
Comisiwn Brenhinol Archif Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Mai 2023
Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.
Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
Archif
Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:
- Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol
- HAP043 – Archif Prosiectau Headland Archaeology
- Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr
- ERC – Casgliad Cofnodi Brys
- Arolwg Sganio’r Ddaear â Laser yr Ymchwilwyr
- Ffotograffau’r Ymchwilwyr
- Arolwg Cerbydau Awyr Di-griw yr Ymchwilwyr
Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.
Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:


Mae’r Dymock Arms ym mhentref Llannerch Banna wrth ymyl ffordd yr A539 rhwng Rhiwabon a Whitchurch. Yn wreiddiol roedd yr adeilad, sydd wedi newid gryn dipyn erbyn hyn, yn ffermdy ffrâm goed a oedd yn dyddio’n ôl i oddeutu 1600. Erbyn hyn waliau wedi’u rendro, o frics yn bennaf, sydd gan yr adeilad. Dywedir bod y dafarn wedi’i henwi ar ôl y teulu Dymock a oedd yn dirfeddianwyr lleol.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/35796/

Caiff gwŷr y plwyf a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr eu coffáu ar y Gofgolofn Ryfel sydd wrth ymyl y ffordd fawr yn y pentref, ar ochr ddeheuol yr A475. Mae’n debyg bod y gofgolofn, sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 1922, wedi’i gwneud gan E. Jones o Lanybydder. Cerflun o farmor gwyn ydyw o filwr wedi ymlacio, gyda’i reiffl wrth ei ochr dde a’i goes chwith yn pwyso ychydig oddi ar y llawr ar ganon.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/419534/

Ysgol ffrâm goed yw Ysgol Abersoch, a agorodd ei drysau ar 21 Ionawr 1924 ar gyfer 23 o blant, yn dilyn ymgyrch i ddarparu ysgol i blant y pentref. Cyn i Ysgol Abersoch gael ei hadeiladu, roedd yn rhaid i blant gerdded i Sarn Bach i gael eu haddysg. Caeodd yr ysgol ym mis Rhagfyr 2021/Ionawr 2022, a symudodd y disgyblion i Ysgol Sarn Bach.
Gallwch weld fideo yma, sy’n eich tywys o gwmpas yr adeilad ac sy’n seiliedig ar y cwmwl pwyntiau cofrestredig yn dilyn yr arolwg.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/800031/

Mae Odynau Calch Solfach yn grŵp o bedair odyn galch sydd wedi’u hatgyfnerthu yn ddiweddar ac sydd wrth ymyl marc y penllanw yn harbwr Solfach.
Mae odynau calch yn nodwedd arferol ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Maent yn dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif yn bennaf, er bod rhai wedi’u hadeiladu cyn hynny, ac roedd rhai ohonynt yn dal i gael eu defnyddio yn yr 20fed ganrif. Eu diben oedd llosgi calchfaen er mwyn cynhyrchu calch i’w ddefnyddio yn y diwydiant amaeth a’r diwydiant adeiladu. Yn y diwydiant amaeth byddai’r calch yn cael ei wasgaru ar y caeau fel gwrtaith ac er mwyn gwneud y pridd yn llai asidig, ac yn y diwydiant adeiladu byddai’n cael ei ddefnyddio i wneud morter calch.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/40731/

Mae llongddrylliad yr ALTMARK i’w weld tuag at ben draw gogleddol Traeth Cynffig. Mae’r llongddrylliad wedi’i gladdu yn dda ar adegau ac yn amlwg iawn bryd arall, yn dibynnu ar lefelau’r tywod ar y traeth ar y pryd. Pan fydd y llongddrylliad yn amlwg mae llawer o ran isaf corff y llong i’w weld, ond mae wedi’i orchuddio â’r balast concrit a gâi ei arllwys yn aml i mewn i waelod llongau pren o’r math hwn a gâi eu hadeiladu tua’r adeg honno.
Cafodd llong yr ALTMARK ei hadeiladu ar gyfer y Morlys yn 1945. Ar ôl gorffen gwasanaethu, cafodd ei gwerthu yn 1959 a daeth yn eiddo i Sinclairs yn Aberdaugleddau cyn cael ei throsglwyddo i ddwylo R W Downs. Roedd yr ALTMARK ar daith fer o Lansawel i’r Barri gydag un dyn yn unig, sef y sgiper, ar ei bwrdd ar 12 Gorffennaf 1961. Methodd yr injan ac nid oedd criw ar gael i helpu. Drifftiodd y llong a chafodd ei gyrru ar y traeth gan wyntoedd o’r de-orllewin. Roedd Bad Achub y Mwmbwls wrth law a chafodd y sgiper ei achub gan wyliwr y glannau. Cafodd y llong ei gadael ar y traeth.
Ymwelodd CBHC â’r safle ar 19 Ebrill 2023 i gadarnhau lleoliad y llongddrylliad, a chafodd y safle ei gofnodi ag arolwg ffotogrametreg.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/240688/
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BUFfôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk
Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English
30/06/2023