Digital copy of a nitrate negative showing Llandaff Cathedral, c. 1950-60, while roof repairs were being carried out after the roof had been severely damaged by a German mine during an air raid on Cardiff in January 1941 (the Cardiff blitz). (Ref: CMC_PA_660_02). See more in our site record here: https://coflein.gov.uk/en/site/131

Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Ionawr 2023

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.

Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Archif

Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf: 

Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein. 

Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein: 

Ffotograff lliw digidol sy’n dangos y wal sydd bellach yn enwog yn Rockfield Studios, Trefynwy lle’r eisteddodd Liam Gallagher i ganu Wonderwall o’r albwm ‘(What's the Story) Morning Glory’ (Cyf.: DS2022_432_021). Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/545106/
Ffotograff lliw digidol sy’n dangos y wal sydd bellach yn enwog yn Rockfield Studios, Trefynwy lle’r eisteddodd Liam Gallagher i ganu Wonderwall o’r albwm ‘(What’s the Story) Morning Glory’ (Cyf.: DS2022_432_021).

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/545106/

Copi digidol o ffotograff du a gwyn sy’n dangos Fagwyr Uchaf, Ynys Môn yn oddeutu 1946. Cafodd ei roi i’r archif gan William Baquiast yr oedd ei daid/nain yn byw yma. Yn ôl William, cafodd y tŵr ei dynnu i lawr maes o law oherwydd ei fod yn gogwyddo’n beryglus ar y tŷ. Dywed William mai’r rheswm am hynny, yn ôl aelodau’r teulu, oedd mai dim ond tair wal oedd gan y rhan isaf, a’i bod wedi’i hadeiladu â thywod a gludwyd o’r traeth. Roedd felly’n llawn o halen môr ac yn dda i ddim ar gyfer gwaith adeiladu. (Cyf.: DD2022_026). Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/15687/
Copi digidol o ffotograff du a gwyn sy’n dangos Fagwyr Uchaf, Ynys Môn yn oddeutu 1946. Cafodd ei roi i’r archif gan William Baquiast yr oedd ei daid/nain yn byw yma. Yn ôl William, cafodd y tŵr ei dynnu i lawr maes o law oherwydd ei fod yn gogwyddo’n beryglus ar y tŷ. Dywed William mai’r rheswm am hynny, yn ôl aelodau’r teulu, oedd mai dim ond tair wal oedd gan y rhan isaf, a’i bod wedi’i hadeiladu â thywod a gludwyd o’r traeth. Roedd felly’n llawn o halen môr ac yn dda i ddim ar gyfer gwaith adeiladu. (Cyf.: DD2022_026).

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/15687/

Copi digidol o negatif nitrad sy’n dangos Eglwys Gadeiriol Llandaf yn oddeutu 1950-60 tra oedd y to’n cael ei atgyweirio, wedi iddo gael ei ddifrodi’n ddifrifol gan ffrwydryn Almaenig yn ystod ymosodiad o’r awyr ar Gaerdydd ym mis Ionawr 1941 (blitz Caerdydd). (Cyf.: CMC_PA_660_02). Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/131/
Copi digidol o negatif nitrad sy’n dangos Eglwys Gadeiriol Llandaf yn oddeutu 1950-60 tra oedd y to’n cael ei atgyweirio, wedi iddo gael ei ddifrodi’n ddifrifol gan ffrwydryn Almaenig yn ystod ymosodiad o’r awyr ar Gaerdydd ym mis Ionawr 1941 (blitz Caerdydd). (Cyf.: CMC_PA_660_02).

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/131/

Ffotograff lliw digidol sy’n dangos carreg arysgrifedig Llys-y-frân, a dynnwyd yn 2022. Ar y garreg biler hon, sy’n Heneb Gofrestredig, gwelir croes Ladin unionlin wedi’i naddu yn fras, sydd wedi’i haddurno â chylchoedd a smotiau. Arferai’r garreg fod yn bostyn giât ar fferm Velindre, ond mae wedi’i symud ers hynny. Cafodd y ffotograff ei roi gan Shirley Elwell ar ôl iddi wylio anerchiad gan Nancy Edwards am gerrig arysgrifedig o’r oesoedd canol cynnar yng Nghymru. (Cyf.: DD2023_001_01) . Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/304474/. Gallwch wylio’r anerchiad yma: https://www.youtube.com/watch?v=ABI7atrZhZw
Ffotograff lliw digidol sy’n dangos carreg arysgrifedig Llys-y-frân, a dynnwyd yn 2022. Ar y garreg biler hon, sy’n Heneb Gofrestredig, gwelir croes Ladin unionlin wedi’i naddu yn fras, sydd wedi’i haddurno â chylchoedd a smotiau. Arferai’r garreg fod yn bostyn giât ar fferm Velindre, ond mae wedi’i symud ers hynny. Cafodd y ffotograff ei roi gan Shirley Elwell ar ôl iddi wylio anerchiad gan Nancy Edwards am gerrig arysgrifedig o’r oesoedd canol cynnar yng Nghymru. (Cyf.: DD2023_001_01) .

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/304474/
Gallwch wylio’r anerchiad yma: https://www.youtube.com/watch?v=ABI7atrZhZw

Cyfuniad o Fodel Codiadau Tir Digidol (DEM) ac orthoffotograff, sy’n deillio o arolwg ffotogrametreg o’r gwaith haearn sy’n weddill o longddrylliad y Siloam yn Nolton Haven. Sgwner bren oedd y Siloam, a adeiladwyd yn 1868. Roedd yn 93 troedfedd o hyd ac roedd ganddi 3 mast. Adeg ei dryllio, ar 20 Chwefror 1892, roedd yn cludo mwyn haearn o Duddon i Lansawel pan gafodd ei dal mewn gwynt cryf categori 8 a’i gyrru i’r lan wrth yr aber yn Nolton Haven. Cafodd un aelod o’r criw ei ladd yn y llongddrylliad (Cyf.: UAV2022_049_013). Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/273000
Cyfuniad o Fodel Codiadau Tir Digidol (DEM) ac orthoffotograff, sy’n deillio o arolwg ffotogrametreg o’r gwaith haearn sy’n weddill o longddrylliad y Siloam yn Nolton Haven. Sgwner bren oedd y Siloam, a adeiladwyd yn 1868. Roedd yn 93 troedfedd o hyd ac roedd ganddi 3 mast. Adeg ei dryllio, ar 20 Chwefror 1892, roedd yn cludo mwyn haearn o Duddon i Lansawel pan gafodd ei dal mewn gwynt cryf categori 8 a’i gyrru i’r lan wrth yr aber yn Nolton Haven. Cafodd un aelod o’r criw ei ladd yn y llongddrylliad (Cyf.: UAV2022_049_013).

Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/273000

Books 

Mae ein llyfrau a’n cyfnodolion i gyd wedi’u cofnodi ar Gatalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol ac mae modd eu gweld yn ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio.

  • Adran Amaeth y Swyddfa Gymreig. 1984. Farming and Conservation in the Uplands. London: HMSO. 
  • Allan, John. 2022. Revaluing Modern Architecture: Changing Conservation Culture. Newcastle upon Tyne: RIBA Publishing. 
  • Aitchison, Kenneth and Edwards, Rachel. 2003. Archaeology Labour Market Intelligence: Profiling the Profession 2002/03. Bradford: Cultural Heritage National Training Organisation. 
  • Aitchison, Kenneth. 1999. Profiling the Profession: A Survey of Archaeological Jobs in the UK. York: Council for British Archaeology. 
  • Bassett, Douglas A. and Bassett, Michael G. 1971. Geological Excursions in South Wales and the Forest of Dean. Caerdydd: Cymdeithas y Daearegwyr (Grŵp De Cymru). 
  • Beaver, Christopher M. 2005. The Welsh Mailcoaches. Porthaethwy: Cymdeithas Ffilatelig Cymru. 
  • Beeton, Samuel Orchart. 1877. Beeton’s Dictionary of Universal Information. London: Ward, Lock & Co. 
  • Besly, Edward. 1987. Roman Coins Relating to Britain. Caerdydd: Amgueddfa Cymru. 
  • Bodleian Library. 1976. Bodleian Library Oxford. Norwich: Jarrold. 
  • Bohata, Kirsti, Morgan, Mihangel and Osborne, Huw. 2022. Queer Square Mile: Queer Short Stories from Wales. Aberteifi: Parthian. 
  • Boon, George C. 1987. The Legionary Fortress of Caerleon – Isca. Caerllion: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. 
  • Boughton, John. 2023. A History of Council Housing in 100 Estates. London: RIBA Publishing. 
  • Boughton, John. 2019. Municipal Dreams: The Rise and Fall of Council Housing. London: Verso. 
  • Boyd, Gary A. 2023. Architecture and the Face of Coal: Mining and Modern Britain. London: Lund Humphries. 
  • Breeze, David J. and Guest, Peter. 2022. Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales. Oxford: Archaeopress Archaeology. 
  • Cockman, F. G. 1988. Railway Architecture. Princes Risborough: Shire. 
  • Cooper, Anwen, Garrow, Duncan, Gibson, Catriona, Giles, Melanie and Watkin, Neil. 2022. Grave Goods: Objects and Death in Later Prehistoric Britain. London: Oxbow. 
  • Crocker, Glenys. 1986. The Gunpowder Industry. Princes Risborough: Shire. 
  • Crutchley, Simon. 2010. The Light Fantastic: Using Airborne Lidar in Archaeological Survey. Swindon: English Heritage. 
  • Dickie, John. 2020. The Craft: How the Freemasons Made the Modern World. London: Hodder & Stoughton. 
  • Edgington, David. 1990. Old Stationary Engines. Princes Risborough: Shire. 
  • Emery, F. V. 1969. The World’s Landscapes: Wales. London: Longmans, Green and Co. 
  • Fox, Sir Cyril, 1959. The Personality of Britain. Caerdydd: Amgueddfa Cymru. 
  • Gray, Madeleine, Hopkins, Tony and Whitey, Alun. 2022. The Commonplace Book of John Gwin of Llangwm (c. 1615 – c. 1680). Cwmbrân: Cymdeithas Cofnodion De Cymru. 
  • Griffin, A. R. 1986. The Collier. Princes Risborough: Shire. 
  • Hatherley, Owen. 2021. Modern Buildings in Britain: A Gazetteer. London: Penguin Books. 
  • Hobbs, Aubrey Thomas. 1954. Manual of British Water Supply Practice. Cambridge: Institute of Water Engineers. 
  • Jones, Craig Owen. 2022. Princely Ambition: Ideology, Castle-Building and Landscape in Gwynedd, 1194-1283. Hertfordshire: University of Hertfordshire Press. 
  • Kelly’s Directories. 1895. Kelly’s Directory of South Wales. London: Kelly and Co. 
  • Lord, Peter and Davies, Rhian. 2022. The Art of Music: Branding the Welsh Nation. Aberteifi: Parthian. 
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 1982. A Nation’s Treasury: The Story of the National Library of Wales. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  
  • Llywodraeth Cymru. 2014. Diwylliant a Thlodi: Defnyddio’r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth i Hybu Cyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru. Cymru: Llywodraeth Cymru. 
  • Morgan, Hugh. 2009. Craig-y-Pal: Holy Mount or Border Sentinel? Penfro: Monddi Dimond Press. 
  • North, F. J. 1937. Humphrey Lhuyd’s Maps of England and Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 
  • North, F. J. 1935. The Map of Wales Before 1600 A.D. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 
  • Payne, F. G. 1964. Welsh Peasant Costume. Caerdydd: Amgueddfa Cymru. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1951. The Buildings of England: Middlesex. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1952. The Buildings of England: North Devon. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1952. The Buildings of England: South Devon. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1958. The Buildings of England: North Somerset and Bristol. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1960. The Buildings of England: Buckinghamshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1960. The Buildings of England: Leicestershire and Rutland. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1962. The Buildings of England: North-East Norfolk and Norwich. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1962. The Buildings of England: North-West and South Norfolk. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1966. The Buildings of England: Berkshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1967. The Buildings of England: Cumberland and Westmorland. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1969. The Buildings of England: North Lancashire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1969. The Buildings of England: South Lancashire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1969. The Buildings of England: London – Volume Two. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1970. The Buildings of England: Cambridgeshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1972. The Buildings of England: Yorkshire: York and the East Riding. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus. 1974. The Buildings of England: Yorkshire, the West Riding. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Cherry, Bridget. 1973 (3rd edition). The Buildings of England: London – Volume One. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Cherry, Bridget. 1973 (2nd edition). The Buildings of England: Northamptonshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Cherry, Bridget. 1977 (2nd edition). The Buildings of England: Hertfordshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Harris, John. 1964. The Buildings of England: Lincolnshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Lloyd, David. 1967. The Buildings of England: Hampshire and the Isle of Wight. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Nairn, Ian. 1965. The Buildings of England: Sussex. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Newman, John. 1972. The Buildings of England: Dorset. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Newman, John. 1976 (2nd edition). The Buildings of England: North-East and East Kent. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Radcliffe, Enid. 1965 (2nd edition). The Buildings of England: Essex. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Radcliffe, Enid. 1974 (2nd edition). The Buildings of England: Suffolk. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Radcliffe, Enid. 1970 (2nd edition). The Buildings of England: Cornwall. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Richmond, Ian A. 1957. The Buildings of England: Northumberland. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Wedgwood, Alexandra. 1974 (2nd edition). The Buildings of England: Warwickshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Pevsner, Nikolaus and Williamson, Elizabeth. 1978 (2nd edition). The Buildings of England: Derbyshire. Harmondsworth: Penguin. 
  • Phillips, Tim and Creighton, John. 2010. Employing People with Disabilities: Good Practise Guidance for Archaeologists. Reading: Institute for Archaeologists. 
  • Read, David J. 2009. Combating Climate Change: A Role for UK Forests. Edinburgh: TSO. 
  • Rivington. 1901. Notes on Building Construction – Part 1. London: Longmans, Green and Co. 
  • Rivington. 1904. Notes on Building Construction – Parts 2 – 4. London: Longmans, Green and Co. 
  • Thomas, David. 1949. Hen Longau a Llongwyr Cymru/Old Ships and Sailors of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 
  • Trevelyan, Marie. 1910. Llantwit Major: Its History and Antiquities. Casnewydd: John E. Southall. 
  • Walker, Fred M. 1981. Steel Ship Building. Princes Risborough: Shire.  Watson, Ann. 1976. Norman Invasions: A Marcher Lord. Edinburgh: Martins. 
  • Webster, Christopher. 2022. Late-Georgian Churches: Anglican Architecture, Patronage and Churchgoing in England, 1790-1840. London: John Hudson Publishing. 
  • Williams, Isaac J. 1932. The Nantgarw Pottery and its Products: An Examination of the Site. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 

Cyfnodolion

  • The Antiquaries Journal Cyfrol 102 (2022). 
  • Antiquity Cyfrol 96 (Rhif 390, Rhagfyr 2022). 
  • Architects’ Journal Cyfrol 249 (Rhifyn 12, 15 Rhagfyr 2022). 
  • AJ Specification Cyfrol Rhagfyr (2022). 
  • British Archaeology Rhifyn 188 (Ionawr/Chwefror 2023). 
  • The Carmarthenshire Antiquary Cyfrol 58 (2022). 
  • The Cartographic Journal Cyfrol 58, Rhannau 03 – 04 (Awst – Tachwedd 2021) a Chyfrol 59, Rhannau 02 – 03 (Mai – Awst 2022). 
  • Current Archaeology Rhifynnau 394 (Ionawr 2023) a 395 (Chwefror 2023). 
  • Current World Archaeology Rhifyn 116 (Rhagfyr 2022/Ionawr 2023). 
  • Etifeddiaeth y Cymry (2022). 
  • Essex Historic Buildings Group Newsletter Cyfrol 001 (Ionawr 2023). 
  • Fort: The International Journal of Fortification and Military Architecture Cyfrol 49 (2021). 
  • The Georgian: The Magazine of the Georgian Group Cyfrol 2 (2022). 
  • Heritage in Wales (2022). 
  • Journal of Community Archaeology and Heritage Cyfrol 09 (Rhan 04, Tachwedd 2022). 
  • Journal of the Staffordshire Industrial Archaeology Society Cyfrol 17 (1999). 
  • Morgannwg: The Journal of Glamorgan History Cyfrol 66 (2022). 
  • Proceedings of the Monmouthshire Antiquarian Association Cyfrol 37 (2022). 
  • Railway and Canal Historical Society Bulletin Cyfrol 501 (Ionawr 2023). 
  • Regional Furniture Cyfrol 36 (2022). 
  • Regional Furniture Society Newsletter Cyfrol 78 (Gaeaf 2023). 
  • Sheetlines Cyfrol 125 (Rhagfyr 2022). 
  • Sheetlines: Index 69-125 and Annual Report and Accounts (2022). 
  • Studia Celtica Cyfrol 056 (2022). 
  • Talyllyn News Cyfrol 276 (Rhagfyr 2022). 
  • The Victorian Cyfrol 71 (Tachwedd 2022). 
  • The Welsh History Review Cyfrol 31, Rhan 02 (Rhagfyr 2022).

Cylchgronau: gwasanaeth ymwybyddiaeth gyfredol

  • Current Archaeology Rhifyn 395 (Chwefror 2023) t.42-49 Pondering Penywyrlod, Chris Catling. 
  • The Victorian Cyfrol 71 (Tachwedd 2022) t.22 Casework: Pwllycrochan Hotel, Colwyn Bay 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU

Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English

02/13/2023

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x