Photograph showing detail of the chancel ceiling at St Peter's Church, Penrhosgarnedd, Bangor, part of a survey conducted in 2019.

Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Ebrill 2023

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.

Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.

Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Archif

Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:

Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.

Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:

Awyrlun lletraws o fferm Parc-newydd, Moel Smytho, a dynnwyd yn ystod rhaglen y Comisiwn Brenhinol o waith chwilio am wybodaeth archaeolegol o’r awyr, a gyflawnwyd gan Toby Driver yn 2022. Cyfeirnod: AP2023_066_003
Awyrlun lletraws o fferm Parc-newydd, Moel Smytho, a dynnwyd yn ystod rhaglen y Comisiwn Brenhinol o waith chwilio am wybodaeth archaeolegol o’r awyr, a gyflawnwyd gan Toby Driver yn 2022. Cyfeirnod: AP2023_066_003.

Mae’r bwthyn a’i system gysylltiedig o gaeau yn enghraifft glir sydd wedi goroesi’n dda o feddiannu’r rhostir, a oedd yn rhywbeth cyffredin yn yr ardal hon ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/402689/

Ffotograff sy’n dangos gweddillion y dramffordd a oedd yn cysylltu’r brif ffynhonnell o fwyn â’r gwaith prosesu ym mwynglawdd aur Cefn Coch a oedd yn gweithredu rhwng 1862 a 1914
Ffotograff sy’n dangos gweddillion y dramffordd a oedd yn cysylltu’r brif ffynhonnell o fwyn â’r gwaith prosesu ym mwynglawdd aur Cefn Coch a oedd yn gweithredu rhwng 1862 a 1914. Cafodd y ffotograff ei dynnu yn 2002 a’i roi yn rhodd gan John Latham ynghyd â chasgliad o ffotograffau eraill a dynnwyd ganddo rhwng 1980 a 2002. Cyfeirnod: DD2023_005.

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/416293/

Ffotograff sy’n dangos rhai o’r posteri ym mar y myfyrwyr yn islawr neuadd breswyl Pantycelyn, a dynnwyd yn rhan o arolwg a gynhaliwyd o’r islawr yn 2019. Cafodd bar yr islawr ei gau ddiwedd yr 1980au ac mae’r posteri sydd wedi goroesi yn ddarlun sydyn prin o gerddoriaeth, digwyddiadau a sefydliadau gwleidyddol y cyfnod.
Ffotograff sy’n dangos rhai o’r posteri ym mar y myfyrwyr yn islawr neuadd breswyl Pantycelyn, a dynnwyd yn rhan o arolwg a gynhaliwyd o’r islawr yn 2019. Cafodd bar yr islawr ei gau ddiwedd yr 1980au ac mae’r posteri sydd wedi goroesi yn ddarlun sydyn prin o gerddoriaeth, digwyddiadau a sefydliadau gwleidyddol y cyfnod.

Pantycelyn oedd neuadd breswyl Gymraeg y Brifysgol o 1974 ymlaen, a bu’n gartref i sawl ffigwr pwysig. Yn eu plith y mae’r Tywysog Charles pan oedd yn fyfyriwr yno yn 1969, a’r hanesydd John Davies (1938-2015) a oedd yn warden y neuadd am ddeunaw mlynedd rhwng 1974 a 1992. Bu’r neuadd dan fygythiad sawl gwaith yn y 2010au a chafodd ei chau ym mis Medi 2015. Yn dilyn protestiadau gan fyfyrwyr, dechreuodd Prifysgol Aberystwyth ar raglen gwerth £12 miliwn i adnewyddu Neuadd Pantycelyn ddiwedd 2017.

Cyfeirnod: DS2023_433 Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/403952/

Ffotograff sy’n dangos y pulpud, y sedd fawr a’r organ yng Nghapel Moreia, Llangefni, a dynnwyd yn rhan o arolwg a gynhaliwyd yn 2023.
Ffotograff sy’n dangos y pulpud, y sedd fawr a’r organ yng Nghapel Moreia, Llangefni, a dynnwyd yn rhan o arolwg a gynhaliwyd yn 2023.

Capel Methodistiaid Calfinaidd Moreia yw un o gapeli mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus Ynys Môn. Cafodd ei adeiladu rhwng 1896 a 1898 yn lle’r capel a sefydlwyd yn 1794 gan John Elias, un o bregethwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru a fu’n byw yn y dref rhwng 1830 a 1841 (yr enw arall ar y capel yw ‘Capel Coffa John Elias’). Mae’r sedd fawr a’r pulpud cywrain ar lawer o wahanol lefelau, a chafodd yr organ fawr gan Wadsworth o Fanceinion ei gosod yn 1928.

Cyfeirnod: DS2023_397_024

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/8783/

Ffotograff sy’n dangos gweddillion y llong ddrylliedig a welir yn agos i farc y distyll ar draeth y Warren yn Abersoch, yn edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar draws y llong, gyda thrwyn y llong yn y tu blaen (gyda’r raddfa). Credir mai MARIA oedd enw’r llong, er nad yw hynny wedi’i gadarnhau, a chafodd y gweddillion sydd yn y golwg eu cofnodi ar 23 Chwefror 2023 yn rhan o Brosiect CHERISH. Cyfeirnod: DS2023_103_002
Ffotograff sy’n dangos gweddillion y llong ddrylliedig a welir yn agos i farc y distyll ar draeth y Warren yn Abersoch, yn edrych i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar draws y llong, gyda thrwyn y llong yn y tu blaen (gyda’r raddfa). Credir mai MARIA oedd enw’r llong, er nad yw hynny wedi’i gadarnhau, a chafodd y gweddillion sydd yn y golwg eu cofnodi ar 23 Chwefror 2023 yn rhan o Brosiect CHERISH. Cyfeirnod: DS2023_103_002.

Mae canlyniadau’r arolwg i’w gweld yma:

Cymraeg: https://skfb.ly/oEQLY
Saesneg: https://skfb.ly/oEAyG

Gwesty Wattstown: ffotograff a gafwyd yn ystod gwaith Cofnodi Brys yn 2012
Gwesty Wattstown: ffotograff a gafwyd yn ystod gwaith Cofnodi Brys yn 2012. Cafodd Gwesty Wattstown ei adeiladu tua 1900 i wasanaethu cymuned Wattstown a ddatblygodd o amgylch y Lofa Genedlaethol a agorwyd yn 1881. Mae’n adeilad rhestredig gradd II oherwydd ei fod yn enghraifft brin o westy glofa, nad yw wedi’i addasu fawr ddim, sy’n adeilad syml o ran ei ddyluniad ond eithaf helaeth o ran ei faint. Mae’r nodweddion mewnol yn cynnwys lleoedd tân o farmor du, caeadau ffenestri, fframiau drysau wedi’u mowldio, rheiliau dado a mowldinau ar y nenfydau.

Cyfeirnod: ERC2023_001_122_002

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/417466/

Ffotograff sy’n dangos manylion nenfwd y gangell yn Eglwys Sant Pedr, Penrhosgarnedd, Bangor, a dynnwyd yn rhan o arolwg a gynhaliwyd yn 2019.
Ffotograff sy’n dangos manylion nenfwd y gangell yn Eglwys Sant Pedr, Penrhosgarnedd, Bangor, a dynnwyd yn rhan o arolwg a gynhaliwyd yn 2019.

Cafodd Eglwys Sant Pedr ei hadeiladu yn 1956 ar sail dyluniadau gan P.M. Padmore mewn arddull lansed plaen, ac mae’n adlewyrchu dylanwadau’r pensaer Herbert North.

Cyfeirnod: DS2022_057_033

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/411861/

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BUFfôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English

06/06/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x