
Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Hydref 2022
Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.
Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
Archif
Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:
- GATP – Archif Prosiectau Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
- ERC – Casgliad Cofnodi Brys
- RSA – Archif Richard Suggett
- Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol
- Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr
- Arolwg Cerbydau Awyr Di-griw yr Ymchwilwyr
Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.
Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:

Ffotograff lliw digidol sy’n dangos Sinema’r Empire, Caernarfon, o’r de-orllewin, a dynnwyd ar 7 Mai 2019. Cyf.: DS2022_058_003.

Ffotograff lliw digidol yn dangos Odyn Galch 4 Craiglas, yn rhan o arolwg o Odynau Calch Craiglas a gynhaliwyd ym mis Medi 2022. Mae’r grŵp o bedwar o odynau calch sydd wedi goroesi’n dda i’w weld yn agos i’r draethlin rhwng Llan-non a Llanrhystud yng Ngheredigion. Cyf.: DS2022_193_019.

Ffotograff lliw digidol yn dangos manylion murlun o lechi yng Ngholeg Technegol Sir Gaernarfon, a dynnwyd ar 7 Mai 2019 cyn bod yr adeilad yn cael ei ddymchwel yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Cyf.: DS2022_055_008.

Ffotograff lliw digidol yn dangos cerflun o Guto Nyth Brân yn Aberpennar, a dynnwyd ar 18 Mawrth 2022. Cyf.: DS2022_145_037.

Copi digidol o luniad heneb dan warcheidiaeth Cadw ar gyfer Carnedd Gron Barclodiad y Gawres. Cynllun gwaith cloddio, 1954. Cyfeirnod Cadw: 771//14C. Graddfa 1:120.
Llyfrau
Mae ein llyfrau a’n cyfnodolion i gyd wedi’u cofnodi ar Gatalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol ac mae modd eu gweld yn ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio.
- Humphreys, Melvin. 2022. Plas Newydd and the Manor of Talerddig. Welshpool: Welshpool Printing Company.
Cyfnodolion
- Antiquity Cyfrol 96 (Rhif 389, Hydref 2022).
- Architects’ Journal Cyfrol 249 (Rhan 10, Hydref 2022).
- Architects’ Journal: Specification (Hydref 2022).
- British Archaeology Cyfrol 187 (Tachwedd/Rhagfyr 2022).
- Current Archaeology Cyfrol 392 (Tachwedd 2022).
- Current World Archaeology Cyfrol 115 (Hydref/Tachwedd 2022).
- Essex Historic Buildings Group Newsletter Cyfrol 07 (Hydref 2022).
- Journal of the Merioneth Historical and Record Society Cyfrol 19 (Rhan 1, 2022).
- Regional Furniture Society Newsletter Cyfrol 77 (Hydref 2022).
- S.O.S.: The Newsletter of the Friends of the Newport Ship Cyfrol 30 (Hydref 2022).
- Tudor Places Cyfrol 1 (2022).
Cylchgronau: gwasanaeth ymwybyddiaeth gyfredol
- Antiquity Cyfrol 96 (Rhif 389, Hydref 2022) t.1179-1199 New integrated molecular approaches for investigating lake settlements in north-western Europe, Anthony Brown et al.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk
Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English
12/03/2022