf o Fwletin Archifau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n rhestru’r holl ddeunydd sydd newydd gael ei gatalogio. Mae eitemau’r archifau, llyfrau’r llyfrgell a’r erthyglau sydd mewn cyfnodolion i gyd ar gael i’w gweld yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Mae catalog llawn yr archifau ar gael ar coflein.gov.uk. ac mae’n cynnwys copïau digidol o lawer o’r eitemau a restrir. Mae’r cyhoeddiadau i gyd i’w gweld yng Nghatalog y Llyfrgell, sydd ar-lein.

Oriau agor ein Llyfrgell a’n hystafell ddarllen:

Rydym ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau o 9:30 tan 16:00 ac ar ddydd Mercher o 10:30 tan 16:30.

Byddem yn eich cynghori i drefnu apwyntiad.

Archif

Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:

Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld yn ein catalog ar-lein Coflein.

Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:

Ffotograffau digidol sy’n dangos ffermdy Llawrcwmbach a’i gynnwys, a dynnwyd gan aelodau o Banel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion (y CHIPs) yn rhan o brosiect Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig 2018-2022. Bu’r prosiect yn cofnodi’r eitemau a oedd wedi’u gadael yn adfeilion y ffermdy a’r tai allan yng Ngheredigion, a oedd yn dwyn y gorffennol i gof, gan ddarparu cofnod ffotograffig ohonynt cyn i’r adeiladau gael eu hadnewyddu.

Carnedd gron Bryn Cader Faner. Awyrlun lletraws a dynnwyd gan Toby Driver ar 25 Mawrth 2022 yn ystod rhaglen y Comisiwn Brenhinol o waith casglu gwybodaeth archaeolegol o’r awyr. Cyf AP2023_319_002
Carnedd gron Bryn Cader Faner. Awyrlun lletraws a dynnwyd gan Toby Driver ar 25 Mawrth 2022 yn ystod rhaglen y Comisiwn Brenhinol o waith casglu gwybodaeth archaeolegol o’r awyr. Cyf AP2023_319_002

Mae cylch Carnedd Bryn Cader Faner, Talsarnau yn heneb gladdu gynhanesyddol eiconig â ‘choron’ o feini unionsyth, sy’n sefyll mewn man amlwg iawn ar fryniau Meirionnydd. Mae’r canol, a oedd yn cynnwys cist, wedi’i ysbeilio gan rai a oedd yn chwilio am drysor. Cafodd y safle ei ddifrodi gan y fyddin yn ystod ymarferion yn 1939. Fe’i cofnodwyd yn 2023 yn rhan o raglen y Comisiwn Brenhinol o waith casglu gwybodaeth archaeolegol o’r awyr yng nghyswllt Henebion Cofrestredig.

Copi digidol o drawslun dyfrlliw sy’n ail-greu tŷ crwn Din Llugwy ar Ynys Môn, a grëwyd gan Brian Byron ar gyfer Menter Môn. ©Menter Môn 2005. Cyf DD2024_002_04. Mae’r llun yn darlunio bywyd yn y tŷ crwn yn ystod yr Oes Haearn.
Copi digidol o drawslun dyfrlliw sy’n ail-greu tŷ crwn Din Llugwy ar Ynys Môn, a grëwyd gan Brian Byron ar gyfer Menter Môn. ©Menter Môn 2005. Cyf DD2024_002_04. Mae’r llun yn darlunio bywyd yn y tŷ crwn yn ystod yr Oes Haearn.

Mae Din Llugwy yn fath o anheddiad caerog cynhanesyddol mwy diweddar sy’n sefyll ar gopa llwyfandir calchfaen, yn agos i’w ymyl gogleddol serth. Cafodd yr adeiladau mewnol eu clirio o 1905 ymlaen pan gafodd cryn dipyn o ddeunydd Rhufeinig ei adfer o’r safle, a oedd yn dyddio’n bennaf o ddiwedd y drydedd ganrif AD i mewn i’r bedwaredd ganrif AD. Mae’r olion wedi’u hatgyfnerthu er mwyn eu harddangos i’r cyhoedd.

Copi digidol o Gynllun o Fferm Maes Machra ym mhlwyf Cemaes yn Sir Drefaldwyn, a oedd yn eiddo i Mrs Ormsby Gore, gan George Owen, Peiriannydd a Thirfesurydd, dyddiedig 1857. Map a dynnwyd â llaw, gydag allwedd i enwau’r caeau. Cyf RC06

Tŷ ffrâm bren oedd Maes Machreth yn wreiddiol, ond mae bellach wedi’i orchuddio â cherrig. Cafodd ysgubor gyfagos ac ynddi garreg gyda’r flwyddyn 1745 wedi’i nodi arni ei dymchwel tua 1972.

Bwrw golwg yn ôl

Bob mis, byddwn yn dangos llun(iau) cynharach sy’n gysylltiedig ag un o’r safleoedd uchod, a dynnwyd o’n harchif. Mae’r llun isod yn gopi digidol o negatif nitrad sy’n dangos Carnedd Bryn Cader Faner tua 1950. Cyf: CMC_PA_722_01, o Gasgliad Cadw o Henebion mewn Gofal Cylch Carnedd Bryn Cader Faner, Talsarnau | Coflein

Carnedd Bryn Cader Faner tua 1950.
Carnedd Bryn Cader Faner tua 1950.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BUFfôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English

18/03/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x