Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Chwefror 2022

Gerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd
DD2021_005 – Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol – lluniau o gerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Archifau

Newyddion o’r Archif: Gan nad oeddem yn gallu cyrchu ein harchifau papur yn ystod y cyfnodau clo a chan ein bod ni’n datblygu system gatalogio newydd, ac er bod ein staff arolygu wedi parhau i gofnodi safleoedd a’n bod wedi derbyn rhoddion i’n harchif gan unigolion preifat, contractwyr archaeolegol a chyrff cyhoeddus, nid oeddem yn gallu catalogio’r cofnodion papur a digidol hyn tan yn hwyr y llynedd. Rydym wedi ailddechrau catalogio erbyn hyn a byddwn unwaith eto’n darparu diweddariadau misol ar yr ychwanegiadau diweddaraf at ein casgliadau.

Yn ystod y 3 mis diwethaf, ychwanegwyd 730 o gofnodion newydd at gatalog yr archif a diweddarwyd mwy na 4,000 o gofnodion. Mae 678 o eitemau digidol ychwanegol, gan gynnwys ffotograffau, lluniadau ac adroddiadau, ar gael yn uniongyrchol drwy Coflein. Gellir gweld yr uwchlwythiadau diweddaraf yma: https://rcahmw.ibase.media/en/home

Rhai deunyddiau arbennig sydd bellach wedi’u catalogio ac ar gael ar Coflein:

Archif Cofnodion Adeiladau Hanesyddol Richard Hayman – set o archifau digidol yn ymwneud â gwaith cofnodi adeiladau ar 3 safle hanesyddol gan Richard Hayman.

Y terfyniad neu ffinial ar ffurf llew ar yr Automobile Palace, Llandrindod
Y terfyniad neu ffinial ar ffurf llew ar yr Automobile Palace, Llandrindod. Cynhyrchwyd fel rhan o’r Cofnod Adeilad Hanesyddol ar gyfer yr Automobile Palace, Llandrindod gan Richard Hayman, Mehefin 2021.
Mae angen gwneud gwaith cadwraethol ar y murlun hwn yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan sy’n dangos un o’r saith gweithred drugarog
Y Casgliad Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni – Casgliad o ddelweddau a gynhyrchwyd neu a sganiwyd ar gyfer cyfrol CBHC, ‘Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800′. Mae angen gwneud gwaith cadwraethol ar y murlun hwn yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan sy’n dangos un o’r saith gweithred drugarog – ymweld â charcharorion. Llun CBHC gan Martin Crampin, 30 Ebrill 2021.
Arolwg ffotograffig o garreg fedd John Ystumllyn
DS2021_058 – Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr – Arolwg ffotograffig o garreg fedd John Ystumllyn. Dywedir mai John Ystumllyn, a elwid ar lafar yn Jac Du, oedd y caethwas cyntaf y daethpwyd ag ef i Ogledd Cymru.
Ffotograffau’n ymwneud â Chwarel Lechi Moel Fferna
DD2021_009 – Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol – ffotograffau’n ymwneud â Chwarel Lechi Moel Fferna. Rhoddwyd gan Meirion Roberts ar 3 Tachwedd 2021.
Ffotograffau o gerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd
DD2021_005 – Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol – ffotograffau o gerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd. Cafodd y cerflun pedwar metr o uchder, sy’n coffáu Betty Campbell MBE, prifathrawes groenddu gyntaf Cymru, ei ddadorchudio ar 29 Medi 2021.
Ffotograff yn dangos blaenolwg ac ochrolwg o Gapel Pentŵr, Abergwaun, yn yr eira
DD2021_004 – Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol – ffotograff yn dangos blaenolwg ac ochrolwg o Gapel Pentŵr, Abergwaun, yn yr eira. Llun gan Trevor Alan Thomas, tynnwyd 2 Mawrth 2018.
Mae arolwg ffotograffig o adeiladau’r 20fed ganrif yng Nghwmbrân
Mae arolwg ffotograffig o adeiladau’r 20fed ganrif yng Nghwmbrân bellach wedi’i gatalogio; mae’n cynnwys lluniau o Ganolfan Siopa Cwmbrân: DS2018_226_005 – Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr Tynnwyd y llun hwn o ganopi’r Ganolfan gan Sue Fielding ym mis Tachwedd 2017 ac mae i’w weld yn ‘Cwmbrân New Town: An Urban Characterisation Study’, y gellir ei lawrlwytho am ddim o’n siop yma. Hefyd gallwch wylio sgwrs ddiweddar Sue ar ‘Cwmbrân: “Where the Future is Happening Now!”’ yma.

Llyfrau

Mae ein holl lyfrau a chylchgronau wedi’u cofnodi yng Nghatalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol a gellir eu gweld yn ein Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil.

Cardiff Arms Park An illustrated architectural and social history
  • Allen, David. et al. 2021. Cardiff Arms Park: An illustrated architectural and social history. Llandysul: Gomer.
  • Baptist Union of Wales and Monmouthshire. 1928. Cyfrol goffa a’r rhaglen swyddogol Sion, Llanelli Medi 10-13, 1928. Llanelli: Argraffwyd gan James Davies & Co.
  • Belford, Paul and Bouwmeester, Jeroen (Golygyddion). 2020. Managing archaeology in dynamic urban centres. Leinden: Sidestone Press.
  • Coward, Adam (Gol.). 2020. The correspondence of Thomas Stephens: Revolutionising Welsh scholarship in the mid-nineteenth century through knowledge exchange. Aberystwyth: Celtic Studies Publications.
  • Crossley, Joan. 2021. New life for Capel Bethesda, Aberllefenni: Achieving what seemed impossible. Talybont: Y Lolfa.
  • Davies, John. 2019. The changing fortunes of a British aristocratic family, 1689-1976: the Campbells of Cawdor and their Welsh estates. Woodbridge: The Boydell Press.
The hillforts of Cardigan Bay discovering the Iron Age communities of Ceredigion
  • Driver, Toby. 2021. The hillforts of Cardigan Bay: discovering the Iron Age communities of Ceredigion. Eardisley: Logaston Press.
  • Fairlamb, Neil. 2021. Wales and the Incorporated Church Building Society 1818-1982. Tilford: Neil Fairlamb.
  • Hume, Philip. 2021. The Welsh Marcher Lordships: I: Central and North. Eardisley: Logastone Press.
  • James, H a Driver, T. (Golygyddion). 2021. Illustrating the Past in Wales: A celebration of 175 years of Archaeologia Cambrensis 1846-2021. Caerfyrddin: Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru Cambrian Archaeological Association.
  • Johnson, Paul. 1989. Castles of England, Scotland and Wales. London: Weidenfeld and Nicolson.
Chancel screens since the Reformation Proceedings of the Ecclesiological Society Conference 2019
  • Kirby, Mark (Gol.). 2020. Chancel screens since the Reformation: Proceedings of the Ecclesiological Society Conference 2019. New Malden: Ecclesiological Society.
  • Mayou, Richard. 2021. The Dyfi Estuary: An illustrated history. Wales: The Machynlleth Tabernacle Trust.
  • Roberts, Alice. 2021. A prehistory of Britain in seven burials. London: Simon & Schuster.

Cyfnodolion

  • Archaeologia Cambrensis Cyfrol 170 (2021).
  • British Archaeology Cyfrol 182 (Ionawr/Chwefror 2022).
  • Buildings & landscapes: Journal of the Vernacular Architecture Forum Cyfrol 24 (Rhif 2, Hydref 2021).
  • Cartographic Journal Cyfrol 58 (Rhif 1, Chwefror 2021).
  • Casemate Cyfrol 123 (Ionawr 2022).
  • Chapels Society Newsletter Cyfrol 79 (Ionawr 2022).
  • Current Archaeology Cyfrolau 379 – 384 (Hydref 2021 – Mawrth 2022).
  • Current World Archaeology Cyfrolau 109-111 (Hydref 2021 – Mawrth 2022).
  • Denbighshire Historical Society Transactions / Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych Cyfrol 69 (2021).
  • Domestic Buildings Research Group (Surrey) News Cyfrol 149 (Hydref 2021).
  • Essex Historic Buildings Group Newsletter Cyfrolau 1 a 2 (Ionawr a Chwefror).
  • Fort Cyfrolau 46 – 48 (2018-2020).
  • Industrial Archaeology Review Cyfrol 43 (Rhif 2, Tachwedd 2021).
  • Melin Cyfrol 37 (2021).
  • Mausolus: the journal of the Mausolea and Monuments Trust Cyfrol y Gaeaf (2021).
  • Merioneth Historical and Record Society Journal / Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd Cyfrol 18 (Rhan 4, 2021).
  • Pembrokeshire: the Journal of the Pembrokeshire Historical Society / Cylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Sir Benfro Cyfrol 30 (2021).
  • Proceedings of the Prehistoric Society Cyfrol 87 (2021).
  • Railway and Canal Historical Society Bulletin Cyfrolau 494 a 495 (Tachwedd 2021 a Ionawr 2022).
  • Railway and Canal Historical Society Journal Cyfrol 40 (Rhan 6, Rhif 242, Tachwedd 2021).
  • Regional Furniture Cyfrol 35 (2021).
  • Regional Furniture Society Newsletter Cyfrolau 72 – 76 (Gwanwyn 2020 – Gwanwyn 2022).
  • Sheetlines Cyfrol 122 (Rhagfyr 2021).
  • Tijdschrift van de Rijksdienst voor het Cultureel Erfgoed Rhan 4 (2021) a Rhan 1 (2022).
  • Tools and Trades History Society Newsletter Cyfrol 150 (Hydref 2021).
  • Vernacular Architecture Cyfrol 52 (2021).
  • Welsh History Review / Cylchgrawn Hanes Cymru Cyfrol 30 (Rhan 4, 2021: Rhagfyr).
  • Welsh Railways Archive Cyfrol 7 (Rhif 4, Tachwedd 2021) ac Atodiad.
  • Welsh Railways Research Circle Cyfrol 168 (Gaeaf 2021).
  • Yorkshire Buildings Cyfrol 48 (2020).

Cylchgronau: Ymwybyddiaeth Gyfredol

  • British Archaeology Cyfrol 182 (Ionawr/Chwefror 2022) t.30-35, Exploring English aerial archaeology online. Lansio app newydd sy’n rhoi mynediad am ddim i fapiau a chofnodion archaeolegol sy’n deillio o ffotograffiaeth o’r awyr ac arolygon laser.
  • Current Archaeology Cyfrol 379 (Hydref 2021) t.10 Darganfyddiadau trysor newydd yng Nghymru; t.32-41 The industrial sublime: Appreciating the slate landscape of Northwest Wales, Chris Catling.
  • Current Archaeology Cyfrol 380 (Tachwedd 2021) t.20-25 Trellyffaint: How excavating a Pembrokeshire portal dolmen illuminated Neolithic dairy farming in Wales, George Nash et al.
  • Current Archaeology Cyfrol 381 (Rhagfyr 2021) t.40-49 Picturing the past in Wales: The evolution of archaeological illustration, Chris Catling.
  • Current Archaeology Cyfrol 382 (Ionawr 2022) t.6 Earlier evidence of Neolithic dairy farming, Sian E. Rees; t.38-46, Shops ‘of the plainest kind’? The architecture of England’s co-operative movement, Chris Catling; t.66 The Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  • Current Archaeology Cyfrol 383 (Chwefror 2022) t.13 New discoveries at Pen Dinas Iron Age hillfort, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; t.36-45, Lost and found: Wall paintings and rood-screens in Welsh churches, Chris Catling.
  • Current Archaeology Cyfrol 384 (Mawrth 2022) t.30-38, Quarrying clues: exploring the symbolism of Neolithic stone extraction, Chris Catling.
  • Current World Archaeology Cyfrol 109 (Hydref/Tachwedd 2021) t.60-61 Recognising historic landscapes, Chris Catling – trafodir tirweddau llechi Cymru.
  • Railway and Canal Historical Society Journal Cyfrol 40 (Rhan 6, Rhif 242, Tachwedd 2021) t.326-342, Fishguard, Abermawr, Neyland: building the broad gauge in Pembrokeshire, Martin Connop Price.

Mae Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ar agor i’r cyhoedd bob Dydd Mawrth a Dydd Iau drwy apwyntiad. Ar 4 Ebrill 2022 byddwn yn ailagor 4 diwrnod yr wythnos, o Ddydd Llun i Ddydd Iau. Ni fydd angen gwneud apwyntiad wedyn, ac eithrio i weld ein casgliadau o awyrluniau. Rydym yn parhau i ateb ymholiadau o bell a chynigiwn wasanaeth sganio llawn.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU

Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English

02/28/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x