
Comisiwn Brenhinol Archif & Llyfrgell Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Mawrth 2023
Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.
Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
Archif
Mae eitemau archif wedi’u hychwanegu i’r casgliadau canlynol yn ystod y mis diwethaf:
- Y Casgliad Rhoddion Digidol Cyffredinol
- BMA – Casgliad Archaeoleg y Mynyddoedd Duon
- Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr
- Archifau Prosiectau Archaeology Wales
- Archif Prosiectau Headland Archaeology
- RCCS22 – Prosiect CHERISH
- Casgliad Ffermydd Cwningod CBHC
- Casgliad Gwasanaethau Archaeolegol a Threftadaeth ArchaeoDomus
- Arolwg Cerbydau Awyr Di-griw yr Ymchwilwyr
- Casgliad Castell Tan y Castell
- Archifau Prosiect Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys
- Casgliad Paul R. Davis
Copïau caled yw llawer o’r eitemau hyn, sy’n cynnwys cynlluniau ar raddfa fawr, ffotograffau ac adroddiadau, ac maent ar gael i’w gweld yn ein hystafell chwilio yn Aberystwyth. Mae eitemau eraill yn rhai digidol y gellir eu gweld ar ein catalog ar-lein Coflein.
Dyma rai o’r eitemau sydd wedi’u catalogio erbyn hyn ac sydd ar gael ar Coflein:

Mae Bryn Eglwys yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, sef adeg pan oedd y diwydiant cloddio am blwm yn Nylife yn ffynnu. Mae gan y tŷ gysylltiadau cryf â’r gweithfeydd plwm oherwydd bod y deiliaid cynnar yn gweithio yn y diwydiant. Nid yw tu mewn y tŷ wedi’i addasu fawr ddim ers iddo gael ei adeiladu. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel yn 2020.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/545133/

Mae’r eglwys ganoloesol ar Ynys Seiriol oddi ar Ynys Môn, sy’n heneb gofrestredig, o bwys cenedlaethol oherwydd ei photensial i wella ein gwybodaeth am fynachlogydd eglwysig canoloesol cynnar. Mae potensial archaeolegol o bwys yn perthyn iddi o hyd, ac mae tebygolrwydd cryf bod dyddodion a nodweddion archaeolegol cysylltiedig yn bresennol ar y safle.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/424033/

Mae Neuadd Clarence yn adeilad Gothig Fictoraidd a ddyluniwyd gan E. A. Johnson yn 1890. Fe’i hadeiladwyd o dywodfaen lleol a cherrig nadd, ac mae wedi’i henwi ar ôl Dug Clarence a osododd y garreg sylfaen. Yn ôl Pevsner, mae’r adeilad yn ychwanegu naws Fictoraidd herfeiddiol â’i du blaen tebyg i gapel a’i dŵr cornel a’i do serth talcen slip. Mae’n cynnwys rhai manylion gorwych megis y lwfer o garreg nadd uwchben y drws. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu yn 2022.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/545135/

Cafodd Canolfan Campau Dŵr Plas Menai ei dylunio gan Bill Davies o Bartneriaeth Bowen Dann Davies, ac mae’n un o brosiectau mwyaf y bartneriaeth hyd yma. Mae’r ganolfan fel pe bai’n sensitif i’r ardal ac mae llinell risiog ei thoeau’n cyd-fynd â thirwedd gyfagos Eryri a’r môr. Mae ardaloedd mewnol ac allanol y ganolfan yn adlewyrchu dylanwad y pensaer o America, Frank Lloyd Wright (1867–1959), a’r pensaer o’r Ffindir, Alvar Aalto (1898–1976). Enillodd yr adeilad Wobr gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig yn 1984, y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985, a Chanmoliaeth gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn 1986. Dywedodd Richard Weston yn 2002 y gellid dadlau mai’r adeilad hwn, o blith yr holl adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod y chwarter canrif olaf, oedd yr adeilad mwyaf dylanwadol a’r adeilad a gâi ei edmygu fwyaf.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/406861/

Hen gwt gofalwr a godwyd wrth ymyl prif ffordd yr A4061 uwchlaw Treherbert, sy’n mynd dros fynydd y Rhigos. Saif y cwt islaw tarren Cwar Du, ac arferai fod yn lloches i ‘ofalwr’ a fyddai’n archwilio’r ffordd er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw greigiau a defaid arni. Roedd yn cael ei gyflogi gan y cyngor i gael gwared ag unrhyw rwystrau i geir a oedd yn pasio – a oedd yn beryglus tu hwnt yn y tywyllwch. Roedd cwt bach yn cyd-fynd â’r swydd, y gellid ei ddefnyddio mewn tywydd gwael. Bu’r gofalwr olaf, sef George Cole, yn cyflawni’r swydd am 16 blynedd a daeth yn enwog am greu cerfluniau bach o blastig a gwifrau copr wedi’u taflu, a fyddai’n addurno’r dirwedd o amgylch y cwt. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r cwt ddechrau’r 1990au pan osododd y cyngor rwyllau ar y creigiau uwchben er mwyn eu hatal rhag disgyn ar y ffordd.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/424630/

Cafodd Eglwys Gatholig Atgyfodiad Ein Prynwr ym Morfa Nefyn ei chodi yn 1967-68 oherwydd y nifer gynyddol o bobl a oedd yn ymweld â’r ardal yn yr haf. Mae’r eglwys yn cynnwys cyfres o 12 o ffenestri dalle de verre gan yr artist Jonah Jones. Yn 2016, nododd Esgob Wrecsam y dylid cau’r eglwys, ac yna rhoddodd swyddogion cynllunio ganiatâd iddi gael ei dymchwel yn 2019 a chafodd y ffenestri a nodweddion eraill eu cofnodi.
Gallwch weld mwy yn ein cofnod safle yma: https://coflein.gov.uk/cy/safle/421669/
Llyfrau
Mae ein llyfrau a’n cyfnodolion i gyd wedi’u cofnodi arGatalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol ac mae modd eu gweld yn ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio.
Cyfnodolion
- Antiquity Cyfrol 97, Rhif 391 (Chwefror 2023).
- Archive Cyfrol 117 (Mawrth 2023).
- Building Conservation Directory Cyfrol 30 (2023).
- The Chapels Society Newsletter Cyfrol 83 (Chwefror 2023).
- DBRG News Cyfrol 153 (Ionawr 2023).
- Eavesdropper Cyfrol 66 (Gwanwyn 2023).
- Essex Historic Buildings Group Newsletter Cyfrol 03 (Ebrill 2023).
- Journal of Community Archaeology and Heritage Cyfrol 10, Rhifyn 01 (Chwefror 2023).
- Melin: The Journal of the Welsh Mills Society Cyfrol 38 (2022).
- Railway and Canal Historical Society Bulletin Cyfrol 502 (Mawrth 2023).
- Railway and Canal Historical Society Journal Cyfrol 41, Rhan 01, Rhif 246 (Mawrth 2023).
- Sheetlines Cyfrol 126 (Ebrill 2023).
- Tools and Trades Cyfrol 154 (Gwanwyn 2023).
- Welsh Mills Society Newsletter Cyfrol 150 a Chyfrol 151 (Ionawr ac Ebrill 2023).

Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BUFfôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk
Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English
05/22/2023