Comisiwn Brenhinol Archif Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Mehefin 2023

Croeso i’r rhifyn misol diweddaraf o Fwletin Archifau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n rhestru’r holl ddeunydd sydd newydd gael ei gatalogio. Mae eitemau’r archifau, llyfrau’r llyfrgell a’r erthyglau sydd mewn cyfnodolion i gyd ar gael i’w gweld yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Mae catalog llawn yr archifau ar gael ar coflein.gov.uk. ac mae’n cynnwys copïau digidol o lawer o’r eitemau a restrir. Mae’r cyhoeddiadau i gyd i’w gweld yng Nghatalog y Llyfrgell, sydd ar-lein.

Rydym ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau o 9:30 tan 16:00 ac ar ddydd Mercher o 10:30 tan 16:30.

Byddem yn eich cynghori i drefnu apwyntiad.

Archif

Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:

Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.

Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:

Ffotograff digidol o safle barddol y Garreg Siglo, Pentre Bach, Pontypridd, a dynnwyd ac a roddwyd gan Paul Davis yn 2020. Cyfeirnod: PRD_08_147_001.

Cafodd y grŵp cyntaf, mwyaf mewnol o ddeuddeg o gerrig eu codi yn oddeutu 1795 gan Edward Williams, a gâi ei alw hefyd yn Iolo Morgannwg, ac mae’n fwy na thebyg eu bod yn efelychu carnedd gylchog gynhanesyddol gerllaw. Roedd y Garreg Siglo yn y canol yn ganolbwynt seremonïau barddol.

Gallwch ddarllen mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/275888/

Copi digidol o gynllun wedi’i argraffu, sy’n dangos ‘Pen Dinas N[orth] Gate of S[outh] Fort and Isthmus Gate’. Cafodd ei lunio’n rhan o brosiect cloddio ym Mhen Dinas, Aberystwyth yn y 1930au. Cyfeirnod: PDEC_02_04 – Casgliad Cloddio Pen Dinas.

Mae Pendinas, y fryngaer fwyaf o’r Oes Haearn yng Ngheredigion, i’w gweld yn glir o fannau sydd filltiroedd lawer i ffwrdd. Cafodd y fryngaer ei choroni yn y 19eg ganrif gan y Gofgolofn i Wellington (NPRN 32637). Bu gwaith cloddio gan C Daryll Forde rhwng 1933 a 1937 yn ymchwilio i rannau o’r gaer, a chafodd pedwar prif gam datblygu eu sefydlu. Gallwch ddarllen mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/92236/

Delwedd gan Brosiect CHERISH o’r tŷ crwn Romano-Brydeinig a gloddiwyd ac ailgrëwyd yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd. Y gwaith celf gan Wessex Archaeology. Cyfeirnod: CH2022_067_003.

‘Mae’r delweddau hyn ymhlith y rhai mwyaf byw sydd gennym yng Nghymru o fywyd yn y cyfnod cynhanesyddol a’r oes Rufeinig. Maent yn tanio’r dychymyg a byddant yn helpu pobl Cymru i ddychmygu sut fywyd oedd gan bobl wrth ymyl yr arfordir 2000 o flynyddoedd yn ôl. Dr Toby Driver, CBHC.

Mae animeiddiad newydd, sy’n adrodd hanes hinsawdd y pentref arfordirol hwn yng Ngwynedd o Oes yr Iâ i’r Ail Ryfel Byd, i’w weld ar wefan Prosiect CHERISH yma: https://cherishproject.eu/cy/project-news/news/turning-back-time-at-dinas-dinlle/

Gallwch ddarllen mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/95309/

Ffotograff sy’n dangos tu blaen allanol Capel Salem, Porthmadog.
Ffotograff sy’n dangos tu blaen allanol Capel Salem, organ.

Ffotograffau sy’n dangos tu blaen allanol Capel Salem, Porthmadog a’r organ. Maent yn rhan o gofnod ffotograffig o’r capel, a gafwyd yn sgil amod caniatâd cynllunio. Cyfeirnodau: ERC2023_008_006 ac ERC2023_008_021

Cafodd Capel yr Annibynwyr Salem yn y Stryd Fawr, Porthmadog ei adeiladu’n wreiddiol yn 1827, ei ehangu yn 1841 a’i ailadeiladu yn 1860. Mae gan y capel presennol, sy’n dyddio’n ôl i 1860, enghraifft wych (a chynnar) o fwa enfawr sy’n torri drwy bediment y talcen – sef un o nodweddion gwaith Thomas Thomas, Glandŵr, y pensaer capeli o bwys.

Gallwch ddarllen mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/11914/

Ffotograff sy’n dangos y cerflun o Cranogwen (Sarah Jane Rees) yng Ngardd Gymunedol Llangrannog, a dynnwyd ym mis Mehefin 2023 yn ystod y seremoni i’w ddadorchuddio. Cyfeirnod: DS2023_443_005.

Cafodd y cerflun ffiguraidd o Cranogwen (Sarah Jane Rees, 1839-1916), sydd o faint person naturiol, gan y cerflunydd Sebastien Boyesen ei ddadorchuddio yng Ngardd Gymunedol Llangrannog ar 10 Mehefin 2023. Dyma’r trydydd o’r pum cerflun arfaethedig o fenywod o Gymru a fydd yn cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus gan y grŵp Welsh Monumental Women. Mae’r cerfluniau yn clodfori cyfraniad menywod a enwir i wella bywyd cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gallwch ddarllen mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/800107/

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BUFfôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English

28/07/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x