
Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Gorffennaf 2022
Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.
Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
Archif
Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:
- WC6 – Casgliad Llongddrylliadau [Deunydd yn ymwneud ag ymchwil a gyflawnwyd ar yr H5, sef llong danfor o’r Rhyfel Byd Cyntaf a suddwyd drwy gamgymeriad oddi ar arfordir Bae Caernarfon].
- MDCP – Casgliad Cynlluniau Eglwysi Martin Davies
- AHP – Casgliad Eglwysi Catholig yng Nghymru
- Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr
- GAT – Adroddiadau Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
- ISC – Negatifau Gorsaf Drydan Maentwrog gan Ian Sadler
- WMS – Casgliad Cymdeithas Melinau Cymru
- CHR – Archif Prosiect CHERISH
- Arolwg Gweithfeydd Copr Hafod a Morfa
- ENL – Casgliad E N Lockyer
- Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol
Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.
Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:






Llyfrau
Mae ein llyfrau a’n cyfnodolion i gyd wedi’u cofnodi ar Gatalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol ac mae modd eu gweld yn ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio.
- Archifdy Ceredigion Archives. 2020. Edrychwch yn ofalus : Arolwg o Sir Aberteifi / Look closely : Cardiganshire surveyed. Aberystwyth: Cyngor Sir Ceredigion.
- Drury, P. a McPherson, A. 2008. Conservation principles: policies and guidance for the sustainable management of the historic environment. London: English Heritage.
- English Heritage. 2007. Regeneration in historic coastal towns. London: English Heritage.
- Fishlock, Trevor. 2007. In this place: the National Library of Wales. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Owain, Eryl. 2022. William Morgan, Tŷ Mawr a’r Wybrant. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch.
Cyfnodolion
- Architects’ Journal Cyfrol 249 (Rhifyn 6, 23 Mehefin 2022).
- Context: Journal of the Institute for Historic Building Research Cyfrolau 163-164 (Mawrth-Mai 2020) a 168-169 (Mehefin-Medi 2021).
- Current Archaeology Cyfrol 389 (Awst 2022).
- Heritage Now: The Magazine of Historic Buildings and Places Cyfrol 02 (Haf 2022).
- The Georgian Cyfrol 1 (Gwanwyn 2022).
- The Georgian Group Journal Cyfrol 30 (2022).
- The Victorian Volume 70 (Gorffennaf 2022).
Cylchgronau: gwasanaeth ymwybyddiaeth gyfredol
- Current Archaeology Cyfrol 389 (Awst 2022), t.8 News in brief, Treasure in Wales – Bronze Age hoard found in Llanddeusant, Carmarthenshire. t.66 CAER Heritage.
- Georgian Cyfrol 1 (Gwanwyn 2022), t.27 Casework: Jezreel Baptist Chapel, Goginan; Plas Newydd, Llanfair Dyffryn Clwyd; St Paul’s Church, Stow Hill, Newport.
- Georgian Group Journal Cyfrol 30 (2022), t. 149-160 For dowager or disability? John Nash’s designs for the Countess of Shannon, Rebecca Tropp, yn cynnwys trafodaeth am filas Cymreig diweddarach Nash a’r grwpiau cronolegol y mae Richard Suggett yn eu defnyddio i’w categoreiddio.
- Heritage Now Cyfrol 02 (Haf 2022), t. 9-15 Casework, Llys Onnen, Abergele; All Saints Church, Aberystwyth; St Cadoc, Caerleon, Former Hebron Chapel, Monmouth; Saints Asaph and Cyndeyrn, St Asaph.
- Victorian Cyfrol 70 (Gorffennaf 2022), t. 18 Case notes: The Barmouth Railway Viaduct: Repair or Replace, Tom Taylor. t.19 Casework: Kinmel Hall, Conwy. t.23 Case study: Renewed: Victoria Pier, Colwyn Bay, Elgan Jones.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk
Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English
17/08/2022