Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Awst 2022

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.

Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Archif

Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:

Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.

Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:

Ffotograff o arolwg o longddrylliad stemar olwyn yr ALBION sy’n gorwedd wedi’i guddio’n rhannol ar Draeth Albion, Sir Benfro. Tynnwyd y ffotograff gan Hannah Genders Boyd. Mae’r llongddrylliad wedi cael ei fonitro’n rheolaidd gan y Comisiwn ers 2017 yn rhan o brosiect CHERISH.

Ffotograff o’r awyr, sy’n dangos golygfa o’r argae yng Nghronfa Ddŵr Llys y Fran, Sir Benfro yn ystod sychder. Tynnwyd y ffotograff yn ystod rhaglen y Comisiwn Brenhinol o archwiliadau archaeolegol o’r awyr, a gyflawnwyd gan Toby Driver ar 19 Awst 2022.

Ffotograff lliw digidol o arolwg o bedwar cysgodfan promenâd sydd wedi goroesi rhwng Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn. Roedd y cysgodfannau, sydd mewn arddull modernaidd ac a adeiladwyd tua 1969, yn rhan o’r optimistiaeth a welwyd wedi’r rhyfel, gyda gwyliau glan môr yn dychwelyd a’r gwariant cysylltiedig ar ddiweddaru cyfleusterau mewn cyrchfannau megis Llandrillo a Bae Colwyn.

Delwedd ddigidol o arolwg gan Gerbyd Awyr Di-griw o Fedd Dobby, yn edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar draws traeth Freshwater West. Mae’r garnedd isel, a godwyd o gerrig crwn o’r traeth, yn coffáu cymeriad ffuglennol ‘Dobby’, y coblyn y cafodd ei farwolaeth a’i gladdedigaeth eu ffilmio yn Freshwater West ar gyfer ‘Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1’. Mae llawer o’r bobl sy’n ymweld â’r garnedd yn ei hystyried yn fan i fyfyrio’n dawel.

Llyfrau

Mae ein llyfrau a’n cyfnodolion i gyd wedi’u cofnodi ar Gatalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol ac mae modd eu gweld yn ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio.

  • How, Chris. 2022. Historic French Nails, Screws and Fixings: Tools and Techniques. England: Tools and Trades History Society.
  • Lewis, David. 2022. The Rhys, Rice and Dinefwr families of Dinefwr Castle and Newton House. Carmarthenshire: T R Lewis.
  • Stifter, David. 2022. Ogam: language, writing, epigaraphy. Zaragoza: Prensas Universitarias de Zaragoza.

Cyfnodolion

  • The Antiquaries Journal Cyfrol 101 (2021).
  • Antiquity Cyfrol 96 (Rhifau 385-388, Chwefror – Awst 2022).
  • Architects’ Journal Cyfrolau 249 (Rhan 07, 14/07/2022 a Rhan 08, 25/08/2022).
  • Architects’ Journal Specification Cyfrolau Gorffennaf (2022) ac Awst (2022).
  • Archive: The Quarterly Journal for British Industrial and Transport History Cyfrol 115 (Medi 2022).
  • British Archaeology Cyfrol 186 (Medi/Hydref 2022).
  • C20 Cyfrol 1 (2022).
  • Chapels Society Newsletter Cyfrol 81 (Awst 2022).
  • Domestic Buildings Research Group News Cyfrol151 (Mehefin 2022).
  • Essex Historic Buildings Group Newsletter Cyfrol 6 (Medi 2022).
  • Heritage Now: The Magazine of Historic Buildings & Places Cyfrol 2 (Haf 2022).
  • Historic Churches Cyfrol 29 (2022).
  • Maplines: The Magazine of The British Cartographic Society (Haf 2022).
  • Past: The Newsletter of the Prehistoric Society Cyfrol 101 (Haf 2022).
  • Railway and Canal Historical Society Bulletin Cyfrol 498 (Gorffennaf 2022).
  • Railway and Canal Historical Society Journal Cyfrol 244 (Gorffennaf 2022).
  • The Railway Magazine Cyfrolau 1426 Ionawr – 1437 Rhagfyr (2020).
  • Sheetlines Cyfrol 124 (Haf 2022).
  • Talyllyn News Cyfrolau 265 Mawrth – 274 Mehefin.
  • Tijdschrift van de Rijksdienst voor het Cultureel Erfgoed Cyfrol 3 (2022).
  • Tools and Trades Cyfrol 152 (Haf 2022).
  • Vernacular Architecture Group Newsletter Cyfrol 83 (Gorffennaf 2022).
  • The Welsh History Review – Cylchgrawn Hanes Cymru Cyfrol 31 (Mehefin 2022).
  • Welsh Mills Society Newsletter Cyfrol 148 (Gorffennaf 2022).
  • Welsh Railways Archive Cyfrol VII, Rhif 5 (Mai 2022).
  • Welsh Railways Research Circle Newsletter Cyfrol 170 (Haf 2022).

Cylchgronau: gwasanaeth ymwybyddiaeth gyfredol

  • C20 Cyfrol 1 (2022) t. 14 C20 Cymru chair Susan Fielding charts a year of Welsh heritage campaigns; In brief News from Wales; t. 44 Senedd building needs listing.
  • Past: the newsletter of the Prehistoric Society Cyfrol 100 (Gwanwyn 2022) t.14-15, Examining Neolithic mortuary treatment in caves: Ogof Colomendy, North Wales, Eirini Konstantinidi.
  • Railway & Canal Historical Society Journal Cyfrol 40 (Rhan 8, Rhif 244, Gorffennaf 2022), t.461, Before the railways: the early steamers of Cardiganshire, M R Cannop Price.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU

Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English

09/21/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x